Ers 19 mis dwi wedi bod nôl yng Nghymru, ar ôl derbyn swydd fel Canon Bugeiliol yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Ond cyn hynny, am 17 o flynyddoedd, fues i’n offeriad yn ne ddwyrain Llundain.
Roedd fy eglwys St Catherine, Hatcham yn Telegraph Hill yn eglwys aml-hiliol, aml-ddiwylliannol, aml-ieithog, aml-ddiwinyddol. Roedd 10 iaith gwahanol yn ein cynulleidfa bob dydd Sul. Roedd traean yr aelodaeth o Nigeria, traean o Jamaica, a’r traean olaf yn gymysgedd llwyr, ond yn bennaf yn bobl wyn o Brydain. Roedd croesdoriad eang iawn o ran ein gwleidyddiaeth, celfyddyd, a chefndiroedd cymdeithasol. Wrth i ni gyfnewid arwydd o dangnefedd Crist Sul ar y Sul, ‘roedd yn teimlo fel petae’r byd i gyd wedi ymgasglu yn ein heglwys fach ddigon cyffredin, mewn cwr anhysbys o dde Ddwyrain Llundain.
Doedden ni ddim yn cytuno fel cymuned eglwysig ar bob peth. Doedd rhai ddim yn or-hoff o Ficer benywaidd ar y cychwyn ac roedd cymuned sylweddol o’r gymuned LGBT yn rhan o’r eglwys ac yn cyd-fyw gyda rhai oedd yn llawer mwy ceidwadol o ran eu safbwynt ar rywioldeb.
Ond wrth wraidd ein cymuneb roedd cariad, parch a goddefgarwch. Roedden ni wedi dysgu sut i garu’n gilydd er gwaethaf ein gwahaniaethau. Fe lwyddom i ‘neud hyn dros lawer o flynyddoedd – cyn fy amser i – ond yn allweddol i’r broses o greu cymuned cariadus a goddefgar oedd cerdded yn ‘moccasins’ ein gilydd.
Roeddem ni, ers degawdau wedi bod yn eglwys oedd yn gwrando ar ein gilydd, yn bwyta gyda’n gilydd, yn addoli gyda’n gilydd. Ond roedden ni hefyd yn cyd-sefyll gyda’n gilydd – mewn ffyrdd ymarferol – nid dim ond ar lefel ddeallusol.
Dwi ddim yn hollol sicr beth oedd cyfrinach eglwys St Catherine – ondroedd ganddi agwedd ostyngedig – yn ogystal ag ochr ddireidus, llawn hwyl a sbri.
Wrth i ni gyrraedd cyfnod hanesyddol pan mae’r asgell dde yn cynyddu yn ei phŵer, a phobl yn terfysgu oherwydd mewnfudiad ac yn dangos atgasedd tuag at ffoaduriaid, mae’n rhaid i ni fel Cristnogion ystyried yn ddwys sut mae creu cymunedau mwy agored a goddefgar. Mae’n rhaid i ni fod yn fwy parod i adeiladu pontydd, i hwyluso dealltwriaeth ac i fod yn fodelau o gymunedau sy’n gwrando ac yn rhannu’n ddwfn – hyd yn oed pan nad ydyn’ ni’n llwyr cyd-fynd â’n gilydd.
Mae goddefgarwch a thrugaredd yn nodweddion hanfodol cymdeithas Gristnogol iach – a dylai pob cynulleidfa ganolbwyntio ar gynyddu’r rhinweddau yma yn eu mysg.
I wneud hyn mae angen i ni fod yn fwy gonest fel Eglwysi, yn fwy parod i gyd-fyw gyda gwahaniaethau, i dderbyn nad yw ein safbwynt personal ni yn safbwynt pawb, mae’n rhaid i ni ddyfnhau ein dealltwriaeth o’r eglwys lân gatholig gwir leangfrydig.
Mae hyn i gyd yn waith caled. Yn weddi ac yn waith oes. Ond wrth i ni fod yn rhan o gymunedau sy’n gwrando, sy’n caru, sy’n ymroi , fe fyddwn yn dilyn yn olion traed yr Un a roddodd ddameg y Samariad Trugarog i’r byd.
Parchedig Ganon Angharad James,
Canon Bugeiliol, Eglwys Gadeiriol Tyddewi.
8 Medi 2024
Comments