top of page

Hysbysebu

Mis Tachwedd. Mae disgwyl mawr ymhlith y rhai sy’n ymddiddori mewn hysbysebion teledu am gael gweld hysbyseb Nadolig John Lewis. Mae rhai’n honni bod paratoadau’r Nadolig yn cychwyn o ddifri pan fydd yr hysbys hon yn cael ei rhyddhau. Gwêl eraill dipyn o gystadlu rhwng hysbys John Lewis a hysbysiadau Nadolig siopau eraill y stryd fawr. Pawb â’i ddiddordeb sbo!

 

Ond os yw hysbysebu yn ennyn y fath ddiddordeb ac yn cael y fath ddylanwad, hoffwn godi’r cwestiwn i ba raddau yr ydym ni fel eglwysi yn manteisio ar y diddordeb hwn a’r ffaith bod hysbysebion yn amlwg yn esgor ar drafodaeth ar lefel tipyn uwch na’r lleol.

 

Bues oddi cartref am benwythnos yn ddiweddar. Sul rhydd – peth prin iawn.  Dyma fanteisio ar benwythnos bach o ymlacio mewn tref yng Nghymru. Yn naturiol ddigon, dyma chwilio i weld ble byddwn yn medru addoli ar y Sul gan fod digon o ddewis o gapeli Cymraeg yn yr ardal.  Er mawr siom, ni lwyddais i ddod o hyd i unrhyw fanylion am oedfaon y Sul.

 

Nodaf nad oeddwn wedi prynu’r papur lleol gan fy mod bellach yn dibynnu ar y we a’r cyfryngau cymdeithasol wrth chwilio am wybodaeth. Er bod gan ambell eglwys wefan, roedd y newyddion arni yn hen iawn a heb Suliadur cyfredol. Roedd gan ambell eglwys dudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol ond eto heb weld y fantais o hysbysebu trefn oedfaon y Sul arnynt. 

 

Dyma fentro a cherdded heibio ambell gapel yn y gobaith o weld hysbys ar y bwrdd y tu allan, ond yr unig enw a welwyd ar ambell fwrdd oedd enw’r gweinidog – a gwyddwn fod y gweinidog wedi rhoi’r gorau i ofalu am yr eglwys ers slawer dydd.   

 

Efallai y bydd rhai ohonoch sy’n darllen y geiriau hyn yn credu y dylswn fod yn ddigon parod i droi i mewn i oedfa heb wybod pwy sy’n pregethu yno, ac rydych yn iawn yn hynny o beth. Ond y gwahaniaeth mawr a welais y diwrnod hwnnw oedd bod eglwysi di-Gymraeg yn yr un dref yn hysbysebu’n glir iawn ddigwyddiadau’r Sul drwy ddefnyddio pob cyfrwng digidol posib.  Pa un ohonynt sy’n denu’r mwyaf o addolwyr tybed?

 

A yw  diffyg hysbysebu y tu hwnt i fas data’r aelodau (os oes gan yr eglwys fas data) nid yn unig oedfaon y Sul ond hefyd holl weithgareddau’r eglwys yn golygu ein bod braidd yn nerfus i wneud ein digwyddiadau eglwysig yn agored i bawb? Neu a ydym efallai, fel Cymry Cymraeg, yn swil o hysbysebu? ‘Nid oes neb yn goleuo cannwyll ac yn ei rhoi dan lestr’, meddai Iesu, ‘ond mewn canhwyllbren; a bydd y rhoi golau i bawb sydd..’

 

Beth yw siâp canwyllbrennau ein heglwysi heddiw tybed?  Ai canhwyllbren i oleuni’r Efengyl yw hysbyseb?

 

Ie, mae’n werth cael ambell Sul rhydd er mwyn edrych ar bethau o bersbectif gwahanol!

  

Beti-Wyn James

17 Tachwedd 2024

 

Comments


bottom of page