Pwy yw’r Terfysgwyr?
- 12 hours ago
- 3 min read
Rai dyddiau yn ôl, roeddwn yn y Llyfrgell Genedlaethol i fod yn rhan o lun hanesyddol – llond stafell o ferched oedd wedi eu harestio am dorri'r gyfraith efo Cymdeithas yr Iaith. Bydd y llun yn rhan o raglen ddogfen a ddangosir ym mis Hydref am ferched yr iaith.
Byddai'r troseddau wedi amrywio o beintio slogannau, difrodi arwyddion ffyrdd, malu ffenestri tai haf neu wneud difrod i drosglwyddydd teledu, ond byddent yn dod dan deitl yr un drosedd – 'difrod troseddol' (neu criminal damage yn Saesneg). Am y drosedd hon, byddem wedi cael dirwy, ac os nad oeddem yn ei thalu, byddai hynny yn arwain at garchariad. Eithriad oedd carcharu yn syth, heb gyfle i dalu dirwy. Dwi'n diolch mai yn yr ugeinfed ganrif ron i'n rhan o'r troseddau hyn, ac nid heddiw. Dwi'n diolch fod llawer mwy o lysoedd yn weithredol yn y ganrif ddwytha, a rheithgorau lleol yn rhan anhepgor o hynny.
Meddwl ydw i am y rhai gafodd ddedfrydau maith o garchar y mis dwytha am weithredu yn enw Palestine Action. Llynedd gwnaeth Yvette Cooper, ar ran Llywodraeth Prydain, y mudiad hwn yn fudiad anghyfreithlon. O ganlyniad, roedd dal poster gyda'r geiriau 'Cefnogaf Palestine Action' yn ddigon i gael eich arestio ac mae miloedd yn dal i ddisgwyl achos llys. Roedd nifer o bobl ifanc oedd wedi peri difrod i ffatri Elbit (sy'n gwneud rhannau i drôns a ddefnyddir yn yr hil-laddiad yn Gaza) yn y carchar yn disgwyl achos llys. Roedd rhai o'u cyd-weithredwyr wedi cael eu dedfrydu gan reithgor yn ddieuog o unrhyw drosedd.
Ond roedd yr hinsawdd wedi newid pan ddaeth y pedwar olaf i'r llys. Ni chawsant achos teg. Roeddent bellach yn rhan o fudiad terfysgol. Gwaharddodd y barnwr yr erlyniad rhag sôn am gymhellion y gweithredwyr na'r hyn oedd Elbit yn ei wneud. Difrod troseddol oedd y cyhuddiad, ond cawsant eu trin fel terfysgwyr. Cawsant ddedfrydau yn amrywio o bump i saith mlynedd o garchar, ac mae ar eu record droseddol bellach eu bod wedi bod yn rhan o fudiad terfysgol. Mae pum mlynedd yn amser maith. Mae'n oes os ydych yn dair ar hugain oed.
Gwnaeth Guto Prys ap Gwynfor bwynt dilys yn ddiweddar wrth drafod penderfyniad yr Uchel Lys ar Palestine Action. Roedd y penderfyniad i labelu'r mudiad fel un terfysgol wedi cael ei herio, a mater i'r Uchel Lys oedd adolygu penderfyniad Yvette Cooper. Ystyriwyd y ffeithiau gan farnwr uchaf Prydain, Lady Chief Justice Sue Carr. Wrth gymharu Palestine Action efo achos y Suffrajets, dywedodd fod yr olaf yn gweithredu yn ddi-drais. Fel dywedodd Guto, 'gwyrdroi hanes' oedd hyn.'Fe wnaeth y suffragettes daflu bomiau, llosgi tai pobol a buont yn gyfrifol am ladd pedwar person'.
Pan sgwennais nofel 'Henriett y Syffrajet' rai blynyddoedd yn ôl, cefais agoriad llygad gyda'r dulliau roedd y syffrajets yn gweithredu. Agoriad llygad hefyd oedd gweld pa mor ffiaidd oedd y modd y cawsant eu trin yn y carchar. Ond bellach, gyda niwl hanes yn llen rhyngom a'r merched, mae modd eu rhamantu. Yn wir, mae cerflun parchus o syffrajet dafliad carchar o'r Tŷ Cyffredin! Does gen i ddim amheuaeth – petai'r Syffrajets yn gweithredu heddiw, caent ei labelu fel mudiad terfysgol gan Lywodraeth Starmer.
O'i ddyddiau pan yn fyfyriwr y gyfraith, cofiodd Guto y geiriau 'Law is the royal prerogative to defend its own interests'. A dyna'r sefyllfa o hyd. Pan nad yw llywodraeth yn hoffi sut mae pobl gyffredin yn ymddwyn, gall ddibynnu ar y gyfraith i warchod eu buddiannau. Y cyfan sydd ei angen yw cyfarwyddo barnwyr yr Uchel Lys ac Ysgrifenyddion Cartref i wahardd ambell i fudiad protest a'u labelu fel 'terfysgwyr'.
Dyddiau peryglus yw'r rhain, a dylem oll fod yn bryderus am y modd y caiff llysoedd barn eu cau a'r alwad i ddileu rheithgorau. Camau tuag at ffasgaeth ydynt. Ein dyletswydd ni yw gweiddi yn fwy croch.
Angharad Tomos
5 Gorffennaf 2026

Comments