top of page

Newyddion Da!

Ystrydeb ydi dweud ein bod yn byw mewn cyfnod terfysglyd. Bob tro byddwn ni’n darllen newyddion ar y We, yn gwylio’r teledu, neu’n agor tudalennau papur newydd, down wyneb yn wyneb â llif cyson a di-ben-draw o adroddiadau am wrthdaro, trais, gormes neu anghyfiawnder.


Mae cymaint o newyddion ‘drwg’ y dyddiau hyn nes bod nifer y bobl sy’n cymryd gwir ddiddordeb mewn newyddion wedi gostwng tua 25% yn ystod y chwe blynedd diwethaf hyn, yn ôl adroddiad diweddar gan Sefydliad Reuters Prifysgol Rhydychen; mae’r ffigwr yn y Deyrnas Unedig mor isel â 43% o’r boblogaeth. Dywed awduron yr adroddiad fod tystiolaeth fod cynulleidfaoedd yn dewis osgoi straeon pwysig fel y rhyfel yn Wcráin a’r argyfwng costau byw, gan leihau’r amser maen nhw’n ei dreulio’n rhoi sylw i newyddion digalon er lles eu hiechyd meddwl.


Efallai ei bod yn syndod deall mai’r platfform pwysicaf am newyddion ym maes y cyfryngau cymdeithasol o hyd ydi Facebook, er bod y cyfrwng hwnnw’n gweld lleihad cyson yn y rhai sy’n ei ddefnyddio. Dywedodd 41% o bobl ifanc 18–24 oed mai’r cyfryngau cymdeithasol ydi prif ffynhonnell eu newyddion (18% oedd y ffigwr yn 2015), gyda 20% o’r categori oedran hwn yn defnyddio TikTok i gael eu newyddion.


Yr hyn sy’n peri pryder ydi mai selébs, dylanwadwyr neu bobl gyffredin sy’n rhannu ‘newyddion’ neu safbwynt ar y cyfrwng hwn, yn hytrach na gohebyddion proffesiynol y prif ffrwd newyddion, ac felly nad yw’r hyn sy’n cael ei gyfleu yn adroddiad cytbwys a theg o’r digwyddiadau. Ac mae corfforaeth y BBC ei hun hefyd wedi cael ei chyhuddo’n gyson o ddangos rhagfarn.


Ond beth am ddysgu am y ‘Newyddion Da’? Gyda lleihad cyson yn niferoedd y rhai sy’n mynychu capel neu eglwys a diflaniad ysgolion Sul i bob pwrpas mewn sawl ardal, sut mae rhoi’r cyfle i rai o bob oed fod yn ymwybodol o’r hyn sydd gan yr Efengyl i’w gynnig?


Mewn gwasanaeth angladd yn ddiweddar, wrth weddïo dros y rhai oedd yn galaru, mynegodd y gweinidog oedd yn arwain y gwasanaeth y gred mai drwy garedigrwydd a chymwynasau teulu, cyfeillion a chymuned y mae Duw yn ateb ein gweddïau.


Ac felly, pa ffordd well o gyhoeddi’r ‘Newyddion Da’ y dyddiau hyn na thrwy fod yn garedig a chyflawni gweithredoedd bach cymwynasgar, bod yn glust i wrando neu gynnig gair o gysur?


Gwna ni yn lampau d’oleuni

lle byddo t’wyllwch a thrais,

gwna ni’n gyhoeddwyr dy obaith

fel clywo’r bobloedd dy lais:

dysg inni ddeall o’r newydd

holl ystyr cariad at frawd;

dyro dy gariad i’n clymu,

dy gariad di.


Comments


bottom of page