top of page
Search

Gŵyl ein Cenedl

12 minutes ago
3 min read

Gyda lleoliad Eisteddfod 2028 wedi ei gyhoeddi a pharatoadau Eisteddfod 2027 yn codi stêm, dyma funud i feddwl........


Ym mhle a pha bryd yr ydym yn cael cyfle i ddathu gŵyl ein cenedl? Yr ateb cyntaf a’r ateb amlwg yw ar Ddydd Gŵyl Ddewi. Bydd ein sefydliadau cenedlaethol, y Senedd, y Llyfrgell Gernedlaethol a’r amgueddfeydd, y cynghorau sir a’r ysgolion, BBC Radio Cymru ac S4C a’r eglwysi yn rhoi sylw i’r Ŵyl ac fe fydd digon yn gwisgo’r genhinen, yn gwledda, yn cyngherdda, canu a gorymdeithio.


Ond mae gennym Eisteddfod Genedlaethol fawr flynyddol ac erbyn hyn mae’n fwy nag ‘eisteddfod’ – mae’n ŵyl i ddathlu ein bywyd fel cenedl, ein diwylliant a’n hiaith. Mae hefyd yn ŵyl i bawb ac yn ymestyn tros wythnos gan grwydro i bob rhan o Gymru ac yn ŵyl i ymhyfrydu ynddi.


Mae dechreuadau cofnodi ein hanes yn mynd yn ôl i gyfnod y Gymraeg yn ymffurfio a’r ffydd  Gristnogol yn gwreiddio ac oherwydd hynny ni allwn bellach feddwl am y naill heb y llall. Yr Eisteddfod felly yw’r unig achlysur cenedlaethol sydd gennym i ddathlu bywyd cyfan ein cymunedau a’n cenedl a bod hynny yn cael ei adlewyrchu yn ein dathlu. Wrth gwrs, byddai angen i’r gwasanaeth gydnabod croeso i grefyddau a diwylliannau eraill i’n gwlad.


Ers blynyddoedd bellach am ryw reswm mae dathlu ein hetfeddiaeth Gristnogol wedi creu anhawster i’r Eisteddfod. Trosglwyddwyd y cyfrifoldeb o drefnu’r gwasanaeth i eglwysi lleol ac oherwydd hynny nid oedd yn cael ei ‘feddiannu’ gan yr Eisteddfod. Roedd ymdeimlad ar adegau bod anhawsterau y codi ynglyn ag amseru’r gwasanaeth gyda rhaglen y steddfod yn mynd yn fwy llwythog.


Yn raddol hefyd collwyd y pwyslais ar yr Eisteddfod yn ‘Dathu bywyd ein cenedl’, er i pob ardal gyfeirio at hynny, wrth gwrs, a’i hetifeddiaeth lleol.


Aeth y gwasanaeth yn fwy ymylol i’r Eisteddfod, ac nid yw’r Eisteddfod ei hun yn rhan weladwy o’r gwasanaeth - mae hynny yn fwy tebygol yn y Gymanfa Ganu efallai, sydd hefyd yn cael ei chynnal ar Sul cyntaf yr Eisteddfod. Ond nid oherwydd y Gymanfa y mae cynulleidfa’r gwasanaeth wedi mynd yn llai, ond mae’r Gymanfa wedi gwneud y gwasanaeth yn fwy ymylol!


‘Mae Cymru bellach yn wlad aml-grefyddol’ yw’r ddadl gyffredin â glywir i geisio ymwrthod â’r honiad fod Cymru yn genedl Gristnogol. Ond mae bod yn genedl yn ddathliad o wreiddiau a hanes sy’n drwyadl Gristnogol a bod yn rhaid adlewyrchu hynny yn yr addoli, fel y mae deunydd crai cynnwys diwylliannol a hanesyddol pob eisteddfod yn ei adlewyrchu. Wrth gwrs, fel nodwyd eisoes, fe fyddai angen i Wasanaeth Cenedlaethol heddiw gydnabod y croeso i grefyddau a diwylliannau eraill i’n gwlad. Lle gwell i ddathlu ein bod yn genedl noddfa?


‘Does fawr neb yn addoli o Sul i Sul beth bynnag’. Dyna honiad arall i ymwrthod â threfu gwasanaeth i ddathlu bod yn genedl Gristnogol. Ond nid yw hynny chwaith yn wir oherwydd led-led Cymru mae nifer fawr iawn yn cyfarfod – mwy nag unrhyw gymdeithas arall - yn eu cymuned i ddathlu cyfoeth ein hetifeddiaeth.


Fe fyddai i’r Eisteddfod feddiannu (gyda chefnogaeth yr eglwysi) ‘Gwasanaeth Cenedlaethol i ddathlu ein Ffydd Gristnogol’ yn ei wneud yn rhan sefydlog ac allweddol o’n Gwyl Genedlaethol ac yn  cael ei gynnal unrhyw amser yn ystod dau ddiwrnod cyntaf yr ŵyl.


Pryderi Llwyd Jones

1 Tachwedd 2026

 
 
 

Comments


bottom of page