Oes angen Symudiad newydd?
- cristnogaeth21
- Sep 7
- 2 min read
Updated: Sep 30
Wedi’n hysbrydoli gan encil Cristnogaeth 21 (Ebrill 5ed, 2025), cytunon ni’n dau, Roni Roberts a Cynog Dafis, i lunio papur ynghylch posibilrwydd sefydlu ‘Symudiad’ newydd er mwyn ailgyfeirio Cristnogaeth Gymraeg, gan osod argyfwng byd natur yng nghanol ei genhadaeth. Crynodeb o gynnwys y papur hwnnw yw’r e-fwletin yma.
Hanfod argyfwng byd natur yw bod un rhywogaeth, dynol-ryw, wedi cynyddu i raddau anghymesur a thra’n gwneud hynny wedi ymddwyn mewn ffordd sy’n rhwym o ddifrodi’r amgylchedd naturiol y mae’n rhan ohono ac y mae’n ddibynnol arno er mwyn goroesi a ffynnu: hinsawdd sefydlog, cynefinoedd amrywiol-gyfoethog i blanhigion a chreaduriaid, priddoedd ffrwythlon a choedwigoedd helaeth, er enghraifft.
Ymateb llawer o bobl (nid dim ond eu harweinyddion) i’r pryderon hyn yw naill ai gwadu bod problem, neu anobeithio. Mae eraill, y mwyafrif efallai, yn ymddiried yn nyfeisgarwch technolegol dyn i fynd i’r afael â’r argyfwng. Ein barn ni yw na all y tech-fix bondigrybwyll, er angenrheidied yw, fod yn ddigon. Rhaid newid cyfeiriad hanes y ddynoliaeth, gyda’r nod o fyw mewn cytgord â Natur, gan dderbyn ei gyfyngiadau yn hytrach na’i drin fel cronfa o adnoddau i’w hecsbloetio.
Beth sy a wnelo hyn oll â chrefydd, Cristnogaeth yn benodol? Hanfod Cristnogaeth, yng ngeiriau Paul, yw Ffydd, Gobaith a Chariad, a hanfod ei moeseg, yn ôl Waldo Williams, a Karen Armstrong hithau, yw Cydymdeimlad. Mae taer angen cymhwyso’r gwerthoedd creiddiol yma, a hwythau yn y byd sydd ohoni o dan gymaint o fygythiad â Christnogaeth ei hun, at yr argyfwng pennaf fe ddichon, argyfwng byd natur, a wynebodd y ddynoliaeth erioed. Dyna fyddai pwrpas y Symudiad yr ydyn ni yn awgrymu ei roi ar waith, Symudiad a fyddai’n gweithredu fel lefain yn y blawd er mwyn trawsnewid yr amgylchedd gymdeithasol a diwylliannol. Heb newid diwylliannol gwaelod-i-fyny o’r fath, ofer disgwyl am y newid gwleidyddol ac economaidd y mae rhaid wrthyn nhw yn ogystal.
Nid ar chwarae bach y rhoir Symudiad o’r fath ar waith. Agwedd arall ar argyfwng yr oes yw’r ymddieithrio oddi wrth ein gilydd y mae unigolyddiaeth, hedonistiaeth gonsiwmeraidd a symudoledd diorffwys yn ei achosi. Yn eironig ddigon, nid llaesu ond dwysáu’r ffenomen hon y mae’r ‘cysylltedd’ y mae’r cyfryngau digidol yn ei gynnig. Ond rhaid byw mewn FFYDD yn adnoddau moesol y ddynoliaeth a GOBAITH yn ei gallu i newid cyfeiriad, gan orseddu CARIAD yn ei pherthynas â chyd-ddyn ac â chreadigaeth Duw.
Ein teimlad ni yw bod angen Symudiad penodol er mwyn hyrwyddo gweledigaeth felly o fewn Cristnogaeth, sy’n cael ei chamystumio a’i llygru mor aml, neu ei dargyfeirio oddi wrth hanfod y mater.
Sut fyddai’r Symudiad yn mynd ati? Mae rhai awgrymiadau yn ein papur, ond y cam nesaf - os oes un i fod - fyddai i nifer o gyffelyb fryd ddod at ei gilydd i drafod. Efallai y gallai Cristnogaeth 21 helpu…
Yn y cyfamser, mae modd cael copi o’r papur cyflawn drwy ebostio Roni ar roni.waunblaen@btinternet.com
Roni Roberts a Cynog Dafis
7 Medi 2025

Comments