Ian Gwyn Hughes a’i Daid
- 3 days ago
- 3 min read
Neithiwr gwyliais raglen Ian Gwyn Hughes yn y gyfres ‘Stori’r Iaith’ ar S4C. Cyfres yw hon sy’n edrych ar berthynas rhai Cymry amlwg â’r iaith Gymraeg. Syniad syml ond un sydd wedi gweithio’n dda yn fy meddwl i.
Roeddem yn gwybod tipyn eisoes am agwedd gadarnhaol Ian tuag at y Gymraeg, ond cawsom olwg ddyfnach ar hynny neithiwr, gan sylweddoli o’r newydd gymaint o ddylanwad gafodd ei Daid, Lewis Valentine, arno. Y canlyniad oedd rhaglen a drodd yn deyrnged arbennig a diffuant i ddau sydd wedi cyfrannu at ffyniant yr iaith Gymraeg yn ein dyddiau ni, a hynny mewn ffyrdd gwahanol iawn. Gwahanol efallai, ond eto yn codi o’r un gwraidd, sef parch a chariad at ein hiaith.
Fel un o driwyr Penyberth y cofir am Lewis Valentine yn bennaf, ond ni ddylem anghofio am y modd y defnyddiai’r pulpud a’i swydd fel gweinidog yr efengyl i bregethu am bwysigrwydd yr iaith Gymraeg. Yn ystod ei gyfnod fel gweinidog yn Llandudno, ef oedd golygydd papur Cymraeg i eglwysi’r dref o’r enw ‘Y Deyrnas’. Fel golygydd fflangellai’r darllenwyr yn aml am eu tuedd i lithro i siarad Saesneg, heb flewyn ar ei dafod. I Valentine, roedd y Gymraeg a Christnogaeth yn perthyn yn agos, ac ofnai fod dylanwad yr efengyl yn gwanio ymysg ei aelodau wrth iddyn nhw droi cefn ar y Gymraeg.
Wn i ddim beth yw daliadau crefyddol Ian, ond mae’n gwbl amlwg fod pregeth ei Daid am y Gymraeg wedi cael effaith fawr arno. A phan gafodd y swydd o ofalu am gysylltiadau cyhoeddus Cymdeithas Bêl-droed Cymru, gwelodd Ian ei gyfle i roi gweledigaeth ei Daid ar waith mewn ffordd wreiddiol iawn. Yn syml iawn, gwneud aelodau’r tîm cenedlaethol yn ymwybodol o ystyr cenedl oedd y bwriad, a chynnwys yn hynny bwysigrwydd hanes a’r iaith Gymraeg.
Daeth y cyfan i ffrwyth adeg yr Ewros yn 2016, pan fu’r sgwad yn aros yn Llydaw dros gyfnod y bencampwriaeth, a phan ddaeth cynnal cynadleddau i’r wasg yn Gymraeg yn beth cyffredin. Yn sydyn, daeth gwledydd Ewrop yn ymwybodol bod Cymru yn golygu mwy na Gareth Bale a chrys coch a llwyth o ganu. A dwi ddim yn meddwl ein bod wedi llwyr werthfawrogi’r gwahaniaeth a wnaeth hyn i statws Cymru yn y byd.
Gwnaeth Ian Gwyn hyn i gyd heb darfu ar neb, ac heb glochdar o bennau’r tai. A’r rheswm am hynny yw ei fod, fel ei Daid, yn ŵr tawel a phwyllog o ran natur. Ond o dan yr wyneb mae yna benderfyniad di-wyro, wedi ei wreiddio mewn argyhoeddiadau dwfn a diffuant. Wrth wylio neithiwr, aeth fy meddwl yn ôl i Orffennaf 1af, 1969. Tra bod darpar frenin Lloegr yn cael ei arwisgo yng nghastell y cofis, roedd yna briodas yn Llanelwy, a’r gŵr a weinyddai’r briodas oedd y Parch Lewis Valentine.
Wedi’r wledd briodas, casglodd y gwesteion ifanc o amgylch y gweinidog a gwrando arno yn adrodd hanes llosgi’r Ysgol Fomio, a’r modd yr oedd ei got fawr yn llysnafedd wedi i rai o drigolion Pwllheli boeri arno ar y ffordd i lys yr ynadon. Dim awgrym o chwerwder na beirniadaeth, dim ond adrodd hanes a gwên raslon ar ei wyneb a llawenydd yn ei galon fawr.
Mawr fu ein braint y diwrnod hwnnw, a mawr yw ein braint o weld yr ŵyr yn gwneud cyfraniad yr un mor allweddol heddiw. Ac os daw tro ar fyd ar Fai 8fed, purion o beth fyddai dweud gair bach distaw o ddiolch i’r ddau am eu rhan yn y chwyldro.
Dafydd Iwan
29 Mawrth 2026

Comments