top of page

Pwy ddaw ?

                                     

Cefis fwynhad o ddarllen y nofel a enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, sef ‘Gwynt y Dwyrain’ gan Alun Ffred. Stori dditectif yw hon lle mae’r prif gymeriad, y Sarjant Idwal Davies, yn ymchwilio i lofruddiaeth merch ifanc ym mhentref Tan-y-graig. Fel rhan o’r ymchwiliad mae’r Sarjant yn ceisio gwybodaeth am aelodau’r capel lleol a oedd ysywaeth wedi cau ers sawl blwyddyn. O ganlyniad, mae’n trefnu ymweliad â chyn-ysgrifennydd y capel, sef gwraig o’r enw Miss Ceri Evans, am fod holl gofnodion ac adroddiadau’r capel yn ei meddiant. 


Estynnodd Miss Ceri Evans groeso arbennig i’r Sarjant gan baratoi gwledd o de ar ei gyfer.  Roedd y Sarjant wrth ei fodd â’r danteithion a chafodd yntau â Miss Evans gyfle i fwynhau sgwrs ddifyr a diddorol wrth iddo ei holi am yr wybodaeth a oedd yn berthnasol i’r ymchwiliad. Wedi i’r Sarjant ffarwelio â Miss Evans ac yntau’n gyrru oddi yno, meddai wrtho’i hun: “Dyna frîd sy’n prinhau... A ddaw ‘na ‘run David Attenborough i’w hachub hi a’i thebyg”. 


Roedd cymeriad Miss Evans mewn cyferbyniad llwyr â nifer o gymeriadau ‘lliwgar’ y nofel, gyda Miss Evans yn cynrychioli cenhedlaeth o bobl a oedd yng ngolwg Sarjant Davies yn graddol ddiflannu: swyddogion ac aelodau ffyddlon eglwysi a chapeli a fu mor ddiwyd yn eu gofal dros achos Iesu Grist.  Wrth i gymdeithas golli’r fath ffyddloniaid cwyd y cwestiwn, pwy ddaw i’n hachub ninnau heddiw? 


Dyna gwestiwn wrth gwrs a ofynnwyd ar draws y canrifoedd. Gofynnodd y Salmydd yn ei oriau mwyaf tywyll: “Am ba hyd, Arglwydd, yr anghofi fi’n llwyr? Am ba hyd y cuddi dy wyneb oddi wrthyf? Am ba hyd y dygaf loes yn fy enaid, a gofid yn fy nghalon ddydd ar ôl dydd? Am ba hyd y bydd fy ngelyn yn drech na mi?” (Salm 13: 1-3). Yn yr un modd wylodd yr Israeliaid ddagrau chwerw yn ystod y gaethglud ym Mabilon: “Sut y medrwn ganu cân yr Arglwydd mewn tir estron?” (Salm139:4). 


Yr un yw’r gri heddiw ac nid yn unig y mae i’w chlywed yn ein capeli a’n heglwysi ond mewn sawl maes arall yn ogystal. Wrth inni wrando ar yr adroddiadau am y gynhadledd COP 28, digon teg yw gofyn pwy sy’n mynd i achub y greadigaeth brydferth hon rhag newid hinsawdd?  Daw’r gri yn gyson o gyfeiriad trigolion yr Wcráin, merched Afganistan ac Iran, yn ogystal â’r ffoaduriaid sy’n chwilio am loches. Yn ystod y mis diwethaf bu’r ymosodiadau yn Israel a Gaza yn anghrediniol o ffiaidd a thaerineb cri’r brodorion yn dorcalonnus. Araf ydym i ddysgu unrhyw wersi o’r gorffennol.    

Mewn byd rhanedig a thoredig lle mae creulondeb, dihidrwydd a gormes eithafol bellach yn rhan feunyddiol o bob rhaglen newyddion, rhaid i ninnau ofyn hefyd fel y Sarjant Idwal Davies, pwy ddaw i’n hachub ni heddiw?   


Ond a hithau’n dymor yr Adfent, diolchwn am yr Ymgnawdoliad sydd yn cynnig neges o obaith, cariad a thangnefedd ynghanol llanast o fyd.   


Lydia    

 

bottom of page