top of page

Gwna ni'n Samariaid......



Pa mor fodlon ydyn ni i helpu ein cymdogion? Ydyn ni wedi blino gormod, wedi gorffen ein gwaith am heddiw, neu yn teimlo taw nid ein swydd ni yw hi? Ydyn ni'n cerdded heibio?


Roeddwn ar fy ffordd 'nôl o'r gwyliau, ac yn edrych yng ngorsaf Nice am fanylion platfform y trên nos i Baris, lle oedd couchette gyda fi. Ugain munud cyn yr amser i'r trên ymadael, doedd dim byd ar yr hysbysfwrdd. Dechreuais bryderu. Es i holi, ond roedd y swyddfeydd i gyd ar gau. Yr unig berson oedd ar gael oedd dyn bach gyda securité ar ei fathodyn, yn siarad â menyw o'r un oedran â fi. “Na,” meddai, “mae wedi ei ganslo”. “Ond dwi i'n hedfan 'nôl i Ganada yfory” oedd ei hateb. “Wel” medd y dyn bach “Bydd rhaid i chi aros mewn gwesty dros nos, a dala trên peth cyntaf bore yfory. Mae 'na westy ochr draw'r ffordd.”


Erbyn hyn o'n i wedi ymuno â'r ymgom: “dyw'r gwesty hwnnw ddim yn edrych yn dda iawn, mae golwg flêr arno.” ‘ Fe wn am un gwell” oedd yr ateb mewn acen Québecois. Aethom ein dwy i'r gwesty arall (sydd yn enwog am fod Tchekhof a Lenin wedi aros yno) a minnau yn sicr na fyddai ystafell ar gael mewn lle mor dda, ac erbyn hyn roedd hi'n hwyr, tua wyth o'r gloch. Ond na, “mae un ystafell lan stâr ar ôl”. Felly lan â ni yn y lifft, finnau gydag un bag maint cabin, a'm cyfaill gyda dau siwtcês mawr heb sôn am gwpwl o fagiau eraill hefyd.


Wrth i ni geisio dod mâs o'r lifft, fe wnaethom faglu dros fenyw arall. “Sori” dywedais i, “rydyn yn cael amser anodd heno. Mae ein trên nos ni ar streic.” “O” meddai hi...


Agorodd ei siaced i ddangos bathodyn SNCF, cwmni trên Ffrainc. “Dw i'n siwr y byddaf yn gallu helpu.” Daeth i mewn i'n hystafell ac eistedd wrth y bwrdd. Roedd trên yn mynd i Baris am saith yn y bore, ac roedd hyn yn siwtio, o ychyig funudau, amser hedfan yr awyren i Montreal. Ond roedd fy achos i yn fwy anodd. “Dw i ddim yn gallu gwneud dim i newid eich Eurostar, mae ‘nhw yn gwmni ar wahân. Ac o Lille oeddech i fynd, onid e? Mae rhaid i fi ffonio'n nghydweithiwr ym Marseille.”


A dyna beth wnaeth hi a bu trafod am bron hanner awr. Yn y diwedd, ‘roedd yn rhaid i mi ddala trên am saith o'r gloch (“byddaf yn cerdded i'r orsaf gyda chi ac esbonio i'r staff beth sy'n digwydd”) o Nice i Marseille, ac wedyn un arall o Marseille i Lille Flandres (“byddaf wedi rhoi gwybod iddyn nhw ym mlaen llaw”), siwrnai o bump awr. ‘Roedd deg munud wedyn gyda fi i groesi i Lille Ewrop.


“Diolch i Dduw am eich help,” dywedais . A diolch enfawr i Madame SNCF, oedd wedi treulio cymaint o amser yn helpu pobl doedd hi ddim yn eu nabod, heb unrhyw syniad o wobr na chlod.


Gwna ni'n Samariaid o un fryd.





bottom of page