top of page

Mae o yma o hyd


Beth amser yn ôl, mentrais awgrymu mewn e-fwletin nad oedd ‘Delilah’ yn gân addas i’w chanu fel un o anthemau’r maes rygbi rhyngwladol, gan ei bod i bob pwrpas yn cymryd llofruddiaeth merch yn ysgafn. Unig drosedd ‘Delilah’ druan, yn ôl y dystiolaeth sydd yn y gân beth bynnag, oedd ei bod wedi chwerthin ar ben ei phartner/ffrind/cariad! Cafwyd ymateb eithaf eang ac amrywiol i’r datganiad. Y mwyaf diddorol o bosib oedd ymateb yr awdures ei hun a oedd yn cytuno ei bod yn ddewis rhyfedd o gân i’w chanu fel anthem torf mewn gêm rygbi. Fy mhrif ddadl, fodd bynnag, oedd ein bod wedi colli golwg ar ystyr geiriau ein caneuon torfol a’n bod yn gallu cymysgu emynau a chaneuon ysgafala blith draphlith heb feddwl dim am hynny. Ys dywedodd Max Boyce yn un o’i linellau gorau: “We sang Delilah and Cwm Rhondda, and jiawl they both sound just the same”.


Rwy’n codi’r mater hwn eto nawr am ddau reswm. Y rheswm cyntaf yw bod un o selogion y Trydarfyd wedi gofyn a ydw i’n dal i gredu’r un peth am ganu ‘Delilah’, wedi imi fentro yngan gair o gydymdeimlad gyda Jonathan Edwards wedi iddo gael ei aelodaeth o’r Blaid yn ôl yn ddiweddar. I rai roedd dweud unrhyw beth o blaid Jonathan yn gyfystyr â sarhau pob gwraig a merch a gafodd eu cam-drin erioed. Ond, i mi, roedd yn fater o ddweud bod lle i faddeuant a chymod hyd yn oed mewn gwleidyddiaeth a materion personol a phreifat fel hyn. Onide, rydym yn dweud nad oes gobaith adfer unrhyw droseddwr na throseddwraig dan unrhyw amgylchiadau ac na ellir maddau i neb byth. Go brin fod hynny’n gydnaws ag egwyddorion Cristnogol; er bod rhaid i minnau gydnabod imi ddatgan cydymdeimlad cyn clywed ail ddatganiad Emma, cyn-wraig Jonathan.


Yr ail reswm yw bod y gân Yma o Hyd wedi cael y fath sylw yn sgil llwyddiant y tîm pêl-droed cenedlaethol yn ddiweddar - sy’n dod â ni’n ôl yn daclus at y cwestiwn: i ba raddau mae’r dorf yn gwybod am beth maen nhw’n ganu!


Os oeddwn i’n gywir yn honni nad oedd y geiriau yn golygu dim i’r dyrfa oedd yn canu Cwm Rhondda, beth am Yma o Hyd? Mae tystiolaeth y negeseuon a gaf ar lafar ac ar lein (yn Gymraeg ac yn Saesneg) yn awgrymu’n glir iawn fod neges y geiriau’n golygu rhywbeth go iawn i aelodau’r Wal Goch. Neu o leiaf fod y syniad canolog, ein bod wedi goroesi “er gwaethaf pawb a phopeth”, yn syniad syml a phwerus sy’n taro cloch – syniad sy’n arwain at awydd i ddysgu ac i wybod mwy am weddill y geiriau.


Ond efallai mai canlyniad mwyaf calonogol hyn oll yw bod y Gymraeg yn cael ei gweld mewn golau mwy cadarnhaol a phoblogaidd gan filoedd o bobol am y tro cyntaf erioed. Y peth a gododd fy nghalon yn fwy na dim oedd tystiolaeth athrawon Cymraeg mewn ysgolion lle’r oedd y plant yn agored elyniaethus i’r Gymraeg. “Bellach”, medden nhw, “mae’r disgyblion yn tyrru i’r gwersi Cymraeg i ddysgu mwy”. Hir oes i ganeuon torfol felly!


Un fantais sydd gan y gân yw bod y teitl yn fyr, yn gofiadwy, ac yn medru golygu llawer o bethau gwahanol i bobol wahanol. Mae yna ŵr canol oed o Bwllheli sy’n ffyddlon iawn i’r oedfaon ar y Sul ac sy’n awdur nifer o emynau bach syml. Ym marn y byd mae’r gŵr arbennig hwn meddu ar ‘anghenion addysgol’. Ond mae yntau, fel eraill sy’n wynebu’r un heriau, yn medru ein sodro gyda sylwadau ystyrlon iawn o dro i dro. Ar ddiwedd pob oedfa, mi ddaw ymlaen at y pregethwr a gofyn cwestiwn nad yw’n hawdd ei ateb. Y tro diwethaf imi ei gyfarfod mewn oedfa, daeth ataf ar y diwedd a dweud, “Mi ddyliach chi ‘sgwennu geiria’ newydd i’r gân ‘na. Geiria’ am Iesu Grist. Y mae o yma o hyd yn tydi?”

bottom of page