Rai blynyddoedd yn ôl, mi ddaru rhai meddygfeydd ddechrau cynnig cyrsiau meddylgarwch yn hytrach na phresgripsiwn o dabledi at iselder. Roedd y syniad yn un arloesol - yn un hirdymor, yn arbed arian yn y pen draw ac yn rhoi arfau personol i’r unigolyn er mwyn ceisio dygymod efo anhwylderau iechyd meddwl. Roedd y sesiynau’n iachusol, yn annog myfyrio (neu weddïo) am ryw chwarter awr bob dydd ac yn dod yn rhan o ddefod feunyddiol. Rhyw gymysgfa felly o athroniaeth, seicoleg, myfyrio a chelfyddyd fel llinynnau mesur i fywyd bob dydd.
Un cysyniad yn y cyrsiau adferol hynny oedd “sguba di dy ochor dy hun o’r stryd a phaid ag ymyrryd efo’r ochor arall”. I glaf oedd yn dioddef o iechyd meddwl, roedd y cysyniad yn un dieithr ar un ystyr, ond yn un digon pleserus. Roedd hyn, wedi’r cyfan, yn rhyddhau’r unigolyn o fynydd pryderon nad oedd modd eu datrys, ac yn lleihau’r euogrwydd a fyddai’n medru llethu’r meddwl.
Ond wrth amcanu at y nôd, daeth rhyw chwithdodau yn ei sgîl. Onid oedd y syniad yn un hunanol? Beth am y cymydog? Onid oedd yna ryw sawr amhleserus braidd - rhyw agwedd adain dde a hunan-ganolog - i’r cyfan? “I’m all right jack” fyddai geiriau’r Sais. “NIMBY” (not in my back yard), meddai eraill. Wedi’r cyfan, roedd Crist yn gofyn i’w ddilynwyr fynd yr ail filltir a chynnig cotiau a mentyll ychwanegol i’r anghenus. Beth am yr adnod: “os bydd rhywun yn dy daro ar y foch dde, tro’r llall iddo hefyd” (Mathew 5:39). A beth am hon: “y mae’n ddyletswydd arnom ni, y rhai cryf, oddef gwendidau’r rhai sydd yn eiddil eu cydwybod a pheidio’n plesio ein hunain” (Rhufeiniad 15:1).
Nid cymorth tuag at adferiad yn sydyn oedd hyn, ond cawlach a chroes-ddweud. A rhaid cyfaddef fod geiriau Crist ei hun mewn adnodau fel y canlynol yn ychwanegu tuag at y dryswch: “Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, yn gymaint ag ichwi beidio'i wneud i un o'r rhai lleiaf hyn, nis gwnaethoch i minnau chwaith.” (Mathew 25:45)
Ond gydag amser ac aeddfedrwydd i ystyried, nid dyna oblygiadau’r anogaeth i sgubo’r hunan yn lân. Rhoi trefn ar yr hunan yn gyntaf, cyn medru poeni am eraill yw’r nod. Mae hi mor anodd cydnabod fod ’na unrhyw fai arnom ni. Mae clirio’n palmentydd ein hunain yn golygu cydnabod fod yna lanast arnyn nhw. Efallai mai sylweddoliad fod yna hen gwenc rhwng dau neu fwy yw dechrau’r broses o dynnu dŵr o’r ffynnon iachusol.
Yn y broses o adferiad, roedd yr adnod hon hefyd yn bwysig: “yn gyntaf, cymoder di a’th frawd ac yna tyred â’th rodd at yr allor”(Mathew 5:23). Fedrwn ni, wrth gwrs, ddim rheoli sut bydd cymdogion yn ymateb; ond eu cyfrifoldeb nhw yw hynny. Drwy ddal ati i glirio’n tŷ a’n palmentydd ein hunan yn gyson, fe fydd ein goleuni ni’n llewyrchu, gobeithio, ar eraill.
“A boed i eraill drwof fi / adnabod cariad Duw”.
Comments