top of page

'O'r tywyllwch hwn.'


Nid yw ‘o’r tywyllwch’ yn ddigon eleni . Yn 2024 rhaid dweud ‘o’r tywllwch hwn’. Oherwydd bu rhyfela, bu trychineb ddyngarol a  dechrau hil-laddiad yn Gasa. Ond mae’n rhy hwyr. Bu Hamas a’u gobaith militaraidd i ddileu gwladwriaeth Israel ac, fel rhybudd,  lladd 1,200 a chipio 400 o wystlon. Bu Israel a dyfyniad Beiblaidd y Prifweinidog di-gyfaddwd  ’ mae amser i bob peth...amser i ryfel’ gan egluro bod yn rhaid dinistrio y gelyn - yn llwyr.Roedd y dinistrio hwnnw – y dial yna’r polisi -  yn golygu lladd tua 34,000 o Balestiniaid ( 70,000  yn famau a phlant ) dinistrio ysbytai, cymunedau a 300,000 o gartrefi. Cenedl galar yw Gasa heddiw, fel y galar wrth groes Iddew Palesteinaidd ar ddydd Gwener y Groglith.


Ond mae mwy i’r ‘tywyllwch hwn’.


Edrych o hirbell wnaeth y cenhedloedd sydd wedi cefnogi Israel , America a Llywodraeth Llundain ( ond nid Senedd Cymru ) a’r lleill a thawel yn rhy hir fu’r Cenhedloedd Unedig. Cefnogi Hamas wnaeth Iran a Syria ac eraill ond protestio yn ddi-drais wnaeth miliynnau drwy’r byd. Methiant enbyd fu’r crefyddau– Cristnogol, Iddewig  a Mwslemaidd – i ddweud ‘Na, nid yn enw ein Duw ni’ . Ofer fu apêl  y Cristnogion cyntaf am gefnogaeth eglwysi’r byd a dywedodd Munther Isaac, gweinidog Palesteinaidd yn Jeriwsalem, hynny gyda dicter mewn pregeth ( ‘Crist dan y rwbel’ ) fis yn ôl.Collodd yr Eglwys ei thrwydded – eto – am ymwrthod â thaith Iesu o Nasareth.


Diolch fod y Pab wedi bod yn gadarn ei farn yn erbyn y rhyfel  a diolch bod arweinwyr yr eglwysi yng Nghymru bron i gyd  wedi codi eu llais tros ffordd heddwch. Diolch hefyd  bod nifer o leisiau dewr Iddewig yn cefnogi achos y Palestiniaid .

Cafodd Israel gefnogaeth byd wedi’r Holocost i ddychwelyd i’r ‘hen wlad ’ .Ond ym malchder ei hetifeddiaeth dyrchafwyd ei grym milwrol yn ei gormes wrth feddiannu cynefin y Palestiniaid a dinistrio eu cartrefi. Nid oes lle yn yr Israel gyfoes i’r weledigaeth broffwydol o’r genedl a Jeriwsalem  fel ‘goleuni i’r cenhedloedd’.Mae’r ‘tywyllwch hwn’ wedi cuddio’r  goleuni hwnnw, fel tywyllu  haul canol dydd. Nid oes sôn am droi cleddyfau yn sychau nac am chwalu muriau apartheid chwaith.


Mae’r diwinydd Tomas Halik o Siecoslofacia fu’n rhan o’r eglwys tan-ddaearol yn nyddiau yr erlid comiwnyddol , yn un o ddiwinyddion  proffwydol Ewrop. Ei eiriau ef yw pennawd yr erthygl hon. Mae’n pwysleisio fod y groes yn arwydd o Dduw’r cread a’r cenhedloedd ,Duw cariad a chyfiawnder , yn gwasgar tywyllwch ,yn difa casineb ac yn adfer y shalom a gollwyd . Duw bywyd ydyw.Mae’r atgyfodiad  yn arwydd fod ‘grymoedd y byd’ – awdurdodau a chyfundrefnau pwerus  –wedi eu gorchfygu gan rhyddhau’r deyrnas a welwyd yn Iesu i’r byd i gyd. Er bod yr eglwys wedi ei chaethiwo ganddi hi ei hun mae Duw  y Pasg yn mynd ymlaen â’i waith. Mae bywyd newydd yn dod o’r tywyllwch hwn. ‘Mae crefyddau,’ meddai Halik,’ yn mynnu dal gafael ar hen awdurdod ac ymwrthod â dirgelwch chwyldroadol y Pasg.’


Mae’r Pasg eleni yn fwy o lawer na phrofiad a chân ’Daeth Iesu i’m calon i fyw’. Mae Pasg 2024  yn Gasa ac Israel fel y Crist sydd wedi ei gadw yn gaeth o fewn muriau crefyddol a gwleidyddol –ac yn torri’n rhydd  ! Cododd Iesu ! Aeth y Pasg yn Bentecost fel y gobeithiodd Eseia ac fel y datguddiodd Iesu yng ngwlad tywyllwch a Goleuni.


Pryderi Llwyd Jones. ( Mawrth 27ain. 2024 )

 


bottom of page