top of page
Search

Hen ddigon

  • garethioan1
  • Jul 27
  • 3 min read

Dyma ni ar drothwy’r ‘Steddfod. Bydd hi’n Eisteddfod wahanol i mi eleni. Nid y cadeirio fydd yr uchafbwynt, nid y coroni, nid lansio cyfrol newydd Aled Jones Williams hyd yn oed! Seremoni fechan ym Maes D fydd fy ffocws i - seremoni cyflwyno tystysgrifau tiwtoriaid Cymraeg newydd. A fi yn un ohonyn nhw!

 

Mae criw ohonom newydd gwblhau Cymhwyster Dechrau Dysgu a rhaid cyfaddef fy mod yn hynod falch ohonof i fy hun! I ddefnyddio’r derminoleg gywir, ‘siaradwr newydd’ ydw i. Wel, cymharol newydd. Rwyf wedi bod yn dysgu Cymraeg ers blynyddoedd.

 

Fe ges fy ysbrydoli yn ddiweddar gan ddyn a ddaeth yn rhugl yn ei 60au, astudio am radd yn y Gymraeg, a mynd ymlaen i fod yn diwtor am ei fod “isio rhoi rhywbeth yn ôl”.  Gwnaeth ei eiriau daro deuddeg efo fi. Mae dysgu Cymraeg wedi dod â chymaint o bleser a phrofiadau newydd – nofelau a barddoniaeth, persbectifau newydd ar dir a natur. Ac, yn bwysicaf oll, y cyfle i ddod i ‘nabod pobl a chymunedau ar lefel llawer dyfnach.

 

Mae’r broses o hyfforddi fel tiwtor wedi bod yn heriol weithiau a dwi’n hynod ddiolchgar i’m cyd-diwtoriaid yn Nwyfor am y mentora! Dwi ddim yn siarad yr iaith yn berffaith ac fel un wnaeth dyfu i fyny yng Nghaerdydd mewn cartref di-Gymraeg a chrwydro’r byd cryn dipyn wedyn, mae gen i acen ddeheuol-ogleddol-Seisnigaidd, rwy’n ofni. Ar y llaw arall, rwy’n credu bod angen adnabod potensial ‘siaradwr newydd’ ffaeledig i helpu eraill, yn arbennig gyda’r broses o oroesi agweddau seicolegol sy’n rhwystro’r oedolyn nerfus rhag mentro siarad iaith newydd.

 

Dwi wedi bod ar daith, felly – taith i ddarganfod sut y medra i helpu eraill efo sgil dwi heb ei feistroli yn gyfan gwbl fy hun eto. Tybed a yw hon yn wers i ni ei dysgu fel eglwys?

 

Ro’n i wedi blino braidd ar naratifau ‘rhagoriaeth’ a’r alwad am ‘ficeriaid egnïol’ sy’n medru ‘tyfu’r eglwys’.  Mae ‘na ddiwylliant sy’n rhoi ficeriaid ar bedestal, sy’n cyfeirio atynt fel ‘chi’, sy’n disgwyl iddynt ‘wneud crefydd’ ar ran rhywun arall. Ond beth am y gwahoddiad hyfryd yn y llythyr at yr Hebreaid i ‘gadw ein golwg ar Iesu, awdur a pherffeithydd ffydd’ (Heb 12.2).  Neu addewid Duw yn 2 Corinthiaid 12.9: ‘Digon i ti fy ngras i; mewn gwendid y daw fy nerth i'w anterth’.

 

‘Dan ni i gyd efo doniau a phrofiadau gwerthfawr. Ond does neb yn medru ‘gwneud crefydd’ ar ran rhywun arall. Dw i’n meddwl yn aml am y bachgen efo pum torth a dau bysgodyn.  Roedd y disgyblion yn dweud, ‘Y mae bachgen yma a phum torth haidd a dau bysgodyn ganddo, ond beth yw hynny rhwng cynifer?’ Meddai’r Iesu, ‘Gwnewch i'r bobl eistedd i lawr.’  Dwi ddim isio bod  yn ‘mini-Meseia’.  Dwi ond isio dŵad at yr Arglwydd efo torth fach a physgod.

 

Y dydd o'r blaen ro’n i'n trafod The Moon in Lleyn gan R. S. Thomas gyda grŵp o ffrindiau. Ar yr olwg gyntaf dyma waith eitha’ truenus gan ddyn a ymddangosai i lawer fel dyn reit druenus! Ond tybed a oes gwên fach yng nghornel y llygad? A’r sicrwydd: 'Sdim angen i ti ‘dyfu'r eglwys’, dwyt ti ond angen bod yn bresennol. ‘Sdim angen i ti achub yr eglwys chwaith, dwyt ti ond angen gwylio’r sioe.

 

‘Dan ni ar drothwy'r ‘Steddfod. Yn ein sgwrs y noson o'r blaen fe wnaethom ddod i'r casgliad ein bod hefyd ar drothwy pennod newydd yng ngweithredoedd yr Ysbryd. Mae’r tywyllwch yn ddwfn cyn y wawr. Dewch ataf, meddai’r Iesu, pawb sy’n annigonol, pawb sydd yn amherffaith.  Dydach chi ond angen dod â beth sydd ganddoch chi. Mae hynny’n hen ddigon.

 

Rosie Dymond

27 Gorffennaf 2025

 

 
 
 

Comments


bottom of page