Rwy’n digwydd bod yn aelod a swyddog mewn eglwys ble mae dau enwad wedi dod at ei gilydd i gydaddoli a chydweithio mewn un capel. Fe ddigwyddodd hynny i raddau oherwydd rhai anawsterau a wynebai un enwad gyda’i adeilad, ond yn bennaf oherwydd awydd a dycnwch eu swyddogion (a dogn da o synnwyr cyffredin) i gydied yn y newid a wynebid a’i reoli.
Nid mater hawdd ydi wynebu unrhyw sefyllfa ble mae’r hyn sydd o’ch cwmpas yn dechrau edwino a phwysau o’r ‘gorffennol’ (a hyd yn oed o’ch cymuned) yn mynnu eich bod yn ‘dal ati’ i gynnal am mai felly y bu hi. Mae’n hollol wir fod ein teyrngarwch dros adeilad a’i gysylltiadau dros aml i genhedlaeth yn medru pwyso’n drwm wrth i eglwysi wynebu realiti heddiw, ond y gwir amdani hi ydi ein bod ni’n esgeulus wrth adael i bethau lithro a mynd yn rhy bell cyn i ni orfod newid. A phan ddigwydd hynny mae hi’n rhy hwyr i’w reoli fo.
Mae ein heglwys ni yn Henaduriaeth Gogledd Gwynedd. Edmygaf yn arw’r gweinidogion a’r swyddogion o’n plith sy’n fynychwyr a gweithwyr yr Henaduriaeth yma. Does dim amheuaeth na chynhelir trafodaethau manwl ac ystyrlon yn y gwahanol gyfarfodydd a chofnodir yn raenus mewn adroddiadau hynod daclus. Ond yr hyn sydd fwyaf trawiadol bellach ydi’r holl eglwysi sy’n cau a’r holl adrodd ar hynny.
Wn i ddim erbyn hyn ble rydan ni arni fel enwadau efo’r hyn a elwid yn ‘strategaeth’ ble medrir edrych ar ardal a gweld beth ydi sefyllfa’r capeli o ran cynaladwyedd at y dyfodol. A thybed a ydi hynny’n beryg o gael ei ddehongli fel trafod cyflwr adeiladau yn unig? Mae’n rhy hawdd gadael i’r gynffon ysgwyd y ci.
Wrth ystyried trafodaethau’r degawdau diwethaf a’r holl bwyllgora a fu yn ceisio cael gafael ar sut i symud ymlaen efo’n gilydd, boed hynny ymysg enwad neu rhwng enwadau a’i gilydd, mae’n ymddangos na chafwyd gafael ar yr hyn sydd angen ei wneud. Wn i ddim a oedd, ac a ydi arian yn o agos at graidd y diffyg yna. Er bod yna, mae’n debyg, stôr go dda o hwnnw rhwng yr enwadau i gyd? Ai cyndyn i rannu ydan ni neu’n rhy geidwadol i fuddsoddi mewn adeiladau sydd, ac a fydd, yn ganolfannau addoli cryf mewn ardaloedd – canolfannau a all wynebu a rheoli newid? Ac o safbwynt benthyciadau ariannol (sydd yn aml yn rhai di-log) mae’n anodd meddwl pwy fydd yna o gwmpas i fynd ati i’w had-dalu rhyw ddydd.
Mewn dwy o’n hoedfaon diweddar fe gyfeiriodd y pregethwyr at eu profiadau yn arwain gwasanaethau i gynulleidfaoedd bychain. Mae eu sylwadau wedi aros efo mi am y rheswm mai gwir ergyd eu geiriau oedd mai bregus iawn ydi dyfodol yr eglwysi y cyfeirid atynt. Gwn yn dda bod y mannau addoli hyn yn eithriadol o bwysig ym mywydau’r selogion a bod capel yn eglwys beth bynnag ydi ei faint neu’r nifer mewn cynulleidfa. Ac onid cynnal a chryfhau gwerth yr addoli ydi calon a chraidd yr holl ‘drafodaeth’ yma i fod?
Mae yna beryg ein bod ni’n hollol eironig yn colli golwg ar hynna hyd yn oed yn yr G21 pan fo holl lwyfannau technoleg a chyfathrebu ar gael i ni. Gan bwy mae’r awydd i arwain tybed?
Comments