Gorwelion Newydd: Cynhadledd flynyddol 2022
Ar-lein: trwy gyfrwng Zoom ar fore Sadwrn, 19 Tachwedd 2022.
Crynodeb o anerchiad John Roberts, BBC Cymru.
Yng nghynhadledd flynyddol C21 ar 19 Tachedd 2022 gofynnwyd i John Roberts i grynhoi rhai o heriau’r cyfnod nesaf ar gyfer Cristnogaeth yng Nghymru a C21 yn benodol. Dyma grynodeb o’i brif bwyntiau.
Rhai heriau cyfredol
Her sylfaenol yw’r angen i i osgoi bod yn fewnblyg ac osgoi meithrin meddylfryd sectyddol. Clwy’r cyfryngau cymdeithasol yw hynny. Mae’n her i bawb ohonom i sicrhau trafodaeth agored, gan gynnwys pobl nad ydyn nhw o'r un safbwynt â ni. Mae angen hefyd inni ddarllen diwinyddion o draddodiadau a diwylliannau gwahanol i ni, gan ddysgu arddel pobl sydd yn cyffesu Crist er nad ydym yn cytuno â’i dehongliadau. Mae angen darganfod tir cyffredin rhwng ein gilydd yn hytrach na chondemnio yn unig.
Mae yna her hefyd i ddiogelu cydbwysedd rhwng argyhoeddiadau a chynnal proses o gwestiynu cyson. Unwaith mae ganddo ni afael di-gwestiwn ar y syniad o Dduw, rydym wedi creu eilun. Mae dirgelwch Duw yn ein gorfodi i ofyn cwestiynau am ein ffydd a dydi hynny ddim yn gwadu argyhoeddiadau cryfion.
Mae heriau cyfundrefnol sylweddol yn wynebu’r Eglwys. Mae’r strwythur yn gofyn am lawer iawn o sylw wrth i'r enwadau ddirywio. Yr her yw i ni beidio cael ein llyncu gan barhad y sefydliad boed hwnnw boed yn enwad, gapel neu ffordd arbennig o wneud pethau.
Mae yna her sylweddol i ddatblygu ffordd newydd o fod yn eglwys. Mae COVID-19 wedi gorfodi newid ac wedi sefydlu’r We Fyd-eang fel un cyfrwng. Ond mae’n syndod pa mor barod yw pawb i lithro nol i'r hen rigolau, neu ddisgwyl y bydd rhoi camera yn y capel yn golygu ein bod yn llwyddo i ddenu cynulleidfa newydd. Rhaid bod yn llawer iawn mwy mentrus.
Mae her yn ein hwynebu i gryfhau a hyd yn oed ail sefydlu arweinyddiaeth leol. Mae gweinidogion, oherwydd ansicrwydd eu dyfodol, yn tueddu i feddiannu popeth yn hytrach na cheisio hybu arweinyddiaeth leol sy’n perthyn i'r gymuned ac yn deall y gymuned. Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi gwneud peth gwaith drwy ordeinio offeiriaid di-dal ac ati.
Mae’n her i greu addoliad sydd yn rhoi gwefr i bobl ac sydd yn eu codi a'u calonogi. Yn ein perthynas efo Duw y mae ein gobaith.
Mae’n her i gyfathrebu’n fwy effeithiol, gan ystyried gyda phwy y mae rhywun yn cyfathrebu, a deall eu hangen hwy yn hytrach na chyfleu rhywbeth sydd yn ein bodloni ni yn unig. Mae modd llethu pobl efo syniadau (nid nad oes eisiau bod yn feddylgar) ond efallai mai’r hyn mae pobl ei angen ydi cwtsh ysbrydol. Mae angen i Gristnogion weld eu hunain fel pobl sy’n caru ei gilydd ac yn cefnogi ei gilydd yn eu bywydau bob dydd.
Her arall yw i ni lapio ein cymdeithas a'n byd mewn cariad, gan adnabod angen ein cymunedau, ein gwlad a'n byd. Mae angen hynny yn arbennig y dyddiau hyn:
Yn wyneb argyfwng costau byw mae angen i greu lle saff, cynnes, pryd o fwyd i bobl. Hyd yn oed os yw eglwys yn gorfod agor ei chadw mi gei, rhaid dangos consyrn am bobl.
Yn wyneb yr argyfwng tai, yn enwedig yn yr ardaloedd gwledig, rhaid darganfod ffordd i ddweud mai adnodd cymdeithasol ac nid adnodd eglwys yw adeilad.
Yn wyneb agweddau at ffoaduriaid ac at ryfel, rhaid sicrhau fod llais croeso a chariad, heddwch a chyfiawnder yn cael ei glywed o hyd.
Her hefyd fydd creu partneriaethau buddiol i gyflawni ein tasg. Credo lleiafrif ydi cred y Cristion yng Nghymru a does dim modd i ni wneud y cyfan ar ein pen ein hunain. Llunio a datblygu partneriaethau gydag elusennau a chyrff lleol yw'r unig ffordd i fod yn wirioneddol effeithiol wrth geisio gwasanaethu cymdeithas gyda'i holl anghenion.
Awn ati. Wynebwn ein heriau gyda’n gilydd.
* * *
Comments