top of page

Newidiadau mawr, dechreuadau bach


“Mae fel hedyn mwstard yn cael ei blannu yn y pridd. Er mai dyma'r hedyn lleia un mae'n tyfu i fod y planhigyn mwya yn yr ardd. Mae adar yn gallu nythu a chysgodi yn ei ganghennau!” (Marc 4: 30-32).


Mae’r ddelwedd o’r hedyn lleiaf, sef yr hedyn mwstard, yn tyfu i fod yn blanhigyn sydd ddigon mawr i adar gael lloches ynddo yn bwerus iawn . Mae yna ddirgelwch ynglŷn â’r holl broses o blannu, meithrin ,gofal a’r garddio cyn cynhaeaf. Mae’n drefn sy’n cael ei throsglwyddo oes i oes ac o genhedlaeth i genhedlaeth. Does dim modd gweld beth sy’n digwydd ar y dechrau ond yn raddol mae’r tyfiant yn datblygu nes yn ddigon mawr i fedru cynnal rhywogaeth(au) eraill fel adar. Mae’n ddelwedd rymus o Deyrnas Dduw. Ffrwytho, tyfu, cynhaeafu. Yna dathlu a diolch. Gobeithio.


Mae gwaith Cymorth Cristnogol yn cynnig cyfle i ni gyfrannu tuag at hau hadau gobaith. Mae’n waith o roi, gweddïo a gweithredu wrth godi llais er mwyn ymdrechu i gynnig bywyd yn ei lawn botensial i bawb. Rhannu cariad a gofal i’r bregus - fel yr adar yn y goeden - yn gyfiawnder, cariad a heddwch, yn arwydd o Deyrnas Dduw ar waith mewn byd sydd wedi ei rwygo gan anghyfiawnder rhyfel, anghyfartaledd tlodi a dinistr yr argyfwng hinsawdd.


Ym mis Mai (Wythnos Cymorth Cristnogol, Mai 14-20 ) byddwn yn dathlu sut mae teuluoedd ym Malawi wedi trawsffurfio eu bywydau, eu breuddwydion a’u bywoliaeth trwy ddulliau newydd o ffermio a phlannu hadau pys colomennod (math o lentil). Mae’r cynnydd mewn costau bwyd ac anghenion sylfaenol yn chwalu breuddwydion ym Malawi. Mae plant yn colli’r cyfle i fynd i’r ysgol oherwydd newyn a thlodi difrifol. Mae ffermwyr yn ymdrechu i dyfu bwyd a goroesi drwy fygythiadau o sychder, llifogydd a stormydd drwg yn wyneb yr argyfwng hinsawdd.


Mewn ffordd ymarferol, hadau sydd wedi trawsffurfio bywyd teulu Esther, gwraig weddw, mam a nain sy’n rhan o Gymdeithas Ffermwyr Nandolo sy’n sicrhau pris teg am ei phys colomennod.

O genhedlaeth i genhedlaeth mae breuddwydion teulu Esther yn cael eu gwireddu diolch i’r pys colomennod! O’r diwrnod y gwnaeth hi ymuno gyda’r gymdeithas gydweithredol fe adeiladwyd warws i warchod a storio’r pys rhag pob tywydd. Sefydlwyd banc hadau. Mae’r ŵyr wedi cychwyn ar ei addysg ysgol feithrin. Mae un ferch mewn coleg nyrsio gydag arian y pys yn talu am y llety. Mae’r ferch arall yn gwireddu ei breuddwyd o fod yn saer coed ac arian pys wedi prynu llif ac offer eraill iddi ar gyfer y cwrs.


Cafodd Esther beiriant gwnïo ac mae hi hefyd wedi cynhyrchu llyfr rysetiau maethlon yn pobi gyda blawd pys colomennod ar gyfer teuluoedd eraill yn ei chymuned. Fel pys Esther, gall ein gweithredoedd ymddangos yn fach, ond gyda’n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth mawr trwy gefnogi gwaith Cymorth Cristnogol - gwaith y newidiadau mawr a ddaw o ddechreuadau bychain.




Comments


bottom of page