top of page
Search

Gwas Bach

10 minutes ago
2 min read

Rydym yn byw mewn amseroedd cynyddol beryglus fel bodau dynol. Er mor syfrdanol y cynnydd a welir mewn dysg a gwyddoniaeth nid yw bywyd ar wyneb y ddaear hon yn fwy dedwydd na diogel. Yn wir, mae ein bywydau yn cael eu bygwth yn gynyddol gan dwf technoleg. Y cwestiwn y mae'n rhaid ei ofyn yw: pam y twf mewn casineb a thrais ym mywyd y ddynoliaeth?

 

Adeg yr etholiadau yn UDA rai wythnosau yn ôl sylwais, ar ddarllenfa un o'r ymgeiswyr, y geiriau, ‘Câr dy gymydog’. Rhagorol, meddwn i. Dyna'r hyn a elwir yn ‘Rheol Aur’. Ond y cwestiwn allweddol yw sut y gellir argyhoeddi llywodraethwyr byd mai dyna'r ffordd i sicrhau diogelwch iddynt hwy a'u cenhedloedd.

 

Mae lleisiau ysbrydol y canrifoedd wedi sôn am ffyrdd tangnefedd a gras. Ond am amrywiol resymau boddwyd y lleisiau hynny gan ddilornwyr croch a fethai roi clust garedig a graslon i syniadau gwahanol i'w rhai hwy. Rhaid ni gyfaddef ein bod ni wedi methu, yn aml oherwydd rhagfarnau crefyddol neu enwadol.

 

Ond pwy sy'n cael clywed y neges? Ystyrier hanes Duw yn llefaru yn y deml. Nid yr un amlwg a gafodd  neges gan Dduw. Fe allai Eli fod wedi dweud wrth Samuel, "Y tro nesa y daw'r llais, dwed ti wrth Dduw, "Llefara - rydym ni'n dau yn gwrando".  Roedd angen gwyleidd-dra ysbrydol ar Eli, a gras, i adael i'r plentyn yn unig wrando - gwrando yn weddigar ar Dduw. Hanfod y ddeialog  ysbrydol rhwng Duw a dyn yw  gwrando gyda chariad a gras ar y neges a ddaw ar brydiau drwy'r plentyn ysbrydol. Daw'r genadwri i'r gwas: yn annisgwyl i'r gwas!

 

Ond gwas pwy ydyw? Gwas Eli fyddai'r ateb parod gan addolwyr yn y deml. Ond na, meddai'r Beibl. A “Na” meddai Eli ei hun, yr hen offeiriad. "Llefara Arglwydd, canys  y mae DY WAS yn clywed". Gwyddai Eli mai gwas at wasanaeth Duw oedd Samuel, er mor rhyfedd y neges. A'r eironi yw mai dyna'r anghenraid pwysicaf: ein bod ni yn gwrando gyda chariad a gras ar neges Duw pwy bynnag yw'r negesydd.

 

Cariad a gras yw prif genadwri Duw i'n byd. Ond bydd Duw yn disgwyl hefyd inni wrando ar y neges honno a'i dehongli gyda chariad a gras. Wrth inni  wneud hynny byddwn yn rhoi gwrandawiad graslon i'w genadwri. Felly, ni fydd lle i groesi cleddyfau nac ymrafael rhwng crefyddau nac athrawiaethau. Anogwn Gristnogion a Mwslemiaid i ymroi i chwilio am fannau cyffredin rhyngom i sefydlu rhaglenni ar gyfer cydweithio a chydaddoli.

 

Bydd yn rheidrwydd arnom ni i wrando gyda gras a chariad ar ein cyd-grefyddwyr o bob crefydd a ffydd, gan fod yn barod i ddysgu ganddynt wirioneddau am ein bywydau ysbrydol ni ein hunain. Duw a'n gwaredo rhag bod mor falch a hunandybus nes credu mai'n gweledigaethau ni sydd orau. Byddwn yn barod fel Eli i wybod y daw adegau y bydd Duw yn dewis siarad â Samuel bach yr Hindŵ yn hytrach nag Eli yr hen offeiriad.

 

(1 Samuel 3.1-10; Mathew 18.1-3; Effesiaid 5.1. The Bible: A Biography, Karen Armstrong. )

 

John Gwilym Jones

22 Tachwedd 2026

 

 
 
 

Comments


bottom of page