Iesu’n Arglwydd
- garethioan1
- Oct 5
- 2 min read
“Dwi ddim yn ei lico fe”. “Ddarllena i mohono fe”. “Fydda’i ddim yn ei lico fe”. “Ych, fwyta i mo hwnna”.
A dyna sut, yn groten, yr amddifades i’n hunan o sawl profiad llenyddol a chyffro blasau a syniadau newydd. Fentra i fod gan sawl un rhyw ymateb tebyg o glywed am: Iesu’n Arglwydd ond trwy’r Ysbryd Glân? A dweud, ”Sori – ond dim diolch”.
Gwybod o brofiad am yr Ysbryd Glân oedd aelodau’r Eglwys Fore. Roedden nhw’n gwybod mai hwnnw oedd yn creu’r gyfeillach wresog a olygai cymaint iddyn nhw, y gyfeillach unigryw honno pan wydden nhw fod Iesu’n fyw ac yn eu plith – ei fod yn wir wedi atgyfodi. Trwy’r Ysbryd Glân, roedd “Rwyf i gyda chi”, yn realiti a hynny’n destun llawenydd, llawenydd iddo gadw ei addewid, “Fe ddof yn ôl atoch, ni adawaf chwi’n amddifad”.
Cyfeillach oedd hon a oedd yn eu cynnal pan oedd angen help materol, yn eu cadw’n gryf dan erledigaeth, yn eu hyfforddi a’u bendithio. Anogwyd y grwpiau bach hyn i ddod ynghyd i ganu salmau ac emynau, i ddatgan ei diolch “i Dduw y Tad yn enw ein Harglwydd Iesu”, i ymddwyn yn wylaidd tuag at ei gilydd, o barchedig ofn at Grist. (Effes. 5:19-21)
Dan bwysau bywyd a’i brofiadau creulon a disynnwyr, mae’n anochel fod person Iesu, ei bresenoldeb bywiol a’i raslonrwydd yn eu plith, yn golygu popeth i’r gyfeillach honno a oedd dan ddylanwad yr Ysbryd Glân. Cai gweddïau eu hoffrymu yn ei enw. Caent brawf o’r nerth sydd yn yr enw hwnnw, a hynny yn eu bywydau personol yn ogystal ag yng ngweithgaredd eu harweinwyr – yn y dysgu, yr iachau a’r gofalu. Does ryfedd yn y byd iddyn nhw gyfeirio at Iesu fel ‘Arglwydd’.
Mae ansicrwydd ac ofn yn llechu y tu ôl i, “Dwi ddim yn lico hwnna”, neu, “Sori, ond dim diolch”. Byddai ail feddwl yn troi’r drol. Cydnabod Iesu’n Arglwydd Iesu trwy’r Ysbryd Glân? Dywed Paul:
“Oherwydd y mae cariad Crist yn ein gorfodi ni, a ninnau wedi’n hargyhoeddi o hyn: i un farw dros bawb, ac felly i bawb farw. A bu ef farw dros bawb er mwyn i’r byw beidio â byw iddynt eu hunain mwyach, ond i’r un a fu farw drostynt ac a gyfodwyd”.(2 Cor. 14-15)
Gorfodi? Beth ar y ddaear yw hyn? “Pwy wyt, Arglwydd?” oedd cwestiwn Paul ar ffordd Damascus. A chafodd yr ateb, “Fi yw Iesu”. Llais llawn awdurdod. Hoffwn sôn am ei addfwynder, ei dynerwch, ei gydymdeimlad – ond ei awdurdod? Felly, dyna rybudd i ni: chwarae â thân ŷm ni wrth addoli mewn cyfeillach â’r Ysbryd Glân yn bresennol. Mae rhywbeth i fod i ddigwydd – i ni a’n cyd addolwyr. Wedi’r cwbl, mae Iesu yn ein plith.
“Beth yw oedfa,” oedd cwestiwn dysgwr brwd. Oes posibl ateb y cwestiwn heb sôn am yr Ysbryd Glân? Oes, efallai. Ond a yw hi’n oedfa dan fendith Duw? Dyna daten dwym! Beth yw oedfa? Oes gan rywun ateb heddiw? Oes, a dyma fe, a diolch amdano: “Lices i hwnna, enjoyes i fe!”
Lona Roberts
5 Hydref 2025

Comments