top of page

Pa fath Gristnogaeth ?

Ychydig o flynyddoedd yn ôl, roedd offeiriad Catholig mewn eglwys yng Nghaint yn tacluso golygfa'r geni adeg yr Ystwyll efo’r Ysgol Sul. Sylweddolodd fod y baban Iesu ar goll. Roedd o’n poeni am hyn gan fod yr olygfa yn un ddrud. Doedd golygfa'r geni heb y baban Iesu werth dim. Pan drodd o gwmpas gwelodd fachgen bach o’r enw Thomas yn chwarae efo sports car coch remote control ac roedd Iesu yn sêt flaen y car yn gwibio o gwmpas yr eglwys. Gofynnodd yr offeiriad i Thomas “Be ti’n neud efo’r baban Iesu!!” Atebodd Thomas, “Wel, tuag wythnos cyn y Nadolig nes i weddïo ar y baban Iesu a  dweud petawn i’n cael sports car coch fel anrheg Nadolig, y byddwn i’n rhoi  sbin iddo fo o gwmpas yr eglwys!”

 

 ‘Dwi wrth fy modd efo straeon fel hyn adeg y Nadolig, a dwi’n hoffi meddwl fod gan y baban Iesu wên fach wrth iddo fo wibio o gwmpas yr eglwys.

 

 Pa Iesu ydym wedi ei ddathlu'r Nadolig yma? Yn ôl y diwinydd Roger Haydon Mitchell mae dwy math o Gristnogaeth – un sydd ynglŷn â rheoli ac ymerodraeth, ac un sydd yn fwy cyfriniol ac egalitaraidd. Mae pawb yn gwybod am y cyntaf sy’n  ceisio gosod safonau i bawb. Mae ambell fantais i Gristnogaeth o’r fath  o safbwynt cenhadaeth oherwydd fod ganddi ddylanwad a statws o fewn cymdeithas.

 

Ond yn y traddodiad mwy cyfriniol, mae gan bawb yr un hawl  i ymgyrraedd at Dduw. Nid oes neb yn ceisio rheoli neb arall, na gosod safonau parchus i eraill eu dilyn. Ac er bod y math yma o Gristnogaeth yn fwy deniadol, ella’i bod yn annos ei chenhadu am ei bod yn fwy amwys, efo llai o strwythur. Yr Ysbryd sydd yn arwain ac yn tanio’r Gristnogaeth hon, nid awdurdod a chyfundrefn a hierarchi.

 

Ac er mod i yn offeiriad o fewn yr Eglwys yng Nghymru, yr ail math o Gristnogaeth, ffydd oes y seintiau, a ffydd y rhai sydd wedi ceisio adfywio ac adnewyddu’r Eglwys (h.y.. corff Crist, nid unrhyw enwad) sydd yn fwy deniadol i minnau hefyd. Mae’r ail fath o Gristnogaeth yn bosib i bawb, dim ots pa enwad ydych chi’n perthyn iddo. Mae ynglŷn ag agwedd a ffydd fewnol yn hytrach na steil neu fath o gyfundrefn.

 

Mae’r straeon yma ynglŷn â phlant â’r Nadolig yn fy atgoffa, bod Duw yn Iesu wedi dod i’n byd fel un ohonom ni, ac wedi rhoi o’r neilltu unrhyw hawl neu allu i reoli pobl eraill a meddu pŵer drostyn' nhw. Mae golygfa’r geni a dramau geni yn ein hatgoffa mor ddiymadferth oedd Iesu, yn dod i’n byd ni fel babi.

 

Mae llawenydd Thomas a miloedd o blant yr adeg yma yn ein hatgoffa mai ffordd cariad a llawenydd a hwyl, yn ogystal â ffordd ddi-rym, ydi ffordd ac esiampl Iesu i ni. 

 

Manon Ceridwen James

 

Comments


bottom of page