top of page

Pobl Ddieithr

Ychydig ddyddiau’n ôl, o glywed geiriau anhrugarog yr Ysgrifennydd Cartref yn Nhŷ’r Cyffredin yn sôn am ddyfodiad mewnfudwyr i ynysoedd Prydain fel ‘goresgyniad’, ac yn cyfaddef bod deuddeng mlynedd o bolisïau Torïaidd wedi methu’n llwyr, fe ymddangosodd dyfyniad ar y cyfryngau cymdeithasol wedi ei briodoli i Tony Benn. A dyma’r frawddeg honno a gafodd ei thrydar yn eang: “Mae’r modd y mae llywodraeth yn trin ffoaduriaid yn dysgu llawer i ni, oherwydd mae’n dangos i ni sut y byddai’n trin y gweddill ohonom pe bai’n cael llonydd i wneud hynny.”


Fel mae’n digwydd, er mor dreiddgar yw’r dyfyniad, nid geiriau Benn ydyn nhw. Sylw a wnaed gan newyddiadurwr o’r Alban, Neal Ascherson, oedd hwn yn wreiddiol, wrth sôn am achos Mohammad al-Massari, oedd yn ceisio cael lloches ym Mhrydain ar ôl dianc o Saudi Arabia yn 1993. Ar y dechrau, gwrthododd llywodraeth San Steffan roi lloches iddo rhag ofn y byddai hynny’n tanseilio‘r fasnach arfau broffidiol gyda byddin Saudi. Wrth adrodd yr hanes mewn erthygl yn yr Independent ar y pryd, gofynnodd Ascherson, “Pan fyddwn ni’n dysgu moesoldeb i’n plant, beth ddwedwn ni am y fasnach arfau?” A dyna ddinoethi rhagrith y llywodraeth.


Pan gyfaddefodd Suella Braverman fod polisi ei llywodraeth ar fewnfudwyr yn deilchion, roedd yn adleisio canfyddiad diweddar yr IPPA (Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus). Mae ffigurau’r sefydliad yn dangos bod y mwyafrif llethol o fewnfudwyr (94%) yn dymuno gwneud cais am loches, a’r tebygolrwydd yw y byddai tua 70% o’r rhai sy’n cyrraedd yn llwyddiannus yn eu cais pe bai’r weinyddiaeth yn ddigon trefnus i fedru prosesu eu ceisiadau. Yn lle hynny, mae’r llywodraeth yn boddi ynghanol anhrefn y drefniadaeth aneffeithiol, ac yn poeni mwy am gael gwared â’r lleiafrif bach anghyfreithlon nag am y mwyafrif llethol sy’n haeddu gwrandawiad teg.


Fe gafodd llywodraeth Prydain rybudd digonol y byddai yna gynnydd sylweddol mewn mewnfudwyr eleni, a hynny oherwydd bod nifer y bobl a gafodd eu dadleoli o wledydd eraill wedi tyfu’n ddychrynllyd o gyflym. Heddiw, mae dros 89 miliwn yn ddigartref oherwydd rhyfeloedd, erledigaeth neu drychinebau naturiol. Yn ôl ffigurau’r UNHCR (Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid) mae’r ceiswyr lloches sy’n cyrraedd glannau Prydain yn sylweddol is na’r ffigurau ar gyfer gwledydd fel Ffrainc a’r Almaen.


Gan i mi ddechrau gyda geiriau a dadogwyd yn anghywir ar Tony Benn, efallai y byddai’n weddus i gynnwys gwir ddyfyniad o’i eiddo, sydd mor berthnasol i’r cyfnod presennol: “Os medrwn ni ffeindio’r arian i ladd pobl, yna fe allwn ni ffeindio arian i helpu pobl.”


Ond gyda dyfyniad gan rywun arall yr hoffwn i gloi’r e-fwletin am heddiw, a go brin fod angen nodi pwy a’u llefarodd: “Chi roddodd fwyd i mi pan roeddwn i'n llwgu; chi roddodd ddiod i mi pan roedd syched arna i; chi roddodd groeso i mi pan doeddwn i ddim yn nabod neb; chi roddodd ddillad i mi pan roeddwn i'n noeth; chi ofalodd amdana i pan roeddwn i'n sâl; chi ddaeth i ymweld â mi pan roeddwn i yn y carchar.’

bottom of page