top of page
Search

Iesu Grist a Byd Natur

  • garethioan1
  • 12 minutes ago
  • 3 min read

Mae’r papur grymus a rannwyd gan Cynog Dafis a Roni Roberts ar gyfer cynhadledd ddiweddar C21 un o’r dogfennau pwysicaf a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Galw mae’r papur am ‘symudiad’ i ailystyried a chysoni ein syniadau fel Cristnogion ynglŷn â’n perthynas â byd natur a’r argyfwng newid hinsawdd. Nid fy mwriad i heddiw yw dadansoddi syniadau pellgyrhaeddol Cynog a Roni ymhellach, dim ond dweud fy mod yn cefnogi a chymeradwyo’r syniadau hynny i sylw pawb sydd â diddordeb yn hynt Cristnogaeth yng Nghymru a’r byd.

 

Bûm yn oedi’n ddiweddar gyda rhai o ddamhegion Iesu sy’n codi o fyd natur, ac maen nhw’n destun rhyfeddod diderfyn. Mae pennod 13 o Efengyl Mathew yn cynnwys nifer o’r damhegion hyn, ac mi arhosaf yn fyr gyda dwy ohonyn nhw.

 

‘Dameg yr Heuwr’ yn gyntaf, lle mae Iesu yn dangos ei ddiffyg amynedd gyda’i gynulleidfa wrth ddweud wrthyn nhw yn blwmp ac yn blaen: ”Mi fydd y rhan fwyaf ohonoch chi yn mynd oddi yma heddiw heb gofio dim a ddwedes i wrthych chi. Ac os fydd rhai ohonoch yn cofio, fyddwch chi ddim yn deall, a hyd yn oed am yr ychydig fydd yn deall, mi fyddwch chwithau wedi anghofio mewn byr o dro. Ond mi wn y bydd rhai ohonoch chi, yr ychydig prin, yn deall ac yn cofio ac yn gweithredu yn ôl yr hyn a glywsoch”.

 

Go brin y byddai neb ohonon ni sy’n cyhoeddi’r Gair ar y Sul yn meiddio bod mor gignoeth o feirniadol wrth ein cynulleidfaoedd prin! Ond wrth gwrs, ar ddameg y llefarai Iesu, ac yr oedd hynny’n lleddfu rhywfaint ar finiogrwydd ei eiriau. Ond wrth egluro’i hun wrth y disgyblion, mae Iesu’n dangos yn glir iawn ei ddiffyg ffydd yn ei wrandawyr, a dangos drwy hynny bod rhaid dal ati i ledaenu’r neges er mwyn dal mwy o’r lleiafrif sy’n deall, yn cofio ac yn gweithredu. Ac mae’r ffaith ei fod yn cyfleu hyn mewn dameg yn golygu ein bod ninnau, dros ddwy fil o flynyddoedd yn ddiweddarach, yn clywed y neges ac yn cael gweld mor berthnasol yw hi i’n dyddiau ni.

 

Does dim prinder gwybodaeth ar gael heddiw. Mae’r cyfryngau cyfoes ar gael i ni bedair awr ar hugain y dydd, gydol y flwyddyn. Mae ein pobol ifanc yn derbyn llifeiriant o wybodaeth a cham-wybodaeth, barn a rhagfarn, newyddion a ffug-newyddion, gwirioneddau a chelwyddau, yn barhaus. A does neb i’w goleuo ynghylch yr hyn sy’n wir neu’n anwir.

 

Prif neges ‘Dameg yr Heuwr’ yw bod rhaid paratoi’r tir da os yw’r had am ddwyn ffrwyth. Ydyn ni wir yn paratoi’r pridd ar gyfer ein cyfryngau'r dyddiau hyn? Ydyn ni mewn gwirionedd yn hyfforddi ein pobol - a’n pobol ifanc yn arbennig - ar gyfer y llifeiriant direol sy’n eu bygwth ddydd a nos?

 

Ond mae dameg fach arall yn yr un bennod lle mae’r Iesu yn gafael mewn hedyn mwstard – un o’r hadau lleiaf un. Ac o’i roi yn y pridd, mae’n tyfu i fod yn goeden mor fawr a changhennog fel y gall ‘holl adar y nefoedd’ gysgodi a nythu yn ei changhennau. A dyma ddarlun bendigedig o greadigaeth Duw a’r ddynoliaeth gyfan. Nid testun gwawd a chasineb yw amrywiaeth cyfoethog y greadigaeth, ond testun i ryfeddu ato, ei werthfawrogi a’i ddathlu.

 

Casineb yw sail pob rhyfel, ac os ydyn ni’n defnyddio amrywiaeth y ddynoliaeth fel rheswm i gasáu pobol sy’n wahanol, rhyfel yw’r unig ganlyniad posib. Ond os gwelwn gyda Waldo ‘rwydwaith dirgel Duw sy’n cydio pob dyn byw’, gallwn werthfawrogi’r goeden fawr fel cartref i bawb – i ‘holl adar y nefoedd’ – beth bynnag fo’u lliw a’u hiaith a’u cefndir a’u crefydd. Dathlu’r amrywiaeth yw ein braint – dathlu amrywiaeth creadigaeth Duw yn ei holl ogoniant, nid ei ddefnyddio fel esgus i gasáu.


Dafydd Iwan

23 Tachwedd 2025

 

 
 
 

Comments


bottom of page