Gwisgo i fyny
- garethioan1
- Jun 8
- 2 min read
Pwy arall sy'n teimlo fod gwisgo plant bach i fyny mewn costiwms sy'n ddim mwy na gwisg ffansi, yn gwneud sbort o'n llyfr sanctaidd ac yn troi'n fabïaeth yr hyn ddylai fod yn ymdrech i weld ni'n hunain yn yr Ysgrythur?
Mae gosod lliain golchi llestri am ben Adda, y ffermwr cyntaf; clymu dressing gown am ganol Noa ac yntau yn anterth ei alcoholiaeth a'i PTSD wedi dilyw; neu hyd yn oed lapio ffoadur fel Rwth a'r hen hoeden, Delila, yng nghyrtans Nain, yn osgoi'r pwynt. Ar ei waethaf, mae'n ymwadu â phwrpas cael llyfr sanctaidd o gwbl.
Dim cyfrifoldeb. Dim drych arnom ni'n hunain. Dim pwysau i ddehongli hanesion Y Beibl yn nhermau tragwyddol y ddynoliaeth na greddfau digyfnewid y natur ddynol. Dim cyd-destun. Dim byd. Mae'n ein gadael yn ddiamddiffyn ac yn anwybodus o noeth i fyw yn y byd go iawn.
Mae'n debyg mai ar y Nadolig y gwelwn hyn ar ei waethaf, ond mae hefyd yn amlwg i mi ym mhob cystadleuaeth Llefaru o'r Ysgrythur mewn gwyliau bach a mawr.
Bryd hynny, nid y gwisgo i fyny sy'n ffuantus.ac yn ffug, ond y lleisio plentynnaidd wrth bortreadu dyn ifanc, gwleidyddol-ymwybodol, a lwyddodd i newid cwrs y byd.
Does dim dwywaith i mi bod ein methiant i fynd i'r afael â thestunau y Llyfr Mawr, hefyd yn cyfrannu at ein hanallu i'w amddiffyn neu hyd yn oed fentro deall seiliau ein ffydd.
A ydw i'n gorsymleiddio wrth grynhoi mai profiadau pobol fel chi a fi dros 4,000 o flynyddoedd, yn eu perthynas, eu hymrafael, eu hymwadiad, yn ogystal â'u cyfarfod a'u cyffyrddiad gan yr Ysbryd Glân, sydd yn llond holl lyfrau'r Gair.
Os na allwn weld ein breuder, ein gwendid a'n hunanoldeb da-i-ddim yn hunangofiannau yr Hen Destament a'r Newydd, waeth i ni dynnu'r bleinds a rhoi'r gorau i smalio mor smyg.
Dewch i ni roi'r cyfle i bawb o bob oed ddod i ‘nabod Duw sydd o fewn cyrraedd heddiw, yn union fel ag yr oedd i labwst fel Moses mewn oes arall. Onid dyna ydi'r gobaith a atgyfodwyd gan weinidogaeth Iesu Grist... Ond mae rhoi gwisgoedd ffansi am blant yn ciwt, ac yn dipyn haws i bawb.
Karen Owen
8 Mehefin 2025
Comments