Gofynnwyd imi ar fwy nag un achlysur yn ddiweddar i arwain gwasanaeth angladd heb iddo fod yn ‘rhy grefyddol’. Mae’n debyg bod hyn yn brofiad sy’n gyffredin i lawer y dyddiau yma. Fel gyda phriodas i raddau, mae deddf gwlad a’r farn gyhoeddus bellach yn tueddu i wthio’r achlysuron pwysig hyn o’r maes crefyddol yn llwyr; a theimlaf yn gryf y dylem ni sy’n arddel ein ffydd Gristnogol geisio cywiro hyn.
Fy ymateb i fy hun yw cyfarch y gynulleidfa fel un gymysg o gredinwyr ac anghredinwyr, ond gan gydnabod bod pawb yn chwilio am ryw fath o gyd-destun ‘ysbrydol’ sy’n rhoi ystyr amgenach i’r angladd na dweud bod yr ymadawedig yn berson ffein a dymuno ffarwel, ac ystyr amgenach i’r briodas na’i fod yn esgus am barti a dymuno pob lwc.
O feddwl am y peth, onid dyma yw pwrpas Cristnogaeth 21 yn y pen draw? Onid chwilio ydyn ni am ffyrdd i wneud ein ffydd yn ystyrlon i bobol sydd wedi torri neu golli pob cysylltiad â’u crefydd? I’r perwyl hwnnw, daeth erthygl deipiedig ataf drwy’r post yn ddiweddar dan y teitl ‘Jesus of Nazareth and the Real World’. Fe’i cyhoeddwyd gan Progressive Christian Network (PCN). Dwi am ddyfynnu ohoni gan ei bod, yn fy marn i beth bynnag, yn agos iawn at faniffesto posib i Gristnogaeth 21.
Hanfod yr erthygl yw ein bod wedi gadael i or-grefyddoli cyfundrefnol ein pellhau oddi wrth Iesu Grist – y dyn ifanc dewr a greodd chwyldro yn y byd. Mae ein gwybodaeth am Grist wedi ei seilio ar yr hyn a ysgrifennwyd gan awduron ddegawdau wedi ei farw, ac ni ddylem dderbyn y gweithiau hynny’n llythrennol fel ffeithiau hanesyddol.
Nid pawb fyddai’n derbyn ‘dehongliad’ yr erthygl o brif ddigwyddiadau bywyd yr Iesu, ond rhaid cydnabod fod grym yn y ddadl y gall dylanwad personoliaeth mor unigryw, carismataidd a digyfaddawd â Iesu Grist droi digwyddiadau ‘cyffredin’ i ymddangos yn oruwchnaturiol.
Mae’r erthygl bwerus hon yn galw ar i Gristnogion ymroi i ymgyrchu dros gymdeithas a byd gwahanol; ac fel enghraifft o ymgyrchu cyfoes mae’n dyfynnu David Rhodes, awdur ‘Climate Crisis; The Challenge to the Church’,
“Er mwyn iddi chwarae rhan i rwystro trychineb hinsawdd, rhaid i’r Eglwys ail-feddwl (recalibrate) y rheswm dros ei bodolaeth. Gosod o’r neilltu carthen gysur ein crefydd a baeddu ein dwylo yn yr arena gwleidyddol – fel y gwnaeth Iesu”.
I gloi, mi ddyfynnaf ddarn o’r erthygl sy’n dyfynnu o ‘Setting Jesus Free’ gan Y Parch. John Churcher
“…i’r sawl sy’n cael profiad o’r Iesu o ddydd i ddydd nid mewn datganiad o gred, ond mewn set o werthoedd, cynigiaf y canlynol, nid fel credo ond fel arweiniad”:
Rydym yn Gristnogion sydd:
1. Wedi canfod ffordd at Dduw drwy fywyd a dysgeidiaeth Iesu Grist.
2. Yn cydnabod ffyddlondeb pobl eraill sydd ag enwau gwahanol ar y fynedfa i deyrnas Dduw, ac yn derbyn bod eu ffyrdd nhw mor wir iddyn nhw ag yw ein ffyrdd ni yn wir i ni.
3. Yn deall bod rhannu gwin a bara yn enw Iesu yn cynrychioli gweledigaeth hynafol o wledd Duw i’r holl bobloedd.
4. Yn gwahodd PAWB i gyfrannu yn ein cymuned ac addoli bywyd heb fynnu eu bod yn dod fel ni er mwyn bod yn dderbyniol.
5. Yn gwybod mai’r modd yr ydym yn ymddwyn tuag at ein gilydd a thuag at bobl eraill yw’r mynegiant llawnaf o’r hyn a gredwn.
6. Yn canfod mwy o ras yn yr ymchwil am ddealltwriaeth nag mewn sicrwydd dogmatig, a mwy o werth mewn ymholi nag yn yr absoliwt.
7. Yn creu cymunedau sydd wedi ymroi i alluogi ein gilydd i wneud y gwaith y’n galwyd i’w gyflawni: anelu at heddwch a chyfiawnder i bawb, gwarchod ac adfer cyfanrwydd holl greadigaeth Duw, a dwyn gobaith i’r rhai a alwai Iesu “y lleiaf o’n brodyr a’n chwiorydd”.
8. Yn cydnabod bod dilyn Iesu yn costio, ac yn golygu cariad di-hunan, gwrthwynebiad cydwybodol i’r drwg, ac ymwadu rhag unrhyw ragorfraint.
Dafydd Iwan
Commentaires