top of page
Search

Gŵyl Greenbelt 2025

  • cristnogaeth21
  • Sep 21
  • 3 min read

Updated: Sep 30

“Dere gyda ni, mae e fel Maes Eisteddfod i gefnogwyr Cristnogaeth 21”.  Dyna a’m perswadiodd o’r diwedd i fentro arni a threulio Gŵyl y Banc mis Awst gyda ffrindiau yng Ngŵyl Greenbelt ger Kettering. O’r miloedd a oedd yno, teimlais  fy mod yn un o’r  ‘newbies’ prin. Dwedodd Helen  o Lancashire, a gwrddais mewn cyfarfod y Recovery Church, bod ei heglwys braidd yn geidwadol, a’i bod yn dychwelyd i Greenbelt ers deugain mlynedd am syniadau, gwybodaeth ac ysbrydoliaeth i’w chynnal tan y flwyddyn wedyn.  

Wedi un ymweliad, gallaf ddeall pam.  Mae’r safle yn hardd, y naws yn gynnes  gynhwysol a thoreth o sesiynau amrywiol at ddant pawb. Dewis eang o drafodaethau a pherfformiadau, a hynny i gyd mewn ysbryd o barch, rhyddid, hiwmor a llawenydd. Mae cariad y ffydd Gristnogol yn sail i’r cyfan. Trwy sgyrsiau, dawns, cerddoriaeth, comedi, crefft, yoga, a llawer mwy, mae’r pwyslais ar heddwch, cyfiawnder, cynwysoldeb a lles yr amgylchedd.

Thema eleni oedd “ Hope in the making”, sy’n dod â Greenbelt nôl i’w gwreiddiau,  sef y gred fod yr ŵyl yn rhywle y gall pawb gredu ynddi a pherthyn iddi. ‘Lle i obeithio, yn erbyn pob gobaith.’ Yn ganolbwynt ar y maes eleni roedd replica  hardd o Oleudy Gaza. Adeiladwyd y tŵr gwreiddiol  gan yr artist Shareef Sarhan o’r rwbel yn dilyn ymosodiad Israel ar Gaza yn 2012. Safai  yn symbol o wytnwch yn ei harbwr nes iddo gael ei ddistrywio yn sgil y rhyfel presennol. Mae ailadeiladu y goleudy gan yr artist – sydd bellach yn byw fel alltud ym Mharis – yn ffrwyth ei alar a’i obaith ar gyfer y dyfodol.


Mae’n anorfod taw dyma oedd ffocws yr ŵyl eleni, a’r sesiwn mwyaf ysgytwol a fynychais oedd trafodaeth gyda phanel o dri pherson ifanc o Balesteina. Cawsom ein harswydo gan eu hanesion personol – un ohonynt, Yara Eid, wedi colli 90 aelod o’i theulu  - a’n herio i weithredu.  Erfyniwyd arnom i barhau i brotestio, rhannu ein talentau i hyrwyddo eu hachos, gwisgo keffiyeh fel arwydd o gydsafiad, dysgu am gyfoeth diwylliant Palesteina, neu dalu am blannu coeden olewydd. Mae eu lleisiau yn dal i atseinio:  “ Be loud, be proud, be Palestinian – with us!” Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Heddwch, gweddïwn drostyn nhw a phawb sy'n dioddef yn y Dwyrain Canol, gan gofio i “Siarad ar ran y bobl sydd heb lais, ac amddiffyn y rhai sydd wedi colli popeth.” (Diarhebion 31:8)

Mae’n amhosibl gwneud cyfiawnder ag ehangder  Greenbelt yma, ond dyma flas o’r hyn  fydd yn bwydo fy meddyliau am y misoedd i ddod :

“The way forward is never to go back and make things great again.”   John Philip Newell “Israel is winning on the ground, but we are winning the moral battle.” Ahmed Alnaouq “When logic fails and reason fails, then be subversive. “ John Bell “There is a God for every occasion.”  Adjoa Andoh

“Be a courageous advocate.” Esgob Rose Hudson-Wilkin

A allaf alw fy hun yn ‘Greenbelter’ ar ôl un ymweliad?  Mewn byd o eithafiaeth a diffyg ymddiriedaeth, mae’r ŵyl yn adnodd bwysig, ac rwyf wedi neilltuo fy lle  ar gyfer y flwyddyn nesaf. Ysbrydolodd darn Geraint Rees yn y Tyst llynedd o leiaf  un gweinidog a’i wraig i fynd yno  eleni.  Sgwn i a all yr e-fwletin hwn ddwyn perswâd ar rai ohonoch chi?

Anna Vivian Jones

21 Medi 2025

 

 

 

 

 
 
 

Comments


bottom of page