top of page
Search

NEB YN DWEUD DIM

  • 6 hours ago
  • 2 min read

Dengys  ystadegau o America  bod y menywod sy’n magu plant ar eu pennau eu  eu hunain, ac sy’n mynychu addoldy, wedi disgyn llawer cyflymach na’r nifer sy’n addoli yn cyffredinol. Nid oes ystadegau ar gyfer Cymru ond gellid tybio fod yr un peth yn digwydd yma. Er bod gweddwon yn eu plith, mae’r mwyafrif o deuluoedd un-rhiant yn cael eu creu, naill pan mae dyn yn gadael ei gymar, neu pan mae dynes yn gorfod ffoi, gyda’i phlant, oddi wrth ddyn treisgar. Beirniedir y teuluoedd hyn yn amlach  na’r rhai sy’n gyfrifol am y drosedd a’r chwalfa..

 

Ers talwm bu’r eglwysi yn cyfeirio at gymar yn godinebu neu yn gadael, fel yr unig resymau dilys dros ysgaru.  Mae rhai enwadau yn parhau i bwysleisio y rhesymau hyn yn unig, ac mae dylanwad yr agwedd honno  yn parhau mewn cymdeithas, ond gyda’r twf mewn ymwybyddiaeth o drais domestig mae’r mwyafrif o eglwysi yng Nghymru yn derbyn, yn dawel, yr angen i fenywod adael priodasau treisgar.

 

 Nid digwyddiadau tu fewn i un aelwyd yw’r trais hwn ond arwydd o broblem gymdeithasol gyffredin yn seiliedig ar agwedd rhai dynion at fenywod, ond nid yw’n cael ei gydnabod fel argyfwng traws-gymdeithasol fel y gwneir â thlodi a diweithdra. Mewn arolwg arall dywedir fod tri-chwarter o fenywod Cristnogol erioed wedi clywed pregeth am ragfarnau rhywiol, sy’n golygu bod llai wedi clywed pregeth ar drais mewn priodas.

 

Pan sonia menywod Cristnogol am eu profiadau o drais, clywir am ambell Cristion, ac ambell weinidog, sy’n cynnig cymorth ymarferol ac ysprydol ond, yn gyffredinol,  does (bron) neb yn dweud dim. Gellid teimlo ambell un yn feirniadol  ond tybir bod y mwyafrif yn ansicr ynglyn â beth yw barn eu heglwys neu eu dealltwriaeth o’r sefyllfa. Mae’r Ysgrythurau yn pwysleisio droeon yr angen i gynorthwyo’r gwan, y diamddiffyn a’r gorthrymedig ond nid yw’r ymwybyddiaeth o ddifrifoldeb y sefyllfa wedi arwain at pregethau sy’n egluro pam na all priodasau treisgar fod yn briodasau Cristnogol. Anaml iawn y clywir gweddïau dros ddioddefwyr. Mae angen torri’r tawelwch llethol sy’n ceisio osgoi y testun, er mwyn creu awyrgylch sy’n cydnabod bod trais yn y cartref yn digwydd ple credir y rhai sydd wedi cam-drin. Ond  mae’r gynulleidfa  yn trafod sut i gynnig cymorth i’r rhai sydd wedi dioddef ac ar yr un pryd  yn atal beirniadaeth o’r rhieni sy’n magu eu plant heb gymorth cymar.

 

Mae’r her, yn enwedig mewn eglwysi lle mae mamau a’u plant yn bresennol, a hefyd mewn eglwysi ble mae menywod sydd wedi dioddef yn y gorffennol, i greu  awyrgylch ple bydd dioddefwyr yn teimlo’n gysurus a diogel. Mae cynnig cyfeillgarwch sy’n caniatáu i famau sengl sgwrsio am eu sefyllfa gartref yn amhrisiadwy. Gall arwain at gymorth ymarferol a chlust i wrando mewn sefyllfa sydd mor,mor unig. Mae rhai eglwysi yn trefnu grwpiau ar gyfer rhieni-sengl. Gall cymorth gyda gwarchod plant ganiatáu i’r rhieni fwynhau rhywfaint o fywyd cymdeithasol.  Wrth geisio lleihau problemau ymarferol gwneir yn haws i riant sydd wedi dioddef profiadau hunllefus ymdopi gyda’r anghenion a’r agwedd ysbrydol sy’n dilyn profiadau’ o’r fath.

 

Rwth Tomos.

 


 
 
 

Comments


bottom of page