‘Mae isio gras!’
- garethioan1
- Nov 30
- 2 min read
Y lluniau sydd yn fy mhen o’m plentyndod yn yr Ysgol Sul yw rhai fel Samson yn tynnu rhyw neuadd i lawr gan ladd cannoedd o Philistiaid. Abraham wedyn ar fin aberthu ei fab ei hun am fod Duw wedi ei orchymyn. A Dafydd yn rhoi’r farwol i Philistiad arall ynghanol ei dalcen. Fedrwn ni ddim gwadu nad oes braidd ar y mwyaf o ladd, trais, cenfigen a hil laddiad yn yr Hen Destament.
Ond yng nghanol y lladd ‘cyfiawn’ hyn mae un llyfr yn sefyll allan fel gwerddon o obaith, sef Llyfr Ruth. Llyfr byr iawn a stori sy’n llawn cariad a charedigrwydd yw Llyfr Ruth.
Cofiwch dydy‘r hanes ddim heb ei dristwch. Wedi’r cwbl, mae Naomi a’i theulu, ei gŵr a‘u dau fab, yn gorfod dianc o ardal Bethlehem oherwydd newyn ac yna croesi’r Iorddonen i wlad Moab. Yn fanno mae hi’n colli ei gŵr a’i meibion; a gan nad oedd neb i’w chynnal mae’n wynebu taith o hanner can milltir yn ôl i Fethlehem, heb sicrwydd o groeso yn y fan honno chwaith. Mae perthnasedd y stori i’n dyddiau ni yn amlwg i bawb gobeithio.
Wrth gwrs, rydym yn cofio’r stori oherwydd teyrngarwch ei merch yng nghyfraith, Ruth, i Naomi. “Paid â’m hannog i’th adael, oherwydd ble bynnag yr ei di, yr af innau; dy bobl di fydd fy mhobl innau..” Fel enghraifft o chwaeroliaeth a dycnwch mae’n ddiguro.
A dydi’r ewyllys da ddim yn gorffen gyda’r merched. Mae Boas, y perchennog tir lle mae Ruth yn lloffa am weddillion yr ŷd, yn dangos caredigrwydd hynod tuag at y ddwy wraig weddw.
Yn wir, mae pawb yn y stori yn ymddwyn yn raslon a theg a chawn ddiweddglo hapus a llawen. A dim trais.
Mi allwn annog arweinwyr byd i fyfyrio ar yr hanes wrth drafod perthynas gwledydd â’i gilydd ond mae agweddau’n caledu’n llawer nes atom, fel y clywais ar stryd pentref cyfagos y dydd o’r blaen. Mae gras wedi mynd yn beth prin iawn, hyd yn oed tuag at bobl sydd wedi dioddef newyn, erledigaeth a cholli cartref.
Ond mae’r awdur uchel ei pharch o America, Marilynne Robinson, yn gweld gras ar waith trwy hanesion yr Hen Destament - rhwng y tywallt gwaed a’r camfihafio - fel pe bai’r Israeliaid gynt yn rhyw ymbalfalu tuag at ryw wirionedd terfynol. Mae’n cyfeirio yn benodol at hanes Jacob a’i deulu a saga drofaus Joseff yn yr Aifft.
I Ms Robinson mae Joseff, trwy faddau i’w frodyr am ei werthu, yn dangos sut mae gras yn concro cenfigen a malais. Trwy ddewis peidio dial ar ei frodyr am eu camdriniaeth ohono mae Joseph yn adleisio gras Duw tuag at ddynion. “Yr oeddech chi yn bwriadu drwg yn fy erbyn, ond trodd Duw'r bwriad yn ddaioni.”
Ychydig cyn iddo farw mae Joseff yn dweud wrth ei frodyr, ”...Mae Duw yn siŵr o ymweld â chi a’ch dwyn i fyny i’r wlad a addawodd trwy lw i Abraham, Isaac a Jacob.” A’r ‘llw’ hwnnw sy’n cyfiawnhau'r erlyn a’r dioddef yn Gasa a’r Lan Orllewinol heddiw. Rhyfedd o fyd.
Alun Ffred Jones
30 Tachwedd 2025

Comments