top of page

Rhagluniaeth Fawr y Nef

Bedwar ugain mlynedd yn ôl cyrhaeddodd byddin Rwsia y ffatrïoedd llofruddio a adwaenid fel Auschwitz yng Ngwlad Pŵyl. Lladdwyd dros filiwn o bobl yno, y mwyafrif llethol yn Iddewon.

 

Un o ryfeddodau’r gwersylloedd oedd bod yno hyd at chwech cerddorfa â’u haelodau i gyd yn garcharorion. Dyna un o’r ffyrdd prin i gadw’n fyw. Eu gwaith oedd difyrru’r swyddogion ynghyd â chwarae alawon hyfryd i ‘groesawu’ newydd-ddyfodiaid oddi ar y wagenni gwartheg, gan greu’r argraff, mae’n debyg, fod popeth yn iawn wrth iddyn nhw gerdded dan yr arwydd uwchben y fynedfa, ‘Mae gwaith yn eich gwneud yn rhydd’.

 

Mewn rhaglen deledu ddiweddar yn dwyn y teitl Cerddorion Auschwitz soniodd un hen wraig a oroesodd ei bod yn cofio chwarae alawon bywiog, poblogaidd un prynhawn hyfryd o haf i griw o swyddogion yr SS, a’r rheiny mewn hwyliau yn yfed eu cwrw ac yn agor poteli siampên. Yn sydyn daeth cwestiwn i’w meddwl, ‘Ble mae Duw?’. Allwn ni ddim dychmygu ei gwewyr, ei chywilydd a’i hofnau a hithau’n chwarae o fewn golwg y ffwrneisi amlosgi.

 

Wyth deg mlynedd yn ddiweddarach cawsom glywed ble mae sylw Duw bellach. Clywsoch yn araith yr Arlywydd Donald J Trump ddatganiad diamwys wrth gyfeirio at yr ymgais i’w ladd gan saethwr yn Pennsylvania. “I believe that my life was saved for a reason. I was saved by God to make America great again”. Cododd y dorf ar eu traed i’w gymeradwyo ac roedd miliynau o Gristnogion ledled America yn cytuno ag o. Mae mwyafrif aelodau eglwysi efengylaidd – y rhai gwyn o leiaf – yn credu yn ddiysgog bod Duw wedi dewis Trump i buro America  ac i adfer y glendid a fu.

 

A minnau, Gristion llugoer, wedi fy nysgu i gredu geiriau Waldo yn y Tangnefeddwyr: “Cenedl dda a chenedl ddrwg/ Dysgent hwy mai rhith yw hyn.” Wel, eat your heart out Waldo bach fel y dywedai’r Donald yn ddiau. Un peth bach od yn y seremoni oedd bod gan Melania ddau feibl yn ei llaw, un a ddefnyddiai Abraham Lincoln ac un a fu ym meddiant mam Trump. Ond ddaru o ddim tyngu ei lw i’r cyfansoddiad ar yr un ohonyn nhw.

 

Coctel peryglus ac ymfflamychol fu ac ydi crefydd sefydliadol a grym gwleidyddol pan ddônt yn rhy gyfeillgar. Mae’r naill yn tynnu’r gwaethaf allan o’r llall ac yn arwain bron yn ddi-feth at gaethiwo barn a llygredd. Ai dyna ystyr y cyngor yn y Testament Newydd, ‘Talwch bethau Cesar i Gesar a pethau Duw i Dduw”?

 

Yn Rwsia ar ȏl degawdau o ymlid gan y wladwriaeth mae Eglwys Uniongred Rwsia wedi mynd yn llawforwyn i’r thug Putin, fel y gwnaeth prif eglwysi’r Almaen ildio i awdurdod Hitler. Yn Iwerddon digwyddodd peth rhyfeddach. Ildiodd y llywodraeth dan arweiniad naïf De Valera gyfrifoldeb dros addysg a iechyd i’r Eglwys Gatholig gan arwain at annhegwch mawr i dlodion sy’n dioddef cyflyrau tymor hir ac at gamdriniaeth ar raddfa sydd wedi dwyn anfri a gwawd ar yr Eglwys. Peth peryglus ydi grym.


Welwyd dim byd tebyg yng Nghymru am nad oedd grym gwleidyddol gennym. Y peth agosaf fu’r cyd-blethu rhwng Rhyddfrydiaeth yn ei rhwysg a’r eglwysi Anghydffurfiol ffyniannus ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ac yn ei ddwy gyfrol bwysig am y cyfnod,  Ffydd ac Argyfwng Cenedl, mae R. Tudur Jones yn olrhain chwalfa’r drefn anghydffurfiol i’r colli cyfeiriad ddigwyddodd yn ystod yr union gyfnod hwnnw o lwyddiant.

 

Ac nid yw Cristnogaeth ei hun yn eithriad. Yn India mae’r Prif Weinidog Modi wedi defnyddio Hindŵaeth i erlyn Mwslimiaid a phawb arall. Tra yn Iran mae’r cyfuniad o Fwslemiaeth ffwndamentalaidd a grym gwleidyddol wedi creu gwladwriaeth ranedig, filitaraidd dreisgar. A heno yn Israel mae ail ddyfodiad Trump wedi ymwroli Iddewon eithafol i ymosod ar Balestiniaid yn y Lan Orllewinol.

 

Gall apêl emosiynol crefydd roi clogyn o barchusrwydd i wleidyddion tra mae grym gwleidyddol yn galluogi awdurdodau crefyddol i orfodi eu cyfundrefn foesol ar bobl. Mae Duw yn handi iawn i gyfiawnhau popeth ac unrhyw beth, mae’n debyg.

 

Yn ôl at gerddorion Auschwitz. Daeth y rhaglen i ben gydag un o’r goroeswyr, hen ŵr, yn sôn am beryglon ffasgaeth. Edrychodd  i lygad y camera, “Gall ddod mewn dillad gwahanol ond mae’n rhaid i ni fod yn wyliadwrus iawn”.

 

Alun Ffred Jones

9 Chwefror 2025

 

Comentarios


bottom of page