top of page

Priodas Gristnogol?

Mae’n ddrwg gen i os dwi’n taro nodyn braidd yn negyddol, a ninnau’n credu yn y grym mwya’ cadarnhaol yn y byd. Ond mae’r polisi presennol yng nghyswllt priodasau crefyddol yn fy mhoeni’n fawr.


Gan fod ein capeli’n cau ar raddfa mor gyflym, does gennym ni ddim dewis ond ystyried dau fater ymarferol o bwys: Pa ddefnydd gellir ei wneud o’r capeli gwag er budd i’r gymuned leol? A pha ffurf fydd i’n haddoli yn y dyfodol?


I’r mwyafrif sydd wedi colli cysylltiad â chapel ac eglwys, y tri achlysur mwya’ tebygol o’u denu i gynteddau’r sefydliadau hyn yw angladd, priodas a bedydd. Ac mi ddylem ddiolch fod hynny’n dal i fod yn wir. Ond am ba hyd?


O gymryd y mwyaf ‘poblogaidd’ o’r tri, mi gredaf fod gennym le i boeni am y rheolau presennol parthed priodasau ‘crefyddol’. Y peth olaf sydd arnom ei angen yw cyfraith gwlad sy’n gorfodi cyplau sydd am briodi mewn adeilad seciwlar i beidio cynnwys unrhyw gyfeiriad at grefydd yn eu seremonïau.


Nawr, dwi’n cymryd yn ganiataol fod aelodau a dilynwyr Cristnogaeth 21 o’r farn nad adeiladau yw unig sail a chanolbwynt ein cred. Hynny yw, er pwysiced fu rôl ein capeli a’n heglwysi yn y gorffennol, ac er cryfed y llinynnau sy’n parhau i’n clymu ni wrthyn nhw, yn y pen draw mae’n rhaid i’n Cristnogaeth dderbyn mai’r tu allan i’r adeiladau hyn, yn y gymdeithas gyfan ac yn y ‘priffyrdd a’r caeau’, y mae ein dyfodol.


Ac wrth i fwy o gapeli gau, ac wrth i gyplau ei chael hi’n fwyfwy anodd i ganfod capel yn eu cynefin, onid yw’n rhesymol i fwy a mwy o’n hieuenctid ddewis priodi mewn lleoliadau seciwlar? Ac os felly, oni ddylem ofalu bod cynifer â phosib o’r priodasau hyn yn rhai crefyddol, sy’n gofyn am fendith Duw ar y seremoni?


Cytunais yn ddiweddar i arwain seremoni briodas i ddau ifanc oedd am briodi mewn gwesty, ac yn awyddus i’r ddefod a’r gwasanaeth fod yn un Gristnogol. Cytunwyd ar gynnwys y gwasanaeth ac ar ffurf y cyfan, ac fe aed ymlaen gyda’r paratoadau.


Ond yn nes ymlaen daeth galwad ffôn gan y Cofrestrydd yn fy hysbysu mewn geiriau clir iawn nad oedd yn bosib imi arwain gwasanaeth priodas crefyddol mewn lle nad oedd yn gapel neu’n eglwys. Roedd yn rhaid i’r Cofrestrydd, a neb arall, arwain y ddefod; ac nid oedd hawl i gael unrhyw gynnwys crefyddol yn y digwyddiad – dim hyd yn oed emyn. Dim hyd yn oed Calon Lân! Ond, meddai, yn raslon iawn, ar ôl i’r Cofrestrydd adael yr adeilad, mi gewch chi wneud beth fynnwch chi wedyn.


I mi, roedd hyn yn un o’r pethau mwyaf sarhaus a glywais erioed mewn perthynas â’n ffydd Gristnogol. Ond dyna yw’r drefn yr ydym oll yn byw oddi tani, a hynny hyd y gwelaf heb fawr o brotest o du’r awdurdodau Cristnogol, nac yn wir gennym ni Gristnogion.


O safbwynt y gyfraith a’r wladwriaeth, nid yw seremoni briodasol Gristnogol yn golygu dim oll; mae geiriau fel, “unwn y ddau ohonoch mewn priodas sanctaidd gerbron Duw”, yn gwbl ddiystyr. Yr unig beth sy’n cyfri yw bod y ddau sy’n priodi yn arwyddo’r ddogfen swyddogol ym mhresenoldeb y Cofrestrydd. Y Cofrestrydd sy’n cyfri, nid Duw.


Ond nac anghofiwn - er mwyn profi mor deg ac eangfrydig yw’r wladwriaeth y llafuriwn oddi tani - wedi i’r Cofrestrydd ddiflannu, cawn wneud fel y mynnwn, ac ynganu pob math o rigmarôl cyntefig. Ond peidiwn â meddwl am eiliad fod yr hyn a ddwedwn yn golygu unrhyw beth.

bottom of page