Pa fath o Gristion?
- 7 hours ago
- 3 min read
Tase rhywun yn gofyn i chi pwy ydych chi, tybed beth fyddai eich ateb? Byddai’r rhan fwyaf o bobl yn dechrau trwy roi eu henwau, eu gwaith, o ble maen nhw’n dod, ac ati. Er bod y wybodaeth hon yn ymddangos ar yr olwg gyntaf yn arwynebol, gall ddatgelu tipyn amdanom. A fyddech yn dweud hefyd eich bod yn Gristion, oherwydd mae hynny yn dweud tipyn amdanom hefyd. Mae’n rhoi’r neges ein bod yn cysylltu’n hunain â’r person hwn mewn hanes, Iesu, yr Iddew o Nasareth. Mae’n dweud ein bod ni wedi dewis dilyn Iesu Grist, bod yn ffyddlon i’w ddysgeidiaeth a bod y ffordd yr ydym yn byw felly i fod yn dyst i’n hymroddiad trwyddo ef i Dduw.
Ond wedi penderfynu bod yn Gristion, mae gennym ddewis pellach hefyd, sef pa fath o Gristion ydyn ni eisiau bod? Weithiau mae’n haws dechrau trwy ddiffinio beth nad ydym eisiau bod. Ydyn ni eisiau bod, er enghraifft, fel y gweinidogion hynny yn yr UDA sydd eisiau amddifadu menywod o’u pleidlais? Neu y bobl hynny sy’n defnyddio y Groes mewn ralïau i gyfiawnhau hiliaeth a rhyfel? Neu y gwleidyddion hynny sy’n hawlio rhannu neges yr Efengyl ar yr un llaw, ac ymgyrchu dros ddileu statws Cymru fel Cenedl Noddfa ar y llaw arall? Enghreifftiau yn unig yw’r rhain o’r llu o leisiau uchel a chras sy’n camddyfynnu’r Beibl ac yn apelio at y rhai sy’n chwilio am atebion gor-syml ac awdurdodol i broblemau dyrys ein byd ni heddi.
Rwyf wedi clywed sawl un yn dweud – yn achlysurol o’r pulpud - nad oes a wnelo crefydd â gwleidyddiaeth. Ond yn ôl Dietrich Bonhoeffer, a ysgrifennodd o’i gell o dan y Natsïaid, does yna ddim dewis. “Cymaint ag yr hoffai y Cristion gadw draw o frwydr wleidyddol, er hynny, hyd yn oed yma mae gorchymyn cariad yn pwyso ar Gristnogion i sefyll o blaid eu cymdogion.” O’n cwmpas bob dydd clywn lu o leisiau cryf a chadarn sy’n ymateb i’r alwad hon : yr Esgob o Eglwys Lwtheraidd yr Ynys Las, a deimlodd reidrwydd i siarad ar ran ei phobl yn wyneb bygythiad gwrthdaro milwrol oddi wrth yr UDA; y 600 o arweinwyr ffydd a ymgasglodd yn Minneapolis i wneud safiad yn erbyn ICE; yr arweinwyr ffydd a ddaeth at ei gilydd yr wythnos diwethaf yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd i lofnodi datganiad cyhoeddus o undod cyn etholiadau’r Senedd. Dyma wyneb dewr a thrugarog ffydd. Fel dywedodd Rhys Llwyd mewn e-fwletin diweddar i Cristnogaeth 21, “Pan fo ffydd yn colli ei gallu i feriniadu grym, mae’n colli ei henaid. Ac nid dyna’r etifeddiaeth a roddwyd i ni.”
Mae’n fuddiol weithiau i neulltuo amser i fyfyrio ar ein hunaniaeth – ein hunaniaeth ieithyddol, er enghraifft, ein hunaniaeth cenedlaethol neu wleidyddol. Mewn cyfnod o gamwybodaeth, anghosbedigaeth,rhaniadau cymdeithasol a gorthrwm milwrol, mae rhoi ystyriaeth i’n hunaniaeth Cristnogol yn bwysicach nag erioed, oherwydd mae’r ffordd yr ydym yn gweld ein hunain heb os yn cael effaith ar ein hymddygiad a’n gweithredoedd. Ac er cymhlethdod y Beibl a’i negeseuon croesion, mae ffydd Crist-ganolog yn syml : “Câr dy gymydog fel ti dy hun.” Yn ddi-amod ac yn ddi-eithriad. Fel dywed Paul yn ei lythyr at y Rhufeiniaid, “Ni all cariad wneud cam â chymydog.” Ar lawr gwlad o ddydd i ddydd, mae hyn yn golygu dirnad y gwir, herio anwybodaeth a chadw’n hunain yn wybodus. Mae’n golygu gofalu am y rhai bregus, croesawu y dieithryn, ymgyrchu dros heddwch a chydweithio tuag at gydraddoldeb.
Pa fath o Gristnogion ydyn ni eisiau bod, felly? Anelwn yn ein bywyd bob dydd ym mhob gweithred, penderfyniad a phleidlais i ddangos pwy ydyn ni trwy fod yn esiampl o Gristnogaeth go iawn - Cristnogaeth cariad, caredigrwydd a thosturi.
Anna Vivian Jones
26 Ebrill 2026

Comments