top of page

Nadolig ‘23

Rhyw gybolfa o Ŵyl oedd hi. Oherwydd fy oed, mae’n debyg, roedd nifer o ffrindiau a chydnabod yn wynebu sefyllfaoedd anodd a doedd hi ddim yn hawdd dymuno Nadolig Llawen wrthyn nhw mewn difri calon. Ac wrth ystyried cyflwr ein gwasanaethau cyhoeddus, y llanast gwleidyddol a’r brwydro milain ar draws y byd, roedd peryg i’r cyfarchiad tymhorol swnio fel jȏc ddi-chwaeth i glustiau pawb arall.

 

Ac eto daeth ambell fflam i oleuo’r tywyllwch – perfformiad o’r Meseia yn Llandudno; cyngerdd hyfryd o garolau gan Leisiau’r Mignedd yn  Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni; ac yn yr un lle, am saith o’r gloch ar fore Dydd Nadolig, ( ie, saith y bore gyfeillion) gwasanaeth Plygain difyr a’r eglwys yn llawn. Awr o warineb mewn byd gwallgof. A chasglwyd deiseb yn galw am gadoediad rhwng lluoedd Israel a Hamas yn ogystal â setliad teg i’r ddwy ochr, gan gapeli Dyffryn Nantlle gaiff ei chyflwyno i’r  Llywodraeth yn Llundain.

 

Canhwyllau bychain bach mewn caddug mi wn. Doedd dim posib gwrando heb sôn am ganu carol yn crybwyll noson ‘fwyn ym Methlehem’ na ‘gwlad Jwdea dlos’ heb i’r geiriau chwalu’n siwrwd yn erbyn realiti uffern Gasa ac ymosodiadau Hydref y seithfed.

 

Mewn gwasanaeth gan aelodau yng nghapel Soar yn ystod Tymor yr Adfent darllenwyd y geiriau  ysgytwol o Efengyl  Mathew, “Clywyd llef yn Rama, wylofain a galaru dwys; Rachel yn wylo am ei phlant, ac ni fynnai ei chysuro, am nad oeddent mwy.” Fel sylw ar ganlyniadau dialedd Herod yn stori’r sêr-ddewiniaid mae’r ystyr yn amlwg ac yn cyfleu dychryn Nadolig 2023 i’r dim.

 

Ar ôl clywed yr adnodau mi es yn ôl at y geiriau gwreiddiol gan y Proffwyd Jeremia i weld y cyd-destun. Sôn mae’r proffwyd am y genedl yn dychwelyd o’r gaethglud ym Mabilon ac mae’r addewidion yn glir: “Cei blannu eto winllannoedd ar fryniau Samaria”. A daw’r bennod i ben gyda’r datganiad herfeiddiol, “..ailadeiladir y ddinas i’r Arglwydd, o dŵr Hananel hyd Borth y Gongl... Ni ddiwreiddir y ddinas ac ni ddymchwelir mohoni mwyach hyd byth.”

 

Mae’r broffwydoliaeth yn rhan o’r addewidion wnaed yn yr Hen Destament sy’n sail i’r meddiannu cynyddol gan sectau eithafol Iddewig ar dir y Palestiniaid. Mae’r addewidion honedig yn dirwyn o Lyfr Genesis trwy Lyfr Joshua – lle mae dinasoedd cyfan, yn wŷr a gwragedd, yn cael eu difa yn enw Duw – hyd at y proffwydi mawr.

 

Ydyn ni fel Cristnogion i fod i gredu’r addewidion hyn yn llythrennol? Yn hyn o beth mae’r Beibl – wel, yr Hen Destament o leiaf – yn ymddangos fel rhan o’r broblem ac nid yn rhan o’r datrysiad.

 

Nid dadl ydi hon yn erbyn bodolaeth gwladwriaeth Israel. Ond os na ddaw lleisiau cymodlon i dewi mileindra’r eithafwyr ar y ddwy ochr, mae perygl y bydd y danchwa’n ymestyn ymhell o diroedd y meddiant ac ni fydd diwedd ar wylo Rachel.

 

 

Alun Ffred

 

 

Comments


bottom of page