Eleni eto ni fydd Nadolig yn cael ei ddathlu ym Methlehem, Palesteina. Eleni eto fe fydd Herod wrthi’n lladd y diniweidiaid. Eleni eto fe fydd mwyafrif llethol o arweinwyr eglwysi Cymru yn dweud dim; a thrwy hynny yn poeri yn wyneb y baban yn ei grud yng nghanol y rwbel a’r gwaed, ac yn gadael i Herod gyflawni ei ffieidd-dra. Eleni eto bydd ein llywodraeth yn hogi arfau milwyr Herod i’w gwneud yn fwy effeithiol yn y lladdfa.
Beth oedd bai mawr Herod? Yn ôl safonau’r byd yr oedd Herod yn frenin da ac yn ddyn hynod o ddewr. Yn debyg i’n gwleidyddion heddiw, roedd yn barod i wneud ‘penderfyniadau anodd’, a’u gwneud nhw er lles y bobol.
Dyma enghraifft odidog o wleidydd galluog a chyfrwys. Cyfrifoldeb pennaf unrhyw wleidydd yw sicrhau diogelwch a sefydlogrwydd y wlad. Fe glywn hyn yn gyson gan ein gwleidyddion heddiw wrth iddyn nhw gyfiawnhau'r gwariant gorffwyll ar ‘amddiffyn’ – yr holl arfau a’r bomiau niwclear.
Sefydlogrwydd y deyrnas oedd y peth cyntaf a ddaeth i’w feddwl pan gyrhaeddodd y magoi (arweinwyr crefyddol gyda chysylltiadau â Soroastraeth, hen grefydd Persia). Cyhoeddodd y
rheiny’n haerllug i Herod eu bod wedi dod o Iran i ddweud bod yna frenin newydd wedi ei eni.
Dychmygwch y dicter a deimlai Herod, Brenin newydd!! Fe oedd y brenin, ac yr oedd ganddo feibion i’w olynu. Roedd yn amlwg iddo nad oedd y brenin newydd hwn yn perthyn i’w deulu ef. Os byddai’r brenin hwn byw fe fyddai’n creu ansefydlogrwydd ac anhrefn am genedlaethau i ddod! Mae’n siŵr y byddai rhyfel cartref yn digwydd. Yr oedd yn rhaid cael ei wared!
Sylwch ar y modd y mae Mathew yn adrodd yr hanes. Pwysleisia nad penderfyniad y teyrn ar ei ben ei hun oedd hyn – yr oedd “holl Jerwsalem gydag ef”! Ymgynghorodd â’r arweinwyr crefyddol a gwleidyddol ac yr oedden nhw i gyd wedi eu “cythruddo”. Roedden nhw, felly, yn barod i weithredu er mwyn amddiffyn y deyrnas rhag anhrefn a thywallt gwaed yn y dyfodol. Er mwyn sicrhau heddwch a llwyddiant i’r cenedlaethau oedd i ddod roedd yn rhaid gweithredu ar fyrder. Gweithred annymunol bid siwr, creulon hyd yn oed, ond er lles y cenedlaethau i ddod bydd rhaid aberthu diniweidiaid fel collateral damage.
Ystyriwn Herod yn ddihiryn oherwydd mai Iesu oedd un o’r babanod yn y stori! Yr angen mawr yw i ni sylweddoli bod Iesu yn rhan o bob stori sy’n ymwneud â’r ddynoliaeth: ‘Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, yn gymaint ag ichwi ei wneud i un o'r lleiaf o'r rhain, fy nghymrodyr, i mi y gwnaethoch.’
Nid oes hawl gennym gondemnio Herod os nad ydym yn gwrthwynebu’r hyn sy’n cael ei gyflawni gan Israel heddiw. Onid oedd hawl gan Herod i amddiffyn ei deyrnas rhag anhrefn ac ansefydlogrwydd i’r dyfodol? Nid yn y ffordd honno, bid siwr! Nid drwy aberthu pobol. Stori sy’n wers i’n byd heddiw yw hon: nid drwy aberthu’r diniwed y mae cael trefn, sefydlogrwydd a heddwch i’r dyfodol.
Guto Prys ap Gwynfor
24 Tachwedd 2024
Comentarios