Pa beth a wnawn?
- 2 days ago
- 3 min read
Wrth imi ‘sgrifennu hwn, mae newyddion Al Jazeera ar y teledu (gyda’r sain wedi ei ddiffodd). Mae mwy na’r arfer o awyrennau Y Fali yn hedfan uwchben, a’r lluniau o’r Dwyrain Canol yn amlhau a gwaethygu.
Mae Prif Weinidog Prydain yn cael ei labyddio’n eiriol gan Trump am beidio bod yn ddigon brwd i gefnogi’r ymosodiad ar Iran, a dwi newydd glywed y Trump hwnnw yn rhoi cynnig arall ar gyfiawnhau’r ymosodiad, “Roeddem mewn trafodaethau efo’r lunatics yn Iran. Ond fe wyddwn eu bod yn bwriadu ymosod arnon ni, ac felly mi benderfynais ymosod arnyn nhw gyntaf”. A hynny heb ddweud wrth y Gyngres, na thrafod efo’i blaid ei hun hyd yn oed. Mae Arlywydd America mae’n amlwg wedi ail-ddyfeisio democratiaeth, ac wedi ail-ddiffinio cyfraith ryngwladol – ac y mae miloedd lawer o bobol ddiniwed a phlant yn mynd i dalu’r pris am hynny.
Mae iaith rhyfel a militariaeth orchestol wedi disodli iaith diplomyddiaeth a dealltwriaeth yn llwyr, a dyw iaith cymod a chariad a chydymdeimlad ddim yn y ras o gwbl. A’r cwestiwn y gofynnwn i’n hunain – os ydym yn credu fod yna ffordd amgenach a chywirach a thecach i ddatrys problemau’r ddynoliaeth – yw “Beth fedrwn ni ei wneud?”.
Does yna’r un ateb amlwg, gan fod y sianeli arferol sydd i fod i hwyluso trafodaeth resymol a chall wedi eu cau, a’r gwleidyddion wedi eu dallu a’u corneli gan wallgofrwydd unllygeidiog Donald Trump a Netanyahu. Grym arfau ac arian sy’n rheoli bellach, ac y mae mawredd gwladweinydd yn cael ei fesur mewn nifer y targedau a fomiwyd, a nifer y taflegrau a saethwyd. “Mae gennym ddigon o arfau”, meddai Trump, gan lafoerio, “i ymladd y Rhyfel Tragwyddol”. (The forever war yw’r ymadrodd cwbl ddychrynllyd a ddefnyddiodd y Cristion honedig hwn). Y peth lleiaf fedrwn ni ei wneud fel Cristnogaeth 21 yw datgan yn hollol eglur nad ei Grist ef yw ein Crist ni.
Ar wahân i’r colledion annirnadwy mewn bywydau, agwedd dristaf hyn oll yw nad oes fawr sôn am gost y cyfan. Fe wyddom fod ‘costau byw’ yn dal i godi, a bod mwy a mwy o deuluoedd yn byw mewn tlodi. Mae arian yn brin ar gyfer addysg ac iechyd, yr henoed a’r celfyddydau. Mae gwasanaethau ar gyfer yr ifanc yn cael eu torri, ac mae awdurdodau lleol wrthi’n torri eu cyllidebau ers ugain mlynedd a mwy.
Ond beth am gostau arfau a rhyfel? Dim problem! Mae Llywodraeth Prydain newydd gyhoeddi cynnydd aruthrol yn ei chyllid ar gyfer arfogi – heb ymgynghori na thrafodaeth gynhwysol o fath yn y byd. Mae miliynau o’n harian prin yn cael ei wario yn ddyddiol i gynnal system ddiwerth Trident, ac y mae pob un o’r awyrennau a saethwyd i lawr gan friendly fire (o am eironi!) yn Kuwait yn ddiweddar hefyd yn werth miliynau lawer. Mae yna rym anochel yn perthyn i’r fasnach arfau na ellir ei atal – ac un canlyniad sydd iddo, sef RHYFEL. Dyna’r unig ffordd i ddiwallu’r anghenfil hwn.
Os oes unrhyw ystyr i Gristnogaeth o gwbl, pledio achos heddwch yn erbyn yr ysfa i ryfela yw hwnnw. Mawr yw ein braint i ddal ati i godi llais dros hawl gwerinoedd y byd i fyw mewn rhyddid a heddwch a llawenydd.
Dafydd Iwan
8 Mawrth 2026

Comments