Paratoi at ryfel?
- garethioan1
- Jul 6
- 3 min read
Yn ôl Keir Starmer mae Prydain yn wynebu’r heriau a’r bygythiadau mwyaf difrifol ers y Rhyfel Oer. Beth yw’r heriau yma, felly? Anghyfiawnderau cymdeithasol, tlodi plant, twf yr adain dde a hiliaeth, diffyg tai fforddiadwy, effaith cynhesu byd eang a thrychineb ecolegol sy’n gweld ein bioamrywiaeth yn cael ei ddifa? Neu tybed a yw’n cyfeirio at heriau’r gymuned amaethyddol a diogelwch bwyd? Dim o gwbl.
Yr hyn mae’n ei wneud yw creu naratif peryglus bod gwladwriaethau sydd ymhell tu hwnt i ffiniau Ynys Prydain yn ein bygwth. Does dim dwywaith bod ymyrraeth militaraidd gan Lywodraeth Prydain dros y degawdau diwethaf wedi cyfrannu at densiynau a thrais rhyngwladol – a chreu gelynion.
Ond yn hytrach na thorri cwys newydd a brwydro dros gyfiawnder a heddwch mae Starmer yn parhau yn yr un hen rigol o gredu bod rhyfel a difa’r gelyn yn mynd i arwain at heddwch! Trwy ei ddatganiadau annoeth mae’n braenaru’r tir ar gyfer rhyfel ac mae’n barod i wario biliynau yn gwneud hynny! Rhaid i Brydain meddai, bod yn “safer and stronger, a battle-ready, armour-clad nation with the strongest alliances and the most advanced capabilities”. Geiriau sy’n siŵr o ddychryn.
Mae cefnogwyr ail arfogi yn aml yn defnyddio bygythiadau rhyngwladol posib er mwyn ceisio cyfiawnhau eu safbwynt. Ond mae hanes yn dangos bod militareiddio a siarad am ‘fygythiadau’ o’r fath yn sicr o arwain at gynnydd mewn tensiynau. Daw gwir heddwch trwy groesi ffiniau yn hytrach na chodi ffiniau. Trwy drafod a chydweithio yn rhyngwladol er mwyn dileu gwraidd pob gwrthdaro mae ennill heddwch. A dim ond cymod all dorri’r cylch dieflig diddiwedd o drais sydd wedi nodweddu degawdau cyntaf yr unfed ganrif ar hugain.
Yn dilyn ei strategic defence review diweddar mae’n fwriad gan Lywodraeth Lafur Prydain i gynyddu’r gwariant ar y lluoedd arfog hyd at £350 biliwn dros gyfnod y senedd bresennol. Dywedodd Starmer ei fod yn addo a “ten times more lethal British Army”. Pa obaith am heddwch a chyfiawnder os mai dyma yw ieithwedd y Prif Weinidog a’i gefnogwyr!
Mae hyn yn tanseilio’r hanfod moesol o geisio heddwch. Os yw ein llywodraeth o ddifri yn ei bwriad o greu byd cyfiawn a diogel onid yw cynyddu’r gwariant ar arfau yn gam i’r cyfeiriad anghywir? Mae bob punt a warir ar danc, taflegryn, bwled a gwn yn golygu llai o wariant ar ein gwasanaethau iechyd, addysg a’r amgylchedd. Mae’n llesteirio’r gwaith aruthrol o ddileu tlodi a chynorthwyo ein cymdogion tlotaf ar hyd a lled y byd.
Mae gan Brydain hanes hir o allforio arfau i wladwriaethau sydd â hanes o ddiffyg hawliau dynol. Meddylier am Saudi Arabia ac Israel i enwi ond dau. Mae’r arfau yma’n cael eu defnyddio mewn rhyfeloedd erchyll fel yr hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd yn yr Yemen gan arwain at lofruddio miloedd o ddinasyddion diniwed a chwalu cymunedau.
Rhaid hefyd ystyried cost amgylcheddol bwydo’r farchnad arfau mewn byd sydd yn fwyfwy bregus o ran ei hinsawdd. Mae allyriadau carbon o ganlyniad i wrthdaro militaraidd neu baratoadau ac ymarferion militaraidd yn cynyddu ôl troed carbon ac yn ei gwneud yn anos i ni leihau ein hallbwn carbon. Mae cynhesu byd eang yn sicr o arwain at fwy o ansefydlogrwydd cymdeithasol ac economaidd yn enwedig yng ngwledydd tlotaf y byd.
Fel y gwelwn o’r Bregeth ar y Mynydd, galwodd yr Iesu ar i bawb i gofleidio heddwch (Mathew 5:9). Fel Cristnogion, dyfynnwn yn aml o weledigaeth y proffwyd Micha hefyd - am droi cleddyfau yn sychau a gwawyffyn yn grymanau (Micha 4:3b). Onid yw’n amser i’n heglwysi a’n capeli ymwrthod yn llwyr ag unrhyw gysylltiad â’r lluoedd arfog a’r peiriant militaraidd?
Hedd Ladd-Lewis
Комментарии