top of page

Hunan-gytun

Dechreuaf gyda dau gyfweliad â darllenais yn ystod yr wythnos â aeth heibio yn trafod sut mae actorion yn dilysu cymeriad drwy blethu rhan ohonynt eu hunain i mewn i’r portread.


Dywed Barbra Streisand, wrth hel atgofion yng nghylchgrawn ‘Vanity Fair’ am y ffilm ‘The Way We Were’: ‘The audience can tell when an actor is truly thinking, feeling, reacting. It’s impossible to fake an emotion […] the camera sees right through to the truth.’ Ac yna, ym mhapur y ‘Times on Sunday’, ymdrin â deublygrwydd cymeriad wna Keira Knightley: ‘Maybe we’re all two people, right? We go to work and we’re one thing, we come home and we’re another. We’re all different things to different people.’


Gwnaeth hyn imi ystyried, onid oes angen inni fel Cristnogion heddiw ochel rhag actio wrth fyw ein cred? A holaf fy hun, oes tueddiad ynof i fod mor gelfydd wrth ddiffinio fy ffydd fel fy mod yn creu dau gymeriad - fi fy hun yn fy myw beunyddiol a fi fy hun gwahanol wrth gamu dros drothwy’r capel ar ddydd Sul? Y ddau gymeriad yn ddilys, ond ymhell o fod wedi’u plethu’n un bob amser.


Wrth gofio mai rhan fechan o’n byw a’n bod yw’r orig fer yn y capel bob Sul, y cwestiwn yw pa un sydd fwyaf pwysig - dod â’n hunaniaeth go iawn, a’r hyn oll y crewyd ni i fod gan Dduw, i mewn i’n addoli, neu yn hytrach mynd â’n Cristnogaeth go iawn i mewn i’n bywyd bob dydd? Beth fyddai Crist yn ei gynghori inni heddiw?


Er i’r Efengylau nodi iddo ymweld â’r synagog yn ôl ei arfer (Luc 4:16), rhaid cofio nad oedd Iesu yn canoli ei weinidogaeth o fewn unrhyw furiau. Mae mynychu oedfaon ac addoli ar-y-cyd yn holl bwysig wrth gwrs, ac mae’r awyddfryd ynom i barhau yn ein sêl yn beth clodwiw; ond gwae ni os y byddwn yn cyfyngu ein cred yn y fath fodd fel mai yn yr addoldy’n unig y byddwn yn ei harddel. Ac ni fyddai yr un ohonom eisiau cael ein canfod i fod yn ymdebygu i’r ynfytyn yn y synagog a roddodd sgrech uchel gan ddweud ‘Aaaaar! Gad di lonydd i ni, Iesu o Nasareth.’ (Luc 4:34, beibl.net). Ond a ydym ni yr un mor ynfyd yn ein parchusrwydd sidêt o fewn ein muriau saff?


Daeth yr awr inni fentro byw ‘ffydd yn gweithredu trwy gariad’ (Galatiaid 5:6) tu fas i’r muriau, a hynny wrth fod yn real drwy ac yn ein cred bob dydd. Yn ogystal â hynny, mae’n ‘ben-set’ arnom ac os na fyddwn yn dod â’n hunain dilys - fel y bwriadwyd ni i fod gan Dduw - a gonestrwydd agored i mewn i’n addoldai, fe fydd ein muriau’n dymchwel yn eitha cyflym dybiwn i. Oes, mae angen inni gofio bod yn ‘true to nature’ chwedl Wil Bryan, ond gwneud hynny drwy arddel a phlethu ein Gwaredwr i mewn i bopeth yn ein byw a’n bod, doed â ddelo; dyna’r sialens mae’r Efengyl yn ei roi inni!


Sian Meinir

bottom of page