top of page

Rhoi'r gorau iddi?

Clywsom yn ystod y dyddiau diwethaf am ddau berson amlwg iawn yn cyhoeddi eu bod am roi’r gorau iddi. Y cyntaf oedd arwr pêl-droed Cymru, Gareth Bale, a’r ail oedd Jacinda Ardern, Prif Weinidog Seland Newydd.


Roedd y ddau wedi ennill eu plwyf yn haeddiannol: Gareth am ei wrhydri ar y maes chwarae dros Gymru am nifer helaeth o flynyddoedd, gan arwain ei dim i rownd gynderfynol Cwpan Ewrop ac i rowndiau terfynol Cwpan y Byd; a Jacinda (os caf fod mor hy’) am arwain ei gwlad drwy’r pandemig a thrychineb terfysgol gydag urddas a dewrder arbennig.


Chawson ni ddim llawer o resymau gan Gareth ynghylch ei benderfyniad, ond dyw hi ddim yn anodd dychmygu fod ei gorff wedi rhoi rhybudd go glir iddo ei bod hi’n amser gorffwyso. Ac wedi gyrfa mor ddisglair, gan ennill y prif wobrau i gyd, onid trist fyddai gweld pencampwr o’i safon o yn raddol ddirywio o gêm i gêm? Ac un peth y dwedodd o wrth gyhoeddi ei ymddeoliad oedd ei fod yn edrych ymlaen at dreulio mwy o amser gyda’i deulu ifanc, a chyn hir, dod yn ôl i fyw yn ei gartref moethus yng Nghymru.


Yn achos y gwleidydd o Seland Newydd, cawsom gip ar y pwysau rhyfeddol y mae rhywun yn ei sefyllfa hi yn gorfod ei ddioddef – o ran ei swyddogaeth ynghyd â’r sylwadau maleisus a rennir ar y cyfryngau cymdeithasol. A chyda gonestrwydd amheuthun a phrin iawn yn y byd sydd ohoni, mi gyfaddefodd ei bod wedi colli ei brwdfrydedd, ac yn syml, yn methu codi’r awydd i barhau yn ei swydd.


Dau ymddeoliad arwyddocaol, a chwbl ddealladwy. Dau berson arbennig wedi cyrraedd pen eu tennyn. Ond anogaeth Iesu Grist i’w ddisgyblion wrth iddyn nhw gychwyn ar eu gwaith mawr oedd iddyn nhw ddal ati doed a ddelo; a pheidio rhoi’r gorau iddi, beth bynnag oedd yn cael eu taflu atyn nhw. “Byddwch yn llawen. Mwynhewch er gwaetha’r cwbl”, oedd yr anogaeth.


Ond wrth gwrs, rwy’n cyfeiliorni braidd, a’r pwynt mae Iesu yn ei wneud yw na ddylem ni fyth ddigalonni, ac y dylem ganfod ffyrdd i gyflawni ein dyletswyddau sy’n gydnaws a’n hamgylchiadau. Y gobaith yn sicr yw bydd Gareth Bale yn parhau i gyfrannu i bêl-droed yng Nghymru mewn dull a fydd yn addas; ac y bydd Jacinda Adern yn parhau i gyfrannu i fywyd ei chenedl a’i byd am flynyddoedd i ddod, heb i’r byd eu llethu’n llwyr.

bottom of page