‘O faes cam daw’r terfysg hwn ...’
Noson ddelfrydol. Haul yn machlud yn oren dros doeau’r tai, hen sgwâr y dref wedi’i lapio yng nghynhesrwydd diwedd Mai, teuluoedd yn sgwrsio uwchben eu gwin coch wrth fordydd awyr-agored y caffis, pobol ifainc yn grwpiau hapus ar risiau’r ffynnon.
Roeddwn yn nhref St Quentin yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc ar fy ffordd adre o wyliau yn yr Eidal. Nid yr harddaf o drefi’r wlad, ond ambiance hudol. I mi, voici la France, la belle France!
Ac yna, daeth ffrwydrad mis Hydref. Protest yn troi’n derfysg, hyrddio cerrig, malu ffenestri, cynnau’r tanau, ysbeilio siopau. Neuadd dref fawreddog Limoges yn wenfflam. Yn sgil y gwrthdaro ar ddydd Sadwrn, Hydref 17, cyhoeddwyd bod 1,800 o wrthdystwyr wedi’u harestio, 150 o heddlu wedi’u hanafu, cannoedd o fusnesau wedi’u difrodi, a dyn a ŵyr faint o derfysgwyr yn magu clwyfau.
Hyd yn oed yn Ffrainc â’i hanes maith o wleidyddiaeth stryd, fe ysgytwyd y wlad gan ffyrnigrwydd y don ddiweddar hon o drais. Dechreuwyd chwilio am esboniad, ac am atebion.
Mae’n rhaid cydymdeimlo â pherchnogion y busnesau bach, ymdrech y blynyddoedd yn wydr toredig, celfi a decor yn llanast, a’r stoc costus wedi diflannu i sachau’r ysbeilwyr. Hawdd collfarnu’r terfysgwyr am eu gwylltineb. Wrth reswm, ni ddylai hyn ddigwydd yn yr 21fed ganrif.
Ond daliwch yn sownd, oni chlywsom y gair ‘terfysg’ o’r blaen? Mae fy nghof i’n fyw o hyd am helyntion Watts, yn ardal Los Angeles, yn Awst 1965, wythnos o derfysgu gan y trigolion duon, llosgi strydoedd cyfan yn ulw, lladd 34 o bobol a gwerth $40 miliwn o ddifrod.
Rwy’n cofio helbulon nes adre. Lloegr 1981, Brixton yn ferw gwyllt yn Ebrill, a thros yr haf anhrefn benrhydd mewn ardaloedd fel Toxteth yn Lerpwl, Handsworth yn Birmingham, a llawer man arall. Roedd yr ymateb i hiliaeth yn ffactor pwysig yn y cythrwfl hwnnw.
A pheidiwch anghofio ein cyfraniad ni yng Nghymru, gwerin Merthyr yn meddiannu’r dref ym Mehefin 1831 am wythnos gyfan, yn torri i mewn i Lys y Dyledwyr ac adeiladau’r awdurdodau, yn ymladd yn ddidostur â’r milwyr a anfonodd llywodraeth Prydain yno i gadw trefn. Lladdwyd 24 o bobol yn y ffrae. Ymddygiad gwarthus, ynte? O leiaf cas un o’r dihirod ei grogi ac un arall ei alltudio i Awstralia.
Ond gan bwyll, gan bwyll! Ry’n ni’n sôn am rai o arwyr ein cenedl fan hyn. Am safiad dewr y dosbarth gweithiol, am ferthyrdod Dic Penderyn dan ormes ein llywodraethwyr cyfalafol!
Yr hen ddilema. Terfysgwr peryglus yn dy farn di, ymladdwr dros gyfiawnder yn fy marn innau. Dibynnu ar eich safbwynt.
Mae terfysgoedd a thorcyfraith torfol wedi digwydd drwy’r oesoedd. Weithiau, wrth gwrs, bydd cymhelliad digon sinistr iddyn nhw, awydd i droi ar ryw leiafrif, i ganfod bwch dihangol. Y pogrom gwrth-Iddewig ar hyd y canrifoedd, reiat yn erbyn mewnfudwyr ym Melffast a Southampton ym Mehefin eleni. Ond nid dyna’r achos yn Ffrainc.
Yn rhyfedd, welwn ni byth mo’r cyfoethog a’r breintiedig mas ar y stryd yn gweiddi eu protest. Y tlawd, y difreintiedig, y rhai diobaith, a geir yn rhengoedd y dyrfa, beth bynnag fo eu cenedl. Y rhai di-lais yn defnyddio’r unig ddull sy ganddyn nhw i gael eu clywed.
Tebyg iawn y cynhelir ymchwiliad swyddogol i’r aflonyddwch presennol yn Ffrainc, ond gallwn ragweld y canlyniadau eisoes: tlodi, cyfleusterau gwael, prinder cyfle i gael mwynhau’r bywyd bras gall y gwrthdystwyr eu gweld o’u cwmpas. Ac, o bosib, agweddau hiliol yr heddlu a’r awdurdodau tuag at gymunedau o dras ethnig wahanol.
Plus ça change, plus c’est la même chose. Fel maen nhw’n dweud ym Merthyr.
Robat Powell 25 Hydref 2026

Comments