Yr ychydig achlysuron prin pan fydd ein capeli’n llawn, neu’n gyfforddus lawn, yw adeg claddu, priodi, ac i raddau llai, bedydd. Y rhain yw’r adegau pan fydd pobol yn teimlo rhyw dynfa yn ôl i gynteddau yr addoldai lle y buon nhw’n mynychu yn y gorffennol. Dylem fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd hyn i ail-gysylltu ein teuluoedd â’n haddoldai.
Ond mae’r drefn yn ein herbyn, a mwy a mwy o barau ifanc yn cael eu denu i briodi mewn adeiladau seciwlar. Ac o wneud y dewis hwnnw, mae cyfraith gwlad yn eu gorfodi – ie, eu gorfodi – i hepgor unrhyw gyfeiriadaeth grefyddol.
Os yw’r cofrestrydd yng ngofal y gwasanaeth, fel y mae’n rhaid os nad yw’r briodas mewn capel neu eglwys, yna ni cheir unrhyw sôn am Iesu Grist. Ni chaniateir canu emyn gweddol ddi-grefydd fel Calon Lân chwaith! Ond fel y dwedodd cofrestrydd wrthyf unwaith – “pan fyddwn ni wedi gadael yr adeilad, fe gewch chi neud beth bynnag fynnwch chi, ond bydd y briodas wedi digwydd”. A phwy sydd am dderbyn amodau fel yna?
Yn raddol bach, mae mwy a mwy yn dewis hepgor y capel ar gyfer angladdau hefyd. Yr amlosgfa yw’r dewis amlwg wrth gwrs, ond o leiaf mae modd cael gwasanaeth crefyddol, neu led-grefyddol mewn amlosgfa.
O dipyn i beth, mae’r dewisiadau eraill yn amlhau: gwasanaeth di-grefydd yw’r mwyaf poblogaidd, gyda ffotograffau a recordiau yn troi’r cyfan yn fwy o barti ffarwel na gwasanaeth. Mae sawl un sy’n cynnig eu hunain fel pobol gymwys i arwain angladd bellach yn cynnig bwydlen amrywiol sy’n amrywio o wasanaeth Cristnogol Cymraeg i wasanaeth seciwlar Saesneg, a phopeth posib dwyieithog rhwng y ddau. Ac erbyn hyn, mae dewis arall yn dod i’r amlwg, sef y claddedigaethau ‘naturiol’ eco-gyfeillgar, mewn coedwig neu gae wedi ei neilltuo i’r pwrpas.
Onid yw’n bryd inni ddechrau brwydro’n ôl yn erbyn y tueddiadau hyn? Gydag angladdau, dyma’n cyfle ni i fanteisio ar awydd pobol i ail-gysylltu gyda’r capel, gan ddangos iddyn nhw pa mor berthnasol yw ffydd i faterion sy’n ymwneud â bywyd a marwolaeth. Yn wir, mi wn am ambell un sydd wedi ail-gysylltu â chapel yn dilyn profiad mewn angladd ystyrlon.
Dylem ninnau wneud yn siŵr, wrth i’r capeli gau, a nifer ein gweinidogion leihau’n gyflym, fod gennym gyflenwad o leygwyr sy’n barod i arwain gwasanaeth angladd. Ni ddylai hyn fod ar draul ein gweinidogion, wrth gwrs, ond mae gwir angen rhai i sefyll yn y bwlch. Fel yn wir, y mae angen i leygwyr baratoi i gymryd gwasanaethau ac oedfaon eraill hefyd.
Rhai misoedd yn ôl bellach, wedi clywed fod iechyd yr annwyl Emlyn Richards yn dirywio, mi ddwedodd cyfaill o Fȏn wrtha i, “Dwn i ddim be wnawn ni ar ȏl i Emlyn ein gadael; mae o wedi claddu pawb yr ochor yma i’r ynys ers cyhyd”. Wel, yn anffodus, mae’r cymeriad ffraeth ac unigryw fel ag yr oedd Emlyn Richards bellach wedi ffarwelio, a mawr fydd y golled ar ei ôl. Mae’n ddyletswydd arnom ninnau i sicrhau nad ydym yn gadael y bwlch heb ei lenwi.
Commentaires