Maen nhw’n paratoi at… beth?
- garethioan1
- Jun 22
- 2 min read
Dw i’n cofio dadl yn troi’n ffrae ar iard yr ysgol gynradd yn Llanuwchllyn un tro. Un bachgen yn honni bod ei dad wedi gyrru rownd trofa Llanycil (a oedd y blynyddoedd hynny yn dro S beryglus) ar hanner can milltir yr awr; neu fifty miles an hour fel y dwedodd o. Dyma’r nesaf yn mynnu bod ei dad o wedi ei chymryd hi yn gwneud sixty.. Cyn pen dim roedden ni wedi cyrraedd can milltir yr awr – fesul deg wrth gwrs – er mai dim ond ambell gar allai gyrraedd y cyflymder hwnnw yn y blynyddoedd hynny, a hynny i lawr allt ac ar ffordd unionsyth ffafriol. Daeth y taeru i ben pan sylweddolodd pawb bod y ffrae wedi troi’n nonsens. Aeth pawb i’w ffordd ei hun wedi pwdu os nad mewn cywilydd.
Rhywbeth yn debyg sy’n digwydd ar hyn o bryd wrth i arweinwyr byd frolio eu gallu milwrol, chwythu bygythion a gwario mwy a mwy ar arfau – tra mae gwerin gwlad yn ei chael hi’n anodd cael dau pen llinyn ynghyd. Hyd yn hyn does dim un arweinydd wedi sylweddoli eu ffolineb – yn wahanol i’r plant ar yr iard. Ond pa ots? Mae’n harweinwyr yno i’n gwarchod rhag y gelyn. Ac mae pob unben yn hoffi gelyn.
Diolch byth bod Keir Starmer wedi osgoi gwisgo helmed a gyrru o gwmpas mewn tanc, fel y gwnaeth yr anffodus Liz Truss a Mrs Thatcher. Ond mae pob arweinydd hyd y gwela’ i wrth ei fodd, a’i bodd, yn sefyll o flaen soldiwrs neu ar fwrdd llong ryfel a sgwario fel Churchill. Wrth gwrs, roedd hwnnw’n gwybod beth oedd rhyfel. Roedd wedi gweld tywallt gwaed yn anialwch Sudan, ac wedi deall bod “jaw,jaw,” yn well na “war,war.”
Ond does neb yn sôn am heddwch bellach. A neb yn anelu ato yn ôl pob golwg. Dim ond arfogi. Deuddeg llong danfor i ddychryn Putin, medd Starmer. Bydd o a Putin wedi diflannu cyn i’w hanner daro’r dŵr.
Wn i dim faint o goel i roi ar ffigyrau Rachel Reeves yn ei Harolwg Gwariant ond o’r tabl o’m blaen dw i’n gweld bydd y gwariant ar Amddiffyn yn codi yn uwch na dim byd – 7.3%. Bydd addysg ein plant a’n pobl ifanc yn cynyddu o 1.3% a bydd y rhan fwyaf o’r codiad yn mynd ar brydau ysgol am ddim. Ymhlith y collwyr, os ydi’r tabl yn gywir, mae Llywodraeth Cymru fydd yn gweld gostyngiad o tua 1%.
Oes rhywun yn rhywle yn mynd i dreiddio trwy’r brol a’r welwch-chi-fi i oleuo’r arweinwyr o wiriondeb gwastraffu arian ar arfau pan fo cymaint o bobl y byd mewn trueni a thlodi?
Digwyddais alw yn Eglwys Clynnog ddoe. Roedd y Beibl (Saesneg) ar agor ar dudalen Salm 120, “O Arglwydd , gwared fi rhag genau twyllodrus, a rhag tafod enllibus…..Yn rhy hir y bûm yn byw gyda rhai sy’n casáu heddwch. Yr wyf fi am heddwch, ond pan soniaf am hynny y maent hwy am ryfel.”
Yna, yn y salm nesaf ond un, rhif 122 cawn y geiriau hyn, “Gweddïwch am heddwch i Jerwsalem……bydded heddwch o fewn dy furiau.“ Mor eironig. Mor drist.
Alun Ffred Jones
22 Mehefin 2025
Comentários