Rhag seintiau sur eu hwyneb, Arglwydd da,gwared ni.
- 2 days ago
- 2 min read
Mae bron i ddeng mlynedd ers i ni symud o Gymru i fyw yn y Rhineland sef yr Almaen Gatholig Rufeinig. Mae eglwys Gatholig ym mhob pentref – er bod llai o offeiriaid y dyddiau hyn, ac ar ôl i’r sgandalau cam-drin rhywiol o fewn yr eglwys ddod i’r amlwg yn y blynyddoedd dwytha mae’r ‘ffyddloniaid’ wedi gadael yn lluoedd. Dim ond un eglwys Brotestannaidd sydd yn ein sir ond dydw i ddim wedi mentro yno eto ond mynychais eglwys y pentref am nifer o flynyddoedd – nes i’r offeiriad ddarganfod nad oeddwn yn Gatholig a gofyn i mi beidio â chymryd y cymun ! Ond eto, does gen i ddim rhagfarn tuag at Gatholigion – yn wir, mae gen i lawer i’w ddiolch i’r nifer o athrawon yn Pacific School of Religion yng Nghaliffornia oedd o’r ffydd honno – yn enwedig rhai o’r gwragedd fel Rosemary Radford Ruther. Cynigiodd ei llyfr Sexism and God-Talk heriau pwysig i’r safbwyntiau a’r dehongliadau ysgrythurol patriarchaidd roeddwn wedi’u hamsugno nes I mi ail-lunio cymaint o fy meddwl crefyddol.
Ond... alla i ddim mynd i’r afael â’r holl seintiau ac eiconau sydd mor bwysig i’r Ffydd Gatholig.
Pan fyddwn ni’n teithio, mae fy mam-yng-nghyfraith, Gisela, yn gweddïo ar Sant Christopher... pan fydd rhywbeth ar goll neu wedi’i gamleoli ( fel yn aml goriad fy nghar) – mae hi’n gweddïo ar Sant Anthony... pan oedd gen i ganser, gweddïodd hi’n daer ar Sant Peregrine. Mae hi’n ddynes graff ond cafodd ei haddysg ffurfiol ei darfu gan yr Ail Ryfel Byd. Cawsant eu hymgilio i Dresden a phan gyrhaeddodd y Rwsiaid, torrodd ei mam ei gwallt a’i gwisgo fel bachgen i osgoi ‘treisio gan y concwerwyr’ ac yna cerdded drwy adfeilion y rhyfel yn ôl i’w pentref ar y ffin â’r Iseldiroedd. Mae ffydd Gisela wedi’i chario drwy gamesgoriadau, marwolaeth sydyn un o’i meibion, y ‘sioc’ o ddarganfod fod ganddi fab sy’n hoyw, yn ogystal â siom a brad anffyddlondeb priodasol . Ond mae sant i pob amgylchiad a phrofiad.
Yn chwilfrydig am yr holl seintiau hyn byddwn yn gwglo’r rhyngrwyd o bryd i’w gilydd, a dyna ddod ar draws Santes Teresa o Avila. Roeddwn yn hoffi ei huniongyrchedd, –
O ymroddiadau gwirion a seintiau sur eu hwyneb,
Arglwydd da, gwared ni!
Ond yna dod o hyd i hyn:
Nid oes gan Grist gorff nawr ar y ddaear… ond eich un chi.
dim dwylo, dim traed ar y ddaear – ond rhai chi,
eich llygaid chi yw’r rhai y mae’n edrych â thrugaredd ar y byd hwn,
eich traed chi yw’r rhai y mae’n cerdded â nhw i wneud daioni,
eich dwylo chi yw’r rhai y mae’n bendithio’r holl fyd.
Rydw i wedi bod yn myfyrio cryn dipyn ar hyn yn ystod y misoedd dwytha. Mor aml mae ein gweddïau’n ceisio gweithred wyrthiol gan Dduw – ond os ydym yn credu mai Iesu Grist yw Duw ymgnawdoledig, ac yn cyd-fynd efo Santes Teresa mai dim ond fy nwylo i a’ch dwylo chi sydd gan Crist i wneud gwaith Duw yn y byd, yna bob dydd mae’n rhaid i mi ofyn i mi fy hun sut rydw i yn mynd i wireddu’r cyfrifoldeb?
John Sam Jones
Effeld.
Mehefin 2026

Comments