top of page
Search

Kairos Palesteina

  • Dec 21, 2025
  • 3 min read

“Y bobl oedd yn trigo mewn tywyllwch a welodd oleuni mawr, ac ar drigolion tir cysgod angau y gwawriodd goleuni.” (Mathew 4:16).

 

Eleni, am y tro cyntaf ers dwy flynedd, goleuwyd coeden Nadolig ar Sgwâr y Preseb ym Methlehem. Yng ngeiriau Maher N Canawati, Maer y dref,“Mae adfer y goleuadau wedi cyfnod hir o dywyllwch a thawelwch yn dweud wrthym fod gobaith yn gryfder. Ond, mae’r dioddefaint a’r dinistr yn Gaza yn parhau yn fyw yn ein calonnau.”

 

Mis ynghynt mewn cynhadledd ryngwladol ym Methlehem, fe gyhoeddwyd ‘Kairos Palesteina’ yn alwad ar arweinwyr Cristnogol Palesteina a’r mudiad eglwysig byd-eang. Mae ‘A Moment of Truth, Faith in a Time of Genocide’ yn ddogfen bwerus. Cyhoeddwyd datganiad Kairos Palesteina am y tro cyntaf yn 2009 gan Fenter Gristnogol Eciwmenaidd a’i ddisgrifio ‘yn foment o ffydd, gobaith a chariad oddi wrth galon ddioddefus Palesteina’. Dyma ran o ddarn agoriadol Kairos 2025;

 

“Rydym yn byw ar adeg pan mae hil-laddiad, glanhau ethnig ac adleoli gorfodol ar waith o flaen llygaid y byd. Mae’r foment hon yn mynnu ein bod yn cymryd safiad newydd, un nas gwelwyd erioed o’r blaen... Heddiw, adnewyddwn ein safiad dros wirionedd ... Edrychwn ar ein realiti a safwn o’r newydd wrth ymateb i lais yr Ysbryd Glân yn ddwfn tu mewn inni... Adnewyddwn ein neges o ffydd, gobaith a chariad gan gynnig gweledigaeth wedi ei ysbrydoli gan ffydd ar gyfer y cyfnod ôl hil-laddiad.”

 

(Dogfen Kairos Palesteina, 2025).

 

Mewn cyfweliad dadlennol a gyhoeddwyd gan Sefydliad Heddwch y Dwyrain Canol, cyfweliad gyda Yousef Alkhouri, diwinydd Cristnogol Arabaidd sy’n Ddeon yng Ngholeg Beiblaidd Bethlehem, ymgyrchydd ac aelod o Fwrdd Kairos Palesteina, eglurir bod y datganiad yn herio naratif dominyddol Israel a’i chynghreiriad trwy ddiwinyddiaeth gyd-destunol.

 

Cyfeiria Yousef at hanes cymuned Gristnogol Gaza a’i brofiad o dyfu fyny mewn ‘carchar awyr agored’.  Esbonia mai lleiafrif bychan yw Cristnogion Gaza, tua 500 – hanerwyd y nifer dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

 

Defnyddia’r term ‘ecclesioside’ i ddisgrifio effaith ymosodiadau byddin Israel ar ganolfannau Cristnogol. Serch hynny, mae’n mynnu bod dylanwad y gymuned Gristnogol yn fawr wrth wasanaethu a chefnogi trigolion Gaza. Galwa ar bobl Palesteina i barhau i ddangos cryfder ac erfynia arnom i weithredu’n ddi-drais a chefnogi ymgyrchoedd dad-fuddsoddi, boicotio nwyddau a gwrthwynebu gwerthiant arfau i Israel.

 

“Gwyn eu byd y rhai sy'n newynu a sychedu am gyfiawnder, oherwydd cânt hwy eu digon.” (Mathew 5:6)

 

Ymysg y sawl sydd wedi ymateb i alwadau tebyg mae’r ‘Filton 24’ ac yn arbennig yr unigolion hynny sydd yn y carchar ar streic newyn. Mae’r sefyllfa yn un ingol a difrifol iawn wrth i iechyd  y streicwyr newyn ddirywio ac i Weinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig barhau i wrthod trafod gyda nhw.

 

Dros y Nadolig, gobeithio y cawn ni brofi bendith dyfodiad Crist i’n byd cythryblus. Boed inni fyfyrio’n dawel dros ystyr y geiriau dethol yma gan awduron Kairos Palesteina:

 

“Edrychwn ymlaen at y dydd pan allwn fyw yn rhydd yn ein tir ynghyd â holl drigolion y ddaear mewn gwir heddwch a chymod – wedi ei seilio ar gyfiawnder a chydraddoldeb ar gyfer holl greadigaeth Duw lle “...bydd cariad a gwirionedd yn dod at ei gilydd; a bydd cyfiawnder a heddwch yn cusanu.”” (Salm 85:10).

 

Siân Howys

21 Rhagfyr 2025

 

 

Dolenni cyfeiriol:

 

 

Cyfweliad Sefydliad Heddwch y Dwyrain Canol â Yousef Alkhouri:

 

 

 
 
 

Comments


bottom of page