top of page

Prosiect 25


Dros y canrifoedd mae menywod (fel caethweision) wedi cael eu hystyried fel eiddo eraill, yn enwedig gwragedd a merched. Weithiau,  pan oedd yna berthynas gariadlon, ni ddioddefodd  menywod ond mae eraill wedi dioddef yn enbyd heb yr hawl i ysgaru.

 

Datblygodd syniadau am gyfartaledd rhwng menywod a gwrywod yn araf. Dros yr ugeinfed canrif enillodd menywod yr hawl i berchenogi  eiddo ac arian, ac i bleidleisio. Heriwyd yr arfer o ddisgwyl i fenywod beidio â gweithio am gyflog pan oeddent yn briod. Datblygodd dulliau atal cenhedlu. Sefydlwyd yr hawl i amser ffwrdd dros gyfnod mamolaeth gyda budd-daliadau. Daeth yn ymarferol i fenywod gyda phlant barhau gyda’u gyrfaoedd. Yn raddol mae cyflogau menywod yn codi. Heddiw dylai pob Cristion gydnabod fod menywod a gwrywod yn blant cyfartal i Dduw.

 

 Ni siaradodd Iesu am ddiffyg hawliau menywod  nag am gaethwasiaeth, syniadau cwbl dderbyniol yn ei gyfnod. Canrifoedd wedyn sylweddolodd Cristnogion fod  hawl unigolyn i berchenogi  rhywun arall yn gwbl groes i ddysgeidiaeth Iesu a llwyddwyd i ddileu caethwasiaeth. Mae agweddau eglwysi at gyfartaledd rhwng menywod a gwrywod yn fwy simsan. Cytunir gan bron bawb ar yr egwyddor, heb ystyried sut i’w gweithredu. Pwysleisir “undod” ar draul cyfartaledd. Beirniadir ysgariad yn llai, yn enwedig fel canlyniad i drais yn y cartref ac mae gweinidogion ac eraill yn gweithio yn dawel yn y maes ond nid oes trafodaeth agored ar y testun ac mae’n dderbyniol dirmygu canlyniad ysgaru, sef “teuluoedd un rhiant”(mamau fel arfer) fel problem gymdeithasol.

 

Yn yr Unol Daleithiau mae her enfawr i gael cyfartaledd rhwng menywod a gwrywod a elwir yn Prosiect 25. Mae wedi ei wreiddio mewn “cristnogaeth cenedlaetholgar” a’i bwyslais yw camddefnyddio “cristnogaeth” i ddiraddio menywod. Defnyddir yr un technegau â’r rhai sy’n gwrthwynebu grwpiau lleiafrifol, gan ddyfynnu ambell adnod o’r Beibl o’i chyd-destun a chyd-destun eu cyfnod, i roi naws “cristnogol” i’w dadleuon.

 

Ymgyrchir i rwystro menywod rhag pleidleisio. Gwrthwynebir hawl menywod i ddewis erthyliad.  Ceisir rhwystro dulliau atal-genhedlu ond beirniadir menywod sy’n beichiogi tu allan i briodas, heb sylwi ar ran gwrywod. Prif amcan y Prosiect yw hybu’r syniad o briodasau “cyfamodol” ple na fydd yn bosibl i wragedd adael dan unrhyw amgylchiadau. Pwysleisir awdurdod ac arweinyddiaeth y gŵr tra gwelir ufudd-dod a chreu cartref dymunol (i’w gwŷr) fel rhan gwragedd. Boddir y cyfryngau cymdeithasol gan erthyglau sy’n beio anawsterau o unrhyw fath mewn priodas fel canlyniad i “wrthryfela yn erbyn Duw” gan annog gwragedd i ddatblygu gostyngeiddrwydd.

Efallai gwelir y datblygiadau hyn yn digwydd ymhell o Gymru ond  lledaenir eu hegwyddorion ar gyfryngau cymdeithasol ac mae mudiadau Americanaidd yn cyfrannu arian enfawr at fudiadau tebyg yma gan ledu eu “prosiect,” yn enwedig ymhlith yr enwadau sy’n parhau i weld menywod yn eilradd.

 

Heb ymateb clywadwy a phendant iawn gan eglwysi Cymru heddiw, daw rhywrai i gredu fod y “cristnogion” hyn yn cynrychioli ac yn gweithredu ar ran pob eglwys. Bydd rhai menywod Cristnogol yn dioddef ac eraill yn gweld Cristnogaeth yn amherthnasol. Mae’r egwyddor Cristnogol o gyfartaledd pawb mewn perygl.

 

Rwth Tomos

Comments


bottom of page