top of page

Nadolig y Gwleidydd

Fel sy’n gweddu i’r Nadolig, dyma’r  adeg pan fyddwn ni wleidyddion yn cymryd seibiant. Mae’n gyfle i feddwl a myfyrio ynghylch sut gall pobl gyd-fyw mewn cymdeithas.

 

Dyma’r cyfle i fyfyrio ar yr angen i roi trefn gytûn ynghylch sut mae unigolion yn cyd-fyw gyda’i gilydd - mewn cyfiawnder a heb ormes. Fel oedolion cyfrifol rydym yn derbyn awdurdod deddfau sy’n ein rhwystro rhag sathru ar bobl wannach na ni. Gwnawn hynny oherwydd ein bod yn gallu dychmygu y gallwn ninnau, yn ein tro, fod yn ddinerth a di-ddylanwad. O’r herwydd, derbyniwn drefn sydd er lles bawb.

 

Yn y bôn, felly, rôl gwleidyddion yw llafurio wrth blethu, datod a chyweirio’r rhaffau o gyfreithiau sy’n clymu cymdeithas at ei gilydd. Ac mae grym yn amlwg yn perthyn i’r penderfyniadau yma. Felly, mae’r hyn sy’n gyrru penderfyniadau gwleidyddion unigol o bwys i bawb.

 

Mae gwleidyddion yn dod â chod o werthoedd i’w penderfyniadau. Maen nhw’n dod â datganiadau fel rhan o ‘focs-tŵls’ i drin a thrafod moeseg. Bydd cyfran o’r gwerthoedd yn hysbys i’r cyhoedd drwy faniffesto plaid wleidyddol benodol. Bydd aelodaeth o’r blaid yn adlewyrchu egwyddorion cyffredinol y gwleidydd unigol. Rydym yn disgwyl i wleidyddion sy’n gweithredu o fewn pleidiau gadw at eu gair. Heb hynny maen nhw’n agored i gael eu collfarnu am dorri addewidion. Ond bydd gwleidyddion hefyd yn dod â’u gwerthoedd, eu cod moesol a’u profiadau eu hunain i’w gwleidyddiaeth.

 

O ystyried mesur preifat Kim Leadbeater, AS Spen Valley, Mesur Oedolion ag Afiechyd Marwol (Ddiwedd Oes) (Terminally-Ill Adults (End of Life) Bill), mae yma bwnc sy’n gwthio gwleidyddion i drafod goblygiadau newid cyfraith yn ei fanylder ymarferol, ochr-yn-ochr ac ystyried cysyniadau moesegol brawychus o bellgyrhaeddol.

 

Derbyniodd y mesur ei ailddarlleniad yn y Tŷ ddiwedd Tachwedd 2024. Cafodd ei basio ar bleidlais rydd o 330 pleidlais o blaid a 275 pleidlais yn erbyn. Mi bleidleisiais i o blaid, gyda’r caveat o allu atal barn ar sut i bleidleisio eto pan ddaw’r mesur i’w drydydd darlleniad. Erbyn hynny, gobeithio, bydd unrhyw wendidau deddfwriaethol wedi cael eu hamlygu a’u datrys. Bydd y ddeddfwriaeth ddrafft rŵan yn mynd gerbron Pwyllgor Mesur yn y flwyddyn newydd, pwyllgor yw hwnnw sy’n cynnwys dau weinidog o’r Llywodraeth ynghyd â 21 Aelod Seneddol arall.

 

O safbwynt yr Aelod Seneddol unigol, rhaid pwyso a mesur yr holl ohebiaeth a ddaw gan etholwyr ynghyd â’r ohebiaeth a dderbynnir gan fudiadau sy’n awyddus i ddylanwadu ar y canlyniadau – ac fe ddaeth cannoedd o e-byst ar y pwnc. Roedd rhai yn cynnwys negeseuon personol torcalonnus. Roedd eraill wedi eu drafftio gan sefydliadau lobïo. Llawn cyn bwysiced yw ceisio clywed llais y rhai nad ydynt mor barod i leisio a thrafod eu barn.

 

Gyda llaw, mi fyddaf i yn eistedd ar y Pwyllgor Mesur hwn. Ac er fy mod braidd yn betrus ynghylch y cyfrifoldeb, rwyf hefyd yn falch o fod yn rhan o weithredu moesegol yn rhinwedd fy swydd a hynny mewn ffordd mor ganolog.

 

Mae’n hawl rwyf i’n awyddus i’w chael i mi fy hun fel oedolyn – sef yr hawl i ddewis amser fy marwolaeth yn wyneb dioddefaint a salwch, bywyd a ddaw i ben drwy farwolaeth doed a ddêl. Ond hefyd mae’n fesur sydd â’r potensial i fod yn niweidiol i bobl fregus yng nghyswllt gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, sydd hefyd yn wasanaethau bregus o’u rhan eu hunain.

 

Sut ddylen i gysoni hawl yr unigolyn i ddewis marw gyda’r hawl cyffredinol i gael byw? Sut ddylen i gysoni’r egwyddor haniaethol gyda realiti llysoedd barn ac ysbytai gorlawn? Dyna’r heriau sy’n ein hwynebu.

 

Mae craidd Gŵyl y Nadolig yn berthnasol iawn i’r pynciau hyn.

 

Liz Saville Roberts

AS Dwyfor-Meirionnydd

22 Rhagfyr 2024




Comments


bottom of page