Nofel ddifyr a ddarllenais yn ddiweddar oedd 'Orbital' gan Samantha Harvey. Ychydig dros gan tudalen ydyw, ac enillodd y Wobr Booker y llynedd. Cadw'n glir o lyfrau ffug-wyddonol a fyddaf fel arfer, ond nofel ffaith wyddonol ydi hon.
Yr hyn a wna'r awdur yw adrodd hanes criw mewn gorsaf ofod yn amgylchynu'r byd, ac mae hynny'n rhoi inni bersbectif cwbl wahanol. Er eu bod mor bell o'r ddaear, mae’r criw yn dal mewn cyswllt â'u teuluoedd. Holi mae'r llyfr beth yw bywyd heb y ddaear? Beth yw'r ddaear heb ddynoliaeth? Mae hefyd yn ymson ar amser, pellter a thragwyddoldeb.
Gan eu bod yn mynd o amgylch y ddaear 16 gwaith mewn diwrnod, maent yn gweld y wawr a'r machlud yn gyson, ac mae rhywbeth hudol mewn gweld y Ddaear yn goleuo. (Gallwch ei brofi eich hun ar ffrwd fyw yr Orsaf Ofod Ryngwladol). Dyna Ganolbarth America yn dod i'r fei... Uzbekistan... yr eira ar fynyddoedd Kyrgyztan... ehangder Môr yr India.
O edrych arni o'r gofod, mae yna rywbeth bendigedig o syml am y cyfan - pêl yn troi mewn gwagle ydyw. Un blaned, un ddynoliaeth. Mae'n arwain yr awdur at feddyliau fel hyn,
'It's the desire... to protect this huge yet tiny earth. The thing of such miraculous and bizarre loveliness. This thing that is, given the poor choice of alternatives, so unmistakably home. An unbounded place, a suspended jewel, so shockingly bright. Can humans not find peace with one another? With the earth? It's not a fond wish but a fretful demand. Can we not stop tyrannising and destroying and ransacking and squandering this one thing on which our lives depend?'
Dyna i chi eiriau sy'n werth eu cofio ar ddechrau blwyddyn. Prin fy mod i'n gallu cael sgwrs efo unrhyw un y dyddiau hyn heb fod Trump yn cael ei grybwyll. Fedra’ i ddim edrych ar y newyddion heb fod stori ar ôl stori am y storm o ddinistr ddaw yn ei sgil. A phan ddeffrois am bedwar y bore gyda gwyntoedd Éowyn yn amgylchynu'r tŷ, doedd gen i ddim llai nag ofn. Roedd fel bod grym Trump wedi ei ddiriaethu yn y storm anhygoel honno.
Gall cyfnodau fel hyn siglo ein ffydd. Mae'r golygfeydd o Gaza ar hyn o bryd yn ein lluchio i ddyfnderoedd iselder. Mae mwy o angen ffydd y dyddiau hyn nag erioed - ffydd i gredu fod yna rym mwy nac unrhyw unben sy'n gormesu. Mae Duw'r Cread wrth law i wrando cri.
Bron i gan mlynedd cyn i Samantha Harvey ysgrifennu ei chlasur, mi gyfansoddodd bardd o Ryd-Ddu ddarlun o bersbectif ddigon tebyg gyda'i soned, 'Dychwelyd'. O'i darllen yn blentyn ysgol, mi gododd ofn dychrynllyd arnaf. Doeddwn i erioed wedi dod ar draws cerdd oedd yn cyfleu'r fath unigrwydd.
'Ni all terfysgoedd daear byth gyffroi
Distawrwydd nef; ni sigla lleisiau'r llawr
Rymuster y tangnefedd sydd yn toi
Diddim diarcholl yr ehangder mawr;
Bellach, er nad wyf yn rhannu diwinyddiaeth y gerdd, caf gysur o'r geiriau,
'Ac ni all holl drybestod dyn a byd
Darfu'r tawelwch nac amharu dim
Ar dreigl a thro'r pellterau sydd o hyd
Yn gwneuthur gosteg â'u chwyrnellu chwim.'
Dyna rydd gysur i mi y dyddiau hyn. Nid y pethau gaiff y sylw ar y newyddion ydi'r pethau pwysicaf yn y byd. Gwyddom y gall ambell i ormeswr ac unben greu andros o ddifrod mewn cyfnod byr, ond nid ar hynny ddylai ein sylw fod. Boed ein gweddïau ni'r dyddiau hyn gyda'r bobl ddewr hynny yn Gaza sy'n tynnu cyrff eu teuluoedd o waelod y rwbel.
Fe ddaw pen draw i hyn. Ambell waith, mae angen edrych ar y byd o'r tu allan. Un byd, un ddynoliaeth sydd yna, a dyna'r nod i gyrchu ato.
Angharad Tomos
Comments