top of page

Newyddion Da


Nid yn aml y mae stori newyddion o Gymru yn bwrw i mewn i benawdau newyddion Lloegr. A honno’n digwydd bod am yr ysgol y bûm i’n ddisgybl ynddi flynyddoedd go faith yn ôl. Yno ychydig ddyddiau’n ôl y mae croten 13 oed wedi ei harestio ar gyhuddiad o fwriad i lofruddio â chyllell, a chrwt 15 oed hefyd yn cael ei holi oherwydd rhyw dystiolaeth ar y cyfryngau cymdeithasol.  Prawf pellach bod gwrando ar y newyddion yn golygu mesur o ddewrder seicolegol i wybod beth ar y ddaear sy wedi digwydd nawr?!

Gydag ymddiheuriadau, felly, dyma restr o’r pethau all fod yn ein dychryn.

 

 Ymddygiad Hamas ac ymateb llywodraeth Netanyahu. Rhyfel Rwsia yn erbyn yr Wcrain a newyn a rhyfel yn y Sudan. Perygl ail ethol Trump yn Arlywydd  yr UD. 

Ffolinebau a chelwydd yng ngwleidyddiaeth Prydain, ac arwyddion o lygredd ariannol yn newis Vaughan Gethin yn brif weinidog Cymru.Y  protestio yn erbyn  Netanyahu yn destun dicter am fod elfennau gwrth semitaidd yn llygru meddyliau. Fyddai annog casau Hamas yn gwella pethau? Tybed! Ar ben hynny anghyfiawnderau fel helynt  Swyddfa’r Post a gwaed llygredig yn cael ei roi i blant heb ddweud wrth eu rhieni. Woke, myn brain i ! Unwaith y medrwch chi ddweud  dros rhywun arall “Dyw hynny ddim yn deg” , rydych chi wedi ddeffro i anghyfiawnderau’r byd.

 

Pregeth gyntaf Iesu yn Nazareth oedd darllen neges Eseia  y broffwydoliaeth o ‘newyddion da i’r tlawd’ wedi ei chyflawni yn ei ddyfodiad ef. Aeth ymlaen i sôn am Dduw’n gweithredu dros y wraig o Sarephtha a’r milwr Naaman o Syria. Roedd yr awgrym fod  newyddion da i fod i genhedloedd eraill yn ogystal ag i Israel (Pobl Dduw) yn ddigon i godi ton o gasineb at Iesu ac ymdrech i’w ladd yn y fan a’r lle.  Mae dymuno newyddion da i bob cenedl yn beth peryglus iawn i’w wneud.

 

Yn y diflastod a’r ofn, cyhoeddi mwy o arian at arfau a pharatoi at ryfel yn Ewrop y mae’r hen athrawiaeth am ‘bechod gwreiddiol’ yn tasgu i’r côf fel dehongliad eithriadol gall ac amlwg o allu’r ddynoliaeth i wneud smonach treisgar o’r byd. Digon o dystiolaeth ym mhob cyfeiriad . Heb sôn am  y perygl gwaethaf oll, dinistrio’r amgylchedd a dinistrio’r byd trwy dân.

 

Cawn gyfle cyn diwedd y flwyddyn i fynegi barn am y llywodraeth yn Llundain, ond bydd y llanast sydd i’w glirio gan ddynionach, pa mor dda bynnag y  bo’i bwriadau,  yn cymeryd blynyddoedd.  Beth i’w wneud  felly?

 

  Rhan o’r argyhoeddiad Cristnogol yw  bod Gobaith yn rhinwedd,  ac nid dim ond yn deimlad cynnes neis yn y bol. Mae angen gobaith pan fo pethau’n anobeithiol. Pan yw’n rhyfel, yr unig bosibilrwydd  yw gobaith y daw i ben ac mai “mlaen mae mynd”.

Bob tro y gweddiwn Weddi’r Arglwydd fe ddywedwn “Deled Dy deyrnas.”

Yn y cyfamser rhaid meithrin  dewrder  a chariad ac ymwrthod â chasineb. 

Tybed ai  hynny yw  ystyr Ann Griffiths wrth ganu ’Codi’r groes a’i chyfri’n goron”?

 

Phoebe Griffiths

 

bottom of page