"Mwy fel Dolly, llai fel Trump"
Gallwch ddychmygu cymeradwyaeth torf y babell yng Ngŵyl Greenbelt pan atebodd yr economydd Ann Pettifor i gwestiwn gyda’r geiriau hyn. Doedd dim angen esboniad pellach, wrth gwrs. Roedd Dolly Parton wedi marw rai dyddiau yn gynt, a phawb newydd gael eu hatgoffa nid yn unig o ddylanwad eang ei cherddoriaeth, ond hefyd o’i phlentyndod difreintiedig a sut y defnyddiodd ei chyfoeth i wella bywydau eraill trwy raglenni llythrennedd i blant, cefnogaeth i ymchwil meddygol a’i haelioni i gymunedau wedi eu heffeithio gan drychinebau naturiol.
Mae cyfoeth Trump ar y llaw arall wedi cynyddu o 2 biliwn o ddoleri ers cael ei ethol yn 2024, tra bod Americanwyr yn ei chael yn anodd i brynu tanwydd ac osgoi colli eu cartrefi. Rydym yn byw mewn byd ble mae’r 1% mwyaf cyfoethog yn berchen ar fwy na gwerth eiddo 95% o boblogaeth y byd gyda’i gilydd, a’r bwlch yn parhau i dyfu. Yn ôl Oxfam, mae symud nawr tuag at ffenomen a elwir yn “oligarchiaeth byd-eang”, lle mae’r mega-cyfoethog yn siapio penderfyniadau gwleidyddol i’w lles eu hunain ac ar draul pawb arall ym mhob man.
Cyhoeddodd Ann Pettifor lyfr eleni o’r enw Global Casino. Ei dadl ynddo yw bod byd y sector cyllid, y sector ffosil a deallusrwydd artiffisial yn gamblo gyda’n harian i fanteisio ar eu henillion cyn i’r systemau anghynaliadwy hyn ddod i ben, a hynny yn fuan iawn. Cred yn gryf y gall llywodraethau’r byd roi polisïau ar waith yn hawdd i reoli llif cyfalafiaeth yn well er mwyn dosbarthu cyfoeth yn decach a gwneud ein cymdeithas yn fwy llewyrchus i bawb.
Prin y clywn am anfoesoldeb a chamweddau y byd arian yn ein heglwysi, ond mae'n debyg bod gan bob un ohonynt gyfrif banc. Dyw ein harian ddim yn aros yn segur yno - mae'n mynd ymlaen i gael effaith ar hyd y byd, a beth wyddom ni am yr effaith hwnnw? Ydy’n banciau ni yn ariannu tanwydd ffossil, yn buddsoddi mewn cwmnïau arfau, neu’n noddi prosiectau sy’n camdrin yr amgylchedd a hawliau dynol? Mae’r mudiad JustMoney yn darparu gwybodaeth am fanciau mwy moesegol, ac yn awgrymu ein bod yn symud ein harian er mwyn alinio ein bancio gyda’n galwad fel Cristnogion i weithredu yn gyfiawn i wella anghydraddoldeb ac ymateb i argyfwng yr hinsawdd.
Llynedd cyhoeddodd Cyngor Eglwysi’r Byd ganllawiau i eglwysi o’r enw Deg Gorchymyn Bancio Hinsawdd-gyfrifol, sy’n cynnig camau gweithredu. Ym mis Mehefin eleni, ymatebodd eglwysi Methodist gwledydd Prydain, Iwerddon a Colombia trwy ddwyn cwyn cyfreithiol yn erbyn eu banc HSBC am eu rhan yn ariannu cwmni Glencore, sy’n mwyngloddio glo yn Cerrejón yng ngogledd Colombia. Eu dadl yw bod y banc wedi troseddu yn erbyn safonau yr OECD - yn ogystal â’u haddewidion eu hunain - o ran hawliau dynol a dyletswyddau amgylcheddol. Dyma’r tro cyntaf i eglwysi gymryd cam o’r fath.
Wrth wneud penderfyniadau fel unigolion am effaith ein harian mewn cyfrifon banc, pensiynau neu yswiriannau, ystyriwn neges y diwinydd Jeswitaidd John Haughey, “We read the Gospel as if we had no money, and we spend our money as if we know nothing of the Gospel.” Roedd dydd Sul diwethaf yn Good Money Sunday. Amser addas i ddechrau gwneud yr hyn a allwn i sicrhau bod ein harian yn cael ei ddefnyddio i wneud lles ac nid niwed i’n byd.
Anna Vivian Jones
11 Hydref 2026
Mwy o wybodaeth ar gael yma: Ten Commandments of Climate-Responsible Banking | World Council of Churches

Comments