top of page

Gwyn ein Byd

Un o’r dadleuon mwyaf diddorol (ac ymfflamychol) a gododd yma yng Nghymru yn ddiweddar oedd yr un am newid arwyddair Eisteddfod Llangollen. Ar un wedd, roedd yn ddadl gwbl ddiangen, ond ar yr un pryd, roedd yn codi nifer o gwestiynau pwysig.


Mae hiliaeth yn rhemp yn ein cymdeithas, ac yn nes atom nag a feddyliwn yn aml. Mae’r recordiad o eiriau a dadogwyd i gynghorydd o Sir Benfro yn ddiweddar yn profi hynny. Ymgais amrwd ydoedd i normaleiddio hiliaeth fel peth cwbl ddiniwed: does dim o’i le mewn croen du, ond inni dderbyn bod pobl groenddu yn israddol i ni’r bobl groenwyn, yw’r ddadl wag (!). Yr un yn y bôn oedd agwedd Goronwy Owen a Chymry eraill ei gyfnod a oedd yn berchen ar gaethweision du yn America. Doedden nhw ddim yn casáu’r caethweision. Ond roedden nhw’n derbyn mai llafurio i’r dyn gwyn oedd eu tynged anorfod nhw yn y byd hwn.


Yn hyn o beth, roedd Gary Lineker yn llygad ei le pan feirniadodd ieithwedd Llywodraeth Llundain – nid beirniadu polisi fel y cyfryw, ond barnu’r ymgais i drin y mudwyr fel pobl israddol, pobl heb hawliau dynol cyflawn. Erbyn i Hitler ddechrau cyflawni ei anfadwaith yn erbyn yr Iddewon, pobl hoyw, pobl anabl a’r Romani, roedd mwyafrif poblogaeth yr Almaen wedi cael eu cyflyru i edrych arnyn nhw fel bodau israddol.


Mae’n bwnc dyrys ac amlweddog iawn, ac nid mater o iaith yn unig yw hiliaeth. Yn wir, wedi llofruddiaeth ddychrynllyd George Floyd – un o’r ychydig y gwyddom amdano o blith miloedd – y slogan a ddefnyddiwyd oedd Black Lives Matter. Yn fwriadol hollol, defnyddiwyd y gair black i dynnu sylw at anghyfiawnderau ac anghyfartaledd llwyr y sefyllfa bresennol, gan osgoi slogan mwy meddal fel All Lives Matter. Ers dyddiau ymgyrchoedd Martin Luther King ac eraill mwy milwriaethus, defnyddiwyd y gair ‘du’ yn gwbl agored a’i arddel fel arwydd o falchder. Does dim o’i le mewn disgrifio person fel person du, ond inni allu gwneud hynny heb arlliw o hiliaeth.


Ond y broblem, wrth gwrs, yw bod ein diwylliant ni, dros gyfnod o ganrifoedd, wedi defnyddio du fel symbol o’r ‘drwg’, a gwyn fel symbol o’r ‘da’. A dyma sut cododd y storm o Langollen. A gellid gosod y bai, yn ôl rhai, ar y Beibl o bopeth!


Un o’r enghreifftiau gwaethaf yw ein bod fel Cymry Cymraeg wedi bod yn canu, tan yn ddiweddar iawn, llinell warthus John Elias am “gannu’r Ethiop dua’n wyn”. Ond nid John Elias yw’r unig bechadur: roedd y duedd i sôn am “bechod aflan, du” a gwaed y groes yn ein golchi’n “wyn a glân”, yn arwain hyd yn oed y goreuon i ddyfroedd peryglus! Gwrandewch ar y Pêr Ganiedydd ei hun:


“Mae ffynnon ar y bryn, a ylch yn wyn a glân,

Bechodau o’r ffieiddia erioed, rifedi’r tywod mân.

Fe ganna’r Negro du, fe ganna’r Indiad draw;

Fe faddau i’r oes y sydd, fe faddau i’r oes a ddaw”.


Does ond gobeithio y bydd maddeuant hefyd i filwyr yr Ymerodraeth Brydeinig (a’r Ymerodraethau eraill) a fu’n ysbeilio gwledydd Affrica a’r India. Does ond gobeithio y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn gweld nad oedd y gormeswyr i gyd yn wyn a glân, a’r gorthrymedig i gyd yn ddu ac yn frwnt!



bottom of page