Cristnogaeth 21,
E-fwletin Hydref 29ain.
Y mae adnod yn ail lyfr y Brenhinoedd sydd wedi fy mhoeni fel drychiolaeth yn ystod yr wythnosau diwethaf hyn. Y proffwyd Eliseus biau’r geiriau. Roedd ei was wedi ei ddychryn o sylweddoli fod byddin fawr Syria wedi eu hamgylchynu. Gweddïodd Eliseus ar Dduw, “Agor ei lygaid,” ac agorwyd llygaid y gwas. “Ac yna fe welodd y mynydd yn llawn meirch a cherbydau tanllyd o gwmpas Eliseus.” Ac meddai Eliseus wrth ei was, paid ag ofni. “Y mae mwy gyda ni nag sydd gyda hwy.”
Ar hyd y dyddiau diwethaf dyna a glywyd. Cyfri’r rhifau yn Israel a’r cyffiniau. Wedi i Netanyahu a’i wasanaeth cudd gael eu dal yn hepian, aeth hwnnw ati yn ei gywilydd i argyhoeddi ei gefnogwyr adain dde ei fod yn ddyn cryf drwy gyhoeddi dial ar y Palestiniaid yn Gaza. Lle’r oedd Hamas wedi lladd 1,400 ( a herwgipio tua 200 ) yn eu hymgyrch greulon, aed ati i ymffrostio yn y miloedd o filwyr Hamas y byddai’r Iddewon yn eu lladd. Yna cyhoeddwyd y gorchymyn i Balestiniaid symud o’u cartrefi, cannoedd o filoedd ohonyn nhw. Ond lladdwyd miloedd ohonynt erbyn hyn. Rhifau a ffigurau eto. Yna’r Palestiniaid yn eu tro yn protestio am y cannoedd wedieu lladd, yn ddigartref, a thrueiniaid yn ddideulu.
Daeth Joe Biden draw, eto i gystadlu ag adain dde Trump a’i filiynau o gefnogwyr, i gyhoeddi ei gefnogaeth lwyr i’r Iddewon. Prifweinidog Lloegr a Keir Starmer wedyn, yn ofni unrhyw arlliw o wrthsemitiaeth, yn ymuno i ganu’r un gytgan. Yna’r Arabiaid yn dechrau rhifo’r gwledydd sy’n gefnogol i’r Palestiniaid. Gȇm y rhifau piau hi eto! Mae mwy gyda ni!
A sôn am gȇm, yr hyn sy’n warth ar y ddynoliaeth bellach yw’r sôn am “reolau” rhyfel, yn union fel petai rhyfel yn gȇm. Beth ddywedai Iesu tybed am hawl y dyn gwareiddiedig i ladd, dim ond iddo ladd yn ôl y rheolau! A bellach, os ydym am ladd ein cymdogion, awn ati i wneud hynny, ond gofalwn fod y rhifau o’n plaid ni, a bod mwy gyda ni nag sydd gyda nhw.
John Gwilym Jones.
Comments