top of page

Mwy nag ewyllys da


Rhai misoedd yn ol fe gynigiais arwain y gwasaneth yn y capel ar Fai yr 21ain gan mai dyna y Sul cyntaf ar ol rhannu Neges Ewyllys Da yr Urdd. Mae’r neges yn codi bob math o atgofion o’m plentyndod - y gwisgo i fyny ar y 18fed o Fai bob blwyddyn a rhannu y neges, a chredu ar rhyw lefel diniwed fod pawb yn y byd yn gwrando ar y neges rywsut neu gilydd! Mae tyfu i fyny yn gallu bod yn greulon!! Ond roeddwn yn ymwybodol iawn na fyddai neb arall yn y gynulleidfa eleni erioed wedi clywed am y neges, nac yn gwybod fawr am Gymru.


Dechreuais y paratoi ar gyfer y gwasanaeth wythnosau ymlaen llaw, cyn clywed mai hiliaeth oedd canolbwynt y neges yn 2023. Pwnc amserol iawn i’n cynulleidfa ni gan fod nifer o’n cynulleidfa yn bobl ddu, ac rydym wedi bod yn dysgu am eu hanes, wedi bod yn astudio beth sydd gan y Beibl, haneswyr a’r eglwysi i’w ddweud am y pwnc, ac fe wnaeth nifer o bobl rannu eu profiadau personol, anodd. Gan nad wyf bellach yn byw yng Nghymru, sylweddolais fod rhaid i mi esbonio dipyn am Gymru – ble mae y wlad, beth ydy ein hanes, pwysigrwydd ein hiaith, beth ydy canolbwyntiau ar ein ymroddiad i heddwch, ac yna son am rai o’n traddodiadau. Tybed beth fasech chi wedi ei ddweud sydd yn gwneud Cymru yn wahanol i wledydd eraill?


Unwaith eto dyma fi yn troi at addewid yr Urdd, yr addewid yr oedd pob un ohonom yn arfer ei ddysgu : “Byddaf yn ffyddlon i Gymru, a theilwng ohoni, i’m cyd-ddyn, pwy bynnag y bo, ac i Grist a’i gariad ef”. Yn fy marn i mae yr addewid yma yn cameo o’n Cymreictod a’n safonau moesol fel cenedl. Mae ein ffyddlondeb i’r tair addewid yng nghlwm wrth ei gilydd a’r tair yn rhan o’n ysbryd ni fel cenedl. A dyma ddechrau meddwl am engreifftiau o sut yr ydan ni yn dangos hyn yn ein bywydau dyddiol fel unigolion ac fel eglwysi a chapeli. Mae gen i ddiddordeb cael gwybod sut ydach chi fel aelodau capeli ac eglwysi yn dangos hyn? Ydi’r tair rhan o’r addewid yma i’w weld yn glir? Ydyn nhw yn bwysig bellach?


Yn ystod ein gwasanaeth clywsom lais Paul Robeson yn canu “Hen Wlad fy Nhadau”, darlleniad o’r Beibl mewn Fietnameg, a’r Neges Heddwch yn y Gymraeg, Fietnameg, Portiwgeg, a’r Saesneg yn cael ei ddarllen gan bedair merch ddu. Roedd y neges yn glir i ni fore Sul Mai 21ain – ein bod i gyd yn rhan o’r un teulu dynol, a bod gan hyd yn oed y lleiaf ohonom ddyletswydd i godi ein lleisiau. Mae’r neges yn ystyrlon awn I ni heddiw ar ddechrau Eisteddfod yr Urdd ac y mae yn fwy nag ewyllys da.



Comments


bottom of page