top of page

Llifa'r Afon

Rwy’n hen gyfarwydd â’r dyffryn. Rhedai’r Cardi Bach ar ei hyd o Hendy-gwyn ar Daf yn gyfochrog â’r afon a thu hwnt i’w tharddiad yr holl ffordd i Aberteifi. Roedd y rheilffordd yn ddolen gyswllt â’r byd mawr. Sonnir am gystadleuwyr yn gorau mawr yn teithio o’r cymoedd glofaol ar hyd y cledrau i’r steddfodau hynny a drefnwyd gan Brynach yng Nghapel Llwyn-yr-hwrdd yn y 1920au.


Nid cyd-ddigwyddiad oedd codi dau Fans ym mhentre’ Glog er nad oedd yr un capel yno. Ond roedd yna stesion yno yn ei gwneud yn hwylus i’r ddau weinidog deithio i gyhoeddiadau pell tra bydden nhw’n cerdded i’r capeli o dan eu gofal.


Ond daeth oes y Cardi Bach i ben yn gynnar yn y 1960au. Doedd hi ddim yn talu ffordd. Roedd yna wasanaeth bysiau erbyn hynny a lorïau ar gyfer cludo nwyddau. Am nad oedd pob teulu yn berchen ar gerbydau aed mewn bysiau i’r rihyrsals Cymanfa Ganu.

Doedd hynny ddim yn golygu bod pob soprano ac alto ifanc yn dychwelyd ar y bws chwaith wedi’r ymdrech i wneud cyfiawnder â’r anthemau. Roedd yna gryts ifanc am ddangos eu sgiliau gyrru.


Yn yr hinsawdd honno y deuthum i glywed am gewri fel Idris Morgans, Moriah; J Huw Francis, Hebron ac Edgar Phillips, Glandŵr. Roedden nhw’n weinidogion a fyddai’n destun sgwrs. Cofiaf eu gweld. Does yna’r un o’r capeli hynny, na’r gweddill, yn medru cynnal gweinidog bellach. Ond mae yna oedfaon yn cael eu cynnal yn achlysurol.


Wrth deithio ar hyd Dyffryn Taf, yn erbyn llif yr afon, daw’r cyfan yn fyw i mi. Ond mae hyd yn oed y cloddiau a’r ffermydd fel petawn nhw’n adlewyrchu’r trai crefyddol. Coed heb eu torri nes ffurfio bwâu afluniaidd ar draws y ffordd. Rhwd a segurdod ar glosydd ffermydd. Hyd yn oed ambell Fans y cofiwn amdanyn nhw wedi colli eu disgleirdeb.


Hyn gymaint yn fwy ingol wrth deithio ar fore Sul llaith i gynnal oedfa yn Festri un o’r capeli. Prin fod un o’r dyrnaid yn byw o fewn pellter cerdded. Yn wir, mae’r cynheiliaid yn byw cryn bellter i ffwrdd ond yn dychwelyd fel modd o gadw cysylltiad â rhywbeth fu unwaith yn werthfawr.


Ond y bore hwn roedd yna ddau ddieithr wedi troi mewn ac nid am y tro cyntaf chwaith. Cefais fy nghyflwyno a chael arddeall fod y pâr priod o dras Wyddelig yn Gristnogion ymroddedig ac yn awyddus i ddysgu Cymraeg. Byw yn lleol ac wedi clywed am bicil yr eglwys ac am ddangos eu cefnogaeth i’r ffyddloniaid prin.


Ceisiais gyfieithu o bryd i’w gilydd a chanfod eu bod yn gwrando a hyd yn oed yn porthi. Cafwyd sgwrs felys ar derfyn yr oedfa â’u brwdfrydedd yn heintus. Gormodiaith mae’n siŵr fyddai cyhoeddi bod egin glas adferiad yn blaguro. Dwy wennol ni wna wanwyn. Ond pe bai yn wir byddai rhaid iddo fod yn adferiad gwahanol.


Mae pob peth oedd yn newydd gynt ar hyd y dyffryn wedi dod i ben ei rawd. Dim ond Afon Taf sydd yn ddigyfnewid.


bottom of page