top of page

Heddiw !

Ar drothwy’r hen a’r newydd, fe hoffem ni, y criw bychan sydd yn cynnal Cristnogaeth 21, ddiolch o galon i bawb sydd wedi bod yn fwy na pharod i gefnogi yr hyn â geisiwn  ei rannu. Diolch i’n swyddogion am eu gwaith yn gweinyddu, ac yr ydym ar hyn o bryd yn chwilio am weinyddydd rhan-amser. Diolch i’r rhai sydd wedi cyfrannu’r blog/bwletin wythnosol (mae’r cyfan ynglyn â C21 yn wirfoddol) ac yr ydym yn gwerthfawrogi y cyfraniadau amrywiol.


Datblygodd C21 yn wyneb twf a dylanwad y pwyslais ceidwadol, protestannaidd ‘efengylaidd’ (sydd , ar ei fwyaf negyddol, yn anoddefgar o safbwyntiau gwahanol) ac yn ymwrthod â’r Gristnogaeth letach, gynhwysol, hanesyddol a Beiblaidd. Erbyn hyn, diolch am hynny, mae bod ‘yn efengylaidd’ yn gallu golygu datblygu agweddau mwy goddefgar a pharodrwydd i gyd-weithio. Ond mae’r peryglon yn parhau.


Mae C21 yn falch o gyfoeth a chadernid ein hetifeddiaeth Gristnogol. Mae’n etifeddiaeth y mae Duw, trwy ei Ysbryd, yn ei hadnewyddu. Nid ‘dirywiad’ neu ‘gwyriad’ yw ‘Rhyddfrydiaeth’ neu ‘Radicaliaeth Gristnogol’ fel yr honnir, ond ffordd, trwy addoli ei bobl, sy'n cadarnhau mai Duw HEDDIW ydyw.


Undod

Mae tair agwedd i waith C21. Mae grwp UNDOD  yn effro iawn i berthynas yr enwadau a’i gilydd ac yn cynnig her ac  arweiniad. Mae’r cyd-weithio rhwng yr enwadau Cymraeg yn rhan o etifeddiaeth pob enwad erbyn hyn. Fe ymhyfrydwn yn ein cydweithio enwadol, ond nid  yw ‘undod Cristnogol’ ar agenda unrhyw enwad erbyn hyn.


Galwad Duw HEDDIW yw Ei genhadaeth mewn gwlad seciwlar  ‘dim crefydd-yn-ôl-y-Cyfrifiad’. Ni wyddom am un enghraifft ble mae’r enwadau yn buddsoddi adnoddau gyda’i gilydd i ddatblygu cenhadaeth Duw yng Nghymru. Yr ydym yn parhau i fyw yn nyddiau’r ‘prosiectau enwadol’, gydag arwyddion y gall cystadleuaeth ddatblygu yn yr argyfwng  yma. Arweinwyr cenedlaethol ein  henwadau ac arweinwyr lleol ein heglwysi, sut y gall ein cenhadaeth i Gymru  fod yn rhywbeth ond gyda’n gilydd ? Diolch fod yna griw yn Sir Benfro sydd yn barod i fentro er mwyn cynnal y dystiolaeth Gristnogol i’n cenedl.


Cymunedol

Mae sylw yn cael ei roi i sefyllfa gymunedol yr eglwysi, sef yr union fan y mae dyfodol y ffydd yn diflannu. Mae’r enwadau i gyd yn wynebu problem ddyrys ac anodd wrth weld capeli ac eglwysi yn cau ac, yn arbennig, yr achosion Cymraeg yn ein cymunedau gwledig.


Rhaid i’r eiddo sydd ar werth gael ei drosglwyddo i fywyd y gymuned – a’r eglwys os yn bosibl. Mae’n sefyllfa anodd a chymleth sy’n faich ar pob enwad ond prin bod digon o’r HEDDIW yn y gweithredu. Mae’n ymddangos fod digon o anrhefn yn y gweithredu hefyd. Mae C21 yn awyddus i geisio annog a chalonogi yn y dasg gyfoes hon.


Athrawiaeth

Daeth C21 i fod drwy ddiwinydda yn y lle cyntaf - ond nid fel gweithred academaidd, wrth gwrs! Mae’r agwedd negyddol tuag at ddiwinydda a’r alwad gamarweiniol i fod yn ’syml’ yn gyffredin. Iaith syml yw iaith ein cred a’n haddoli, ond mae’r efengyl yn porthi’r meddwl ac yn goleuo’r deall.


Mae ein pwyslais ar ddiwinydda yn mynd law yn llaw â’n haddoli, ein gweddio a’n myfyrdod. Dyna pam bod C21 yn cynnal Cynhadledd Flynyddol ac Encil Flynyddol yn ogystal a chynnal sesiynau Beiblaidd er mwyn deall y Beibl yn well. Yn ei hanfod mae gwefan fel un C21 yn cynnig ‘lle i drafod a holi’ ac yn gwbl agored i unrhyw un, naill ai trwy’r wefan ei hun, trafodaethau ar-lein, trwy ohebu â’r swyddogion a thrwy ein cyfrif Facebook . Mae croeso hefyd i unrhyw un ymuno â’r grwpiau hyn. Tros y blynyddoedd cyhoeddwyd nifer o gyhoeddiadau hefyd.


Yr ydym yn diolch ac yn dymuno’n dda i bawb trwy Gymru  sy’n gweithio yn ddi-flino gan gredu nad efengyl sy’n dod i ben yw’r Efengyl â ddaeth i’n byd trwy yr Un yr ydym newydd ddathlu ei ben-blwydd.  


Blwyddyn newydd dda Arglwydd  HEDDIW i chi.

 

Cristnogaeth 21

29 Rhagfyr 2024

 

 

 

Comentários


bottom of page